Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.  
A hithau'n flwyddyn y môr, lle sydd well 'na thraethau Llŷn?
Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso.  
Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu.   
Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân.  Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth.
 Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel.  Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno.
Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiriau meddal ac yn cadw eu pysgod arian gwerthfawr mewn bag Asda. Mae’r wylan wen olaf yn hedfan am ei nyth ac mae’r sêr yn agor eu llygaid yn gysglud. Bellach mae’r lleuad wedi cymryd ei le yn yr awyr dywyll ac yn edrych yn freuddwydiol ar ei adlewyrchiad disglair yn y dŵr. Fel mam yn rhoi planced am ei phlentyn, mae’r llanw yn swatio’r tywod ac yn gofyn wrthai’n gwrtais i adael. 

Comments
Post a Comment