Skip to main content

Newid - Myfi Fennwick

Newid

Wedi'i hysbrydoli gan thema'r Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol 
Myfi aeth ati i sgwennu cerdd.


Yn berfedd i’r pridd, pwyra pob cawr wddf i’r wybren fru,
Er hagr yw pob enaid, maes o law nid newid sydd,
Yn sgil cwyn y gapan cornicyll, troedio mewn rhyddid wna enaid glan,
Gan fwydo ar feini llwydion, a chodi gwreiddiau o grombil tan.

Hollta’r tir yn hanner gan buro baw ym mwrlwm bryn,
Gan wegian dan bwysau moesau sydd eisioes yn tynnu’n dynn,
A chraith ar gramen gwan yw plyg pob pwyth y bladur lafn,
Yn atgof o ennyn ein hanes, a hwnnw’n frwydr am feiddio barn.

Ac felly, golcha yn dy ogoniant, dyro drawiad ar ddrygni’r drefn,
Paid dioddef llafn y gyllell, yn faich ar wasg dy gefn,
Oherwydd o lefain llafn y cliw cwyn mewn pob cri,
Yn sgil newid tro at fynydd a gwna yn gnawd amdana ti.

Comments

Popular posts from this blog

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...

Drych - Bethan Mair

Hen stori ydy hon, wedi'i hysbrydoli gan fy mam Drych Torrodd yn deilchion!  Gallai ddweud ar sŵn yr eco drwy’r tŷ ei fod yn fil o ddarnau mân.  Edrychodd hithau ar yr olygfa gyfarwydd o’i blaen a gwenu.   Gwên hapus a ledai drwy’r wyneb tlws.  Un y gellid gweld ei adlewyrchiad yn y llygaid crisial glas, ac yn y ddau bant yn ei boch.   Gwên wedi’i fframio â minlliw pinc.  Troellodd gyrlen o amgylch ei bys ac edrych ar y gwallt tonnog brown yn llifo ar y ‘sgwyddau main, a’r les   yn orchudd gwarchodol ysgafn dros y cyfan. ‘Glywis di? Yr ail blât bora ma’! Dwn im be su haru’r dyn...’ Ynghanol ei phregethu, rhoddwyd taw arni gan yr hyn a welai o’i blaen.  Gwyrodd ei phen a brathu’i gwefus yn ofer, roedd y dagrau wedi hen ddisgyn lawr ei grudd. ‘Ti’n bictiwr cofia... ‘di bod erioed dwi’m yn deud ond...’ *             *             * ...