Skip to main content

Ymsonau Bachgen mewn dau gyfnod gwahanol - Beca Hughes

Mae Beca wedi mynd ati i sgwennu dwy ymson... mwynhewch

Ymson bachgen mewn dau gyfnod gwahanol yn ei fywyd

Ymson Ifan: Yn ystod y rhyfel byd cyntaf

Rhyddid. Be ‘di hwnnw? Peth diethr iawn i mi. Rwy’n breuddwydio am fynd tu draw i fynyddoedd Eryri a gweld y byd go iawn. Rwy’n breuddwydio am gael gweld y dinasoedd mawr a’r golygfeydd godidog; ymweld a’r llefydd mwyaf ysblennydd yn y byd. Rwy’n dyheu am gyfarfod pobl newydd, pobl wahanol i bobl y chwarel. Ond na, mae’r chwarel yn garchar ac yma fyddai fyth, diolch i Wil, fy ‘mrawd’.
Mae o’n teimlo fel breuddwyd, ond yn fwy fel hunllef, ond dwi’n gobeithio deffro. Deffro o’r hunllef afiach dwi’n ei ganol. Wil yn listio, Wil o bawb! Ni fysa Wil yn rhoi niwed i bry heb son am ladd gyd-ddyn. Mi fydd o yn union fel oen i’r lladdfa yn y fyddin, dydi’r fyddim ddim yn le iddo. Rwy’n teimlo’n ddrwg am y peth, ond pam ddylwn i? Ei benderfyniad o ei hun oedd listio, penderfyniad gwirion iawn. Dwi’m yn gallu coelio yr hyn mae Wil wedi’i wneud, a dwi’m yn meddwl fyddai byth yn deall pam.
Cachgi. Dyna fydda i o hyn ymlaen i genod yr ardal, dim byd ond cachgi. Fyddai byth yn un o’r dynion dewr mewn lifrai crand. Dim ond hogyn bach sy’n gweithio’n chwarel. Dw i wedi cael llond bol o’r chwarel. O fore gwyn dan nos yr oll rwy’n gweld yw ochrau’r chwarel fel y waliau tu fewn i garchar, dw i methu dianc. Roedd gan Magi a finnau blaniau mawr; roeddem am fynd i ffwrdd i briodi. Dwi wedi meddwl am sut briodas buaswn yn ei gael ers pan oeddwn yn fachgen ifanc ym mhriodas fy anti Enid. Ond dydi hynny ddim yn bosib rhagor, fydd Magi rwan yn edrych i lawr arnai, ac mae’r bai i gyd ar Wil.
Yr oll dwi’n gweld yw coch ymhobman. Rwyf wedi cael fy mradychu, gan fy mrawd fy hun. Pwy mae Wil yn feddwl ydi o? Ia, dwi’n gwybod ‘na trio edrych ar fy ôl mae Wil, ymuno a’r fyddin fel fy mod i’n cael peidio, ond dim dyna dw i eisiau, dw i eisiau ymuno! Mae o wedi mynd yn rhy bell y tro yma. Rwy’n hiraethu am dad fwy nac erioed, mi fysa fo’n gwybod beth i’w wneud nesa, roedd o wastad yn gwybod. Rwy’n dyheu am ogla cryf ei sigarets. Rwy’n dyheu am ei gyngor doeth, ac yn fwy na dim, ei gwmni. Mi roedd o’n fy nallt i, mwy nag oedd Gwil a Mam erioed yn gallu. Mi fysa ymuno a’r fyddin wedi gwneud dad yn browd ohonai.
Mae’r chwarel yn ddistaw fel y bedd heddiw, ond sŵn y gwynt yn chwibiannu yn fy nghlustiau. Pe bai’r chwarel yn gallu siared ni fysa modd ei stopio, mi fysa canoedd ar ganoedd o straeon yn cael eu hadrodd a chwerthin a sgwrsio yn llenwi’r pentref. Ond erbyn heddiw, does fawr o neb ar ôl yn y chwarel, mae bron pawb wedi ymuno â’r fyddin, neu wedi symud i ffwrdd.
Mae’r Cymry fy angen i. Mae nhw angen dynion cryf a dewr sy’n barod i wynebu unrhyw her sydd o’u blaenau, fi yw’r dyn i hynny! Dw i ddim ofn unrhyw beth a dwi’n gorffen pob tasg rwy’n ei gychwyn. Fedrai’m cael y geiriau o’m mhen, “Anibyniaeth sydd yn galw am ei dewraf dyn”. Mae o fel fod rhywun yn gweiddi’r geiriau drwy’r dydd arnaf, mae nhw fy angen i. Dw i’m yn dallt pam nad oedd Wil yn gadael i mi ymuno, pa ddrwg fysa hynny wedi’i wneud?
Ond be os ‘di Wil yn iawn? Be os dwi’m yn barod i fynd i ymladd dros fy ngwlad? Y cwestiwn mawr yw, ydw i’n barod i allu lladd cyd-ddyn? Dwi’m yn gwybod os ydw i bellach. Edrych fewn i lygaid dyn arall, llygaid llawn tristwch, a’i saethu yn farw, mae angen guts i wneud rhywbeth fel ‘na. Be os oes ganddo wraig a phlant adref, yn aros amdano i ddychwelyd yn ôl. Yna’r wraig yn gorfod dweud wrth ei phlant na fydd eu tad yn dod adref. Na, fedrai’m bod yn gyfrifol am hynny. Mam. Mi fysa Mam yn torri ei chalon o glywed fod un o’i meibion wedi cael eu lladd, methu dod dros y peth. Mae hi wedi mynd drwy gymaint ar ôl colli dad yn y ddamwain ychydig o flynyddoedd yn ôl, fedrai’m bod yr un sy’n gyfrifol o’i rhoi hi fewn y fath stad unwaith eto, fedrai ddim. Mae’r tŷ yn wag ers i dad fynd. Mae llyniau dad wrthi yn hel llwch yn nenfwd yr ystafell ar dop y dresel, dydi Mam methu dioddef eu gweld, yn ei hatgoffa o’r cyfnodau hapus. Yr unig bobl sy’n gwenu adra yw llyniau’r teulu sydd gan mam i fyny ar hyd y dresel fawr yn y ‘stafell fyw.  Atgofion melys plentyndod Wil a finnau.
Dwi ‘di trio dweud i Wil fydd y rhyfel drosodd erbyn ‘dolig. Mi fyswn yn dod yn ôl adra ychydig o ddyddiau cyn diwrnod ‘dolig, mi fyswn teithio i fyny’r allt serth ac yn gweld torf o oleadau nadolig Mam i fyny ar hyd y ffenestri, fel rhes o lygaid gloywon yn syllu arnaf. Mi fyswn adra erbyn ‘dolig. Mae pawb yn dweud fod y rhyfel am ddod i ben yn fuan.
Dw i wedi cael fy siomi gan Wil. Ydi o wir yn meddwl y buaswn ddim yn gallu dioddef y rhyfel? Dydw i erioed wedi bod mor flin ac ydw i rwan. Rwyf wedi cael fy mradychu, ac mae o’n brifo. Mae hi’n amser i mi ddweud ta ta i fy mreuddwydion rwan, gan fod Wil wedi mynnu eu dwyn. Ymuno a’r fyddin oedd fy unig obaith i ddianc o ddwylo’r chwarel

Ymson Ifan: Ar ôl y rhyfel byd cyntaf

Fy mai i oddo. Bai fi a neb arall. Mi fyswn i’n gwneud unrhyw beth i droi’r amser yn ôl, ond dydi hynny ddim yn bosib. Fi di’r rheswm pam dydi Mam byth yn gallu cael noson llawn o gwsg, heb ddeffro o hunllef. Fi di’r rheswm pam fod Mam yn mynd dyddiau heb adael y tŷ. Mi ddylswn fod wedi gorfodi Wil i beidio ymuno a’r fyddin yn fy lle, ond nes i ddim.
Mae yna flwyddyn cyfa wedi mynd heibio ers i Wil farw. Blwyddyn! Mae o’n teimlo’n fwy na hynny. Mae bob diwrnod yn teimlo’n hirach heb Wil. Rwy’n cofio y diwrnod yn iawn fel petai o ddoe. Y diwrnod cafodd Mam a fi’r telegram. Ond newyddion drwg oedd yn y telegramau â oedd yn cael eu anfon i’n ardal ni, felly roedd Mam a fi’n disgwl y gwaethaf. Disgynodd Mam i fy mreichiau mewn sioc, yn beichio crio, yn gweiddi ei enw. Dw i’n ei gofio fel petai o ddoe.
Mae’r tŷ hyd yn oed yn fwy wag wan. Ond Mam a fi ar ôl yn Awelon. Dw i’m yn cofio y tro dwytha i rhywun chwerthin yn ein tŷ, mae o fel fod yna gwmwl du uwch ein penau ers i Wil fynd, sy’n ein dilyn bob awr o’r dydd. Rwy’n ei weld o weithiau, yn sefyll weth ymyl y lle tân, mor agos, ond yna mae o’n diflannu. Dw i eisiau gafael ynddo yn dynn, dynn ac erfyn arno i ddod yn ôl adref. Dw i dal i obeithio mai camgymeriad oedd y telegram, eu bod wedi cael y dyn anghywir. Dw i’n gobeithio y daw Wil yn rhedeg drwy’r drws ffrynt, i fewn i freichiau Mam a fi.
Sut fues i mor wirion? Roeddwn mor wirion i feddwl y fysa’r rhyfel fawr ar ben erbyn y Nadolig. Erbyn y Nadolig mi fysa pob milwr yn ôl gyda’u teulu’n hapus braf. Ond na, yn amlwg nid oedd hynny am ddigwydd. 4 mlynedd! 4 mlynedd o ryfel a wnaeth arwain at farwolaeth fy mrawd, fy unig mrawd. A finnau yn meddwl y byswn adref erbyn y Nadolig. Gobeithio na dim dyna pam wnaeth Wil listio yn fy lle, gan ei fod o’n meddwl y fysa fo adref mewn tair mis. Mi roedd o yno am lawer mwy ‘na hynny.
Dwi i’n ei fethu o mwy bob diwrnod. Bob tro dw i’n gweld un o hogia’r chwarel, â aeth i’r rhyfel a drwy lwc dychwelyd gartref, dw i’n teimlo poen enfawr, galar. Mae nhw wedi cael dod adref, pam chafodd Wil ni ddim? Dw i dal yn galaru amdano, nid oes diwrnod yn mynd heibio pryd dw i ddim yn meddwl amdano.
Ddylswn i wedi mynnu mynd yn lle Wil i’r fyddin, dylwn i heb fod wedi cymud na fel ateb. Roeddwn yn gwybod yn iawn fod Wil ddim ffit i fod yn filwr, roedd ganddo galon rhy fawr i ladd dyn arall. Mae meddwl am Wil yn ofn am ei fywyd drwy’r dydd, bob dydd mewn gwlad diethr yn gwneud i’m stumog droi. Pan roeddwn i a Mam yn cysgu mewn gwely clud, roedd Wil yn cysgu ar y llawr mae’n debyg, prin yn gallu cysgu, yn ofni yfory.
Mae o ‘di bod yn flwyddyn anodd iawn heb Wil. Mae’r diwrnod yma am fod yn un anodd am byth, diwrnod marwolaeth Wil. Cofio ei fywyd hapus, cyn i bob dim droi’n chwerw o achos y rhyfel. Dydi Wil heb gael y cyfle i ddechrau teulu, priodi merch a byw bywyd llawn. Fy mai i yw hyn, fy mai i yw hyn, fy ma...

Comments

Popular posts from this blog

Am dro i Ben y Cil - Emrys Evans

  Pen Y Cil Ym mhen draw Llyn, mae pentir carregog yn ymestyn i'r mor, yn trio ei ora i gydio  yn yr ynys sydd yn gorwedd o'i flaen. Ar ddiwrnod cymylog o fis Medi, mae'r llystyfiant a oedd yn llawn lliw a bwrlwm ychydig fisoedd yn ol, yn sefyll yn frown ac yn grimp erbyn hyn. Mae'r aer yn dawel, dim ond swn y frwydr ddiddiwedd rhwng y creigiau a'r cefnfor, yn taro yn erbyn ei gilydd bob eiliad sy'n pasio. Bob hyn a hyn, mae sgrech yr wylan neu swn giat yn hollti trwy sain undonog y mor, cyn dychwelyd i'r gylchred gyfarwydd yna unwaith eto. Weithiau hyd yn oed, mae swn awyren yn ein hatgoffa o’r byd dynol, er ei bod yn ddigon hawdd anghofio amdano mewn lle mor wyllt. Yn aml, mae dwr mor yn ffrwydro i fyny o bob ochr, ac yn darparu haen o halan hallt ar y creigiau sydd ym mhobman yma. O flaen y pentir, mae llethr serth y parwyd, golygfa fygythiol i unrhyw un sydd yn rhoi ei lygaid ar y darn enfawr o graig yma. Ar olwg agosaf, mae cymlethdod enfawr i glo...

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...