Skip to main content

Posts

Ymsonau Bachgen mewn dau gyfnod gwahanol - Beca Hughes

Mae Beca wedi mynd ati i sgwennu dwy ymson... mwynhewch Ymson bachgen mewn dau gyfnod gwahanol yn ei fywyd Ymson Ifan: Yn ystod y rhyfel byd cyntaf Rhyddid. Be ‘di hwnnw? Peth diethr iawn i mi. Rwy’n breuddwydio am fynd tu draw i fynyddoedd Eryri a gweld y byd go iawn. Rwy’n breuddwydio am gael gweld y dinasoedd mawr a’r golygfeydd godidog; ymweld a’r llefydd mwyaf ysblennydd yn y byd. Rwy’n dyheu am gyfarfod pobl newydd, pobl wahanol i bobl y chwarel. Ond na, mae’r chwarel yn garchar ac yma fyddai fyth, diolch i Wil, fy ‘mrawd’. Mae o’n teimlo fel breuddwyd, ond yn fwy fel hunllef, ond dwi’n gobeithio deffro. Deffro o’r hunllef afiach dwi’n ei ganol. Wil yn listio, Wil o bawb! Ni fysa Wil yn rhoi niwed i bry heb son am ladd gyd-ddyn. Mi fydd o yn union fel oen i’r lladdfa yn y fyddin, dydi’r fyddim ddim yn le iddo. Rwy’n teimlo’n ddrwg am y peth, ond pam ddylwn i? Ei benderfyniad o ei hun oedd listio, penderfyniad gwirion iawn. Dwi’m yn gallu coelio yr hyn mae Wil wedi’i...

Y Daith - Tom Davies

Tom yw awdur y dydd heddiw... Y Daith          Roedd hi’n noson galed yn y gwersyll gan fod twrw gwrthdaro diddiwedd i’w glywed yn glir. Sŵn dynion dewr yn bloeddio mewn poen, a merched a’u plant yn sgrechian dros eu colled ag i dynnu sylw unrhyw un oedd ar gael i’w helpu. Tra’r roedd y ffrwydradau yn dallu’r bobl o ddistawrwydd, roedd y plant yng ngwersyll y ffoaduriaid i gyd yn gorwedd wrth ymyl ei gilydd ar ddarn o flanced lydan i’w cadw oddi ar y llawr, ac un blanced amdanynt i’w rhannu, rhwng pedwar. Roeddent i gyd yn crynu gan ei bod hi’r noson oeraf o Ragfyr a doedd ganddynt brin unrhyw beth i’w cadw yn gynnes. Roedd y mamau yno yn trio eu cysuro a thynnu eu sylw o'r hyn a oedd yn mynd ymlaen yn Aleppo.          Doedd y daith o’r ddinas ddim wedi bod yn rhwydd i’r rhain o gwbl. Fe'u gorfodwyd i adael eu bywoliaeth a'u cartrefi gan fod eu bywydau mewn perygl, gan golli nifer o ddynion ar y f...

Cwm - Hedd Edwards

Un arall llwyddiannus yn yr Eisteddfodau lleol ydy'r stori yma gan Hedd Cwm Bownsiai’r gragen fetel goch ar hyd y lon fawr tuag at Y Bala. Roedd hi’n ddiwrnod braf o haf, yr haul yn chwerthin a'r cymylau wedi mynd ar eu gwyliau i’r gogledd. Gwibiai ambell i aderyn mawr heibio gan geisio dioddef y seren yn llosgi eu cefnau ond roeddent yn benderfynol  o gael gwledd . Yn canu uwchben y mynyddoedd oedd corws pluog yn dawnsio a nofio drwy’r awyr yn creu patrymau prydferth fel petai nhw’n ceisio diddanu’r coed. Sefyllian yn syth roedden nhw ar ôl misoedd o ddawnsio gyda’r gwynt, ar bywyd gwyllt o’u crombil wedi mynd allan am y diwrnod.   Yng nghefn y car, yn syllu ar y gwyrddni roedd Nani Ha’. Llenwai ei chlustiau â cherddoriaeth fodern llawn sothach ac roedd arogl persawr cryf ei merch yn boddi ei ffroenau. Yn eistedd yn ddiog wrth ei hochr oedd ei nai Gareth. Ei siwmper Jack Wills drud a'i drowsus tracwisg du yn rhoi golwg gyffredin iawn iddo gan wrthgyferbynnu gyda ...

Drych - Bethan Mair

Hen stori ydy hon, wedi'i hysbrydoli gan fy mam Drych Torrodd yn deilchion!  Gallai ddweud ar sŵn yr eco drwy’r tŷ ei fod yn fil o ddarnau mân.  Edrychodd hithau ar yr olygfa gyfarwydd o’i blaen a gwenu.   Gwên hapus a ledai drwy’r wyneb tlws.  Un y gellid gweld ei adlewyrchiad yn y llygaid crisial glas, ac yn y ddau bant yn ei boch.   Gwên wedi’i fframio â minlliw pinc.  Troellodd gyrlen o amgylch ei bys ac edrych ar y gwallt tonnog brown yn llifo ar y ‘sgwyddau main, a’r les   yn orchudd gwarchodol ysgafn dros y cyfan. ‘Glywis di? Yr ail blât bora ma’! Dwn im be su haru’r dyn...’ Ynghanol ei phregethu, rhoddwyd taw arni gan yr hyn a welai o’i blaen.  Gwyrodd ei phen a brathu’i gwefus yn ofer, roedd y dagrau wedi hen ddisgyn lawr ei grudd. ‘Ti’n bictiwr cofia... ‘di bod erioed dwi’m yn deud ond...’ *             *             * ...

Y Tatŵ - Ceri Jones

Ffordd dda o ddod i adnabod y myfyrwyr ydy'r dasg t atŵ. Ai ffuglen ynteu ffaith ydy'r stori hon gan Ceri? Y Tatŵ ‘Ma mam yn mynd i’n lladd i pan gyrrhaedda i adra! Gobeithio fod gan nain le yn yr ystafell sbâr i mi at heno. Er, unwaith fydd o ar ym mraich i, does na’m byd fedr yr un o’r ddwy ei wneud. Dim ond gwylltio’n gandryll a gweiddi nerth eu pennau, ond newidyth hynny ddim byd. Mi fydd o yno a dyna fo. Dwi’n gwbod yn union be ddudith dad ‘i be ti isio shed ar dy fraich’ a dyna fydd pawb arall yn feddwl hefyd ‘ma siwr, ond ‘dio’m bwys, be ‘ma’n olygu i mi sy’n bwysig. Ddim fod mam am i gweld hi felly. Rhaid i mi stopio meddwl am hyn neu mi fyddai ‘di newid yn meddwl a gwneud y peth call a chyfrifol a mynd ‘adra, a dwi’m isio hynny! Ma’r ‘boi bach ifanc ma’n edrych fel fod o’n mynd i basio allan unrhyw funud, a mond cael dylunio’i datŵ mae o! Er, unwaith fydda i’n ‘isda yn y gadair fawr ledr ‘na, ‘dwn i’m sut fydda i’n teimlo chwaith. Pam fod angan cadair mor fra...