Skip to main content

Cwm - Hedd Edwards

Un arall llwyddiannus yn yr Eisteddfodau lleol ydy'r stori yma gan Hedd

Cwm
Bownsiai’r gragen fetel goch ar hyd y lon fawr tuag at Y Bala. Roedd hi’n ddiwrnod braf o haf, yr haul yn chwerthin a'r cymylau wedi mynd ar eu gwyliau i’r gogledd. Gwibiai ambell i aderyn mawr heibio gan geisio dioddef y seren yn llosgi eu cefnau ond roeddent yn benderfynol  o gael gwledd . Yn canu uwchben y mynyddoedd oedd corws pluog yn dawnsio a nofio drwy’r awyr yn creu patrymau prydferth fel petai nhw’n ceisio diddanu’r coed. Sefyllian yn syth roedden nhw ar ôl misoedd o ddawnsio gyda’r gwynt, ar bywyd gwyllt o’u crombil wedi mynd allan am y diwrnod.
  Yng nghefn y car, yn syllu ar y gwyrddni roedd Nani Ha’. Llenwai ei chlustiau â cherddoriaeth fodern llawn sothach ac roedd arogl persawr cryf ei merch yn boddi ei ffroenau. Yn eistedd yn ddiog wrth ei hochr oedd ei nai Gareth. Ei siwmper Jack Wills drud a'i drowsus tracwisg du yn rhoi golwg gyffredin iawn iddo gan wrthgyferbynnu gyda ffrog laes flodeuog ffasiynol ei nain. 
“Oi Nani Ha be sy?” meddai wrthi, gyda’i wm cnoi yn cael ei daflu o fewn yr ogof fintys.
Gwasgai’r hen ddynes ei llaw fach grychlyd yn dynn yn ei mwclis perlog gwyn gan syllu yn syth drwy’r gwydr tenau. Roedd hi’n wedi dechrau dod yn gyfarwydd gyda’r olygfa. Ei chwm. Cwm Celyn.
“Fan hyn oeddwn i arfer byw!” gwenodd yr hen ddynes. ”Dw i’n cofio pan oeddwn i’n hogan fach”. Roedd ei gwên bellach wedi bwyta ei hwyneb. “Roedden ni....”
“O ishd ishd ishd  dwi licio’r gan ma” tarfodd y bachgen yn gyffrous.
Diflannodd ei gwên. Syllodd yr hen ddynes yn syn ar ei merch yn gobeithio y byddai’n rhoi’r bachgen yn ei le. Ond roedd ei hysgwyddau yn symud i guriad y sŵn bywiog. Trodd yn  ddigalon yn ôl at y ffenestr a syllu’n ddwfn i’r llyn.


   Roedd Ani mor gyffrous. Roedd hi a‘i nain am fynd am bicnic. Picnic i’r coed. Roedd hi wrth ei bodd yn mynd am anturiaethau diddiwedd gyda ei nain. Roedd ei nain yn adnabod pob gwelltyn o’r borfa, pob carreg o’r mynydd, pob diferyn o’r afon, pob person o’r pentref a phob anifail oedd yn byw yn y cwm. 
“Lle ydyn ni’n mynd heddiw te?” holodd yn frwdfrydig.
“Wel roeddwn i wedi meddwl mynd i weld Mr Morgan y siop gyntaf gan ei fod wedi paratoi sudd afal i ni fynd efo ni” eglurodd Nain.
“Ond i ble, i ble ydym ni’n mynd?” Roedd Ani bron a thorri ei bol.
“Gei di weld siŵr!” atebodd y Nain gan fwynhau cyffro’r ferch.
“Y goedwig? Y Mynyddoedd?” Ei bol bellach wedi dechrau cracio.
“O paid di a phoeni cariad fe gawni hwyl!” 
Gwenodd y coed arnynt wrth iddynt fwynhau gwledd gyda’r meillion. Roedd bywyd mor hwyliog. Roedd natur i gyd yn chwarae gyda nhw, Y Tywysog a’r Dywysoges yn canu a’r Dewin yn dawnsio, hyd nes i’r haul benderfynu ei fod hi’n rhy hwyr ac yn amser ffoi am adref. Ond gwyddai Ani y cai wneud yr un peth yfory.

 Roedd hi’n ddiwrnod llwm iawn yng Nghwm Celyn, yr haul wedi dal annwyd ar cymylau fel hances fawr drwchus yn arbed y byd rhag germau’r seren. Wrth syllu allan o ffenestr ei chartref clyd gwelai Ani Haf ambell i aderyn yn cuddio yn y coed a chlywai gân y gwynt yn chwythu dros y mynyddoedd a thrwy‘r coed gwan bregus a oedd yn chwifio ei breichiau’n or-ddramatig. Roedd Tywysog y Mynydd yn ffoi yn ei ogof a thywysoges y Blodau ymhell o dan y ddaear. Sylwai ar ambell i bry copyn bach yn swatio’n gyfforddus yn eu gwe ac ambell i bryfyn lludw yn rhedeg o dan yr hen ffrâm bren. Wrthi’n plicio’r paent gwyn oddi ar y ffrâm oedd hi, pan gerddodd ei Ewythr Macsen i mewn.
“Esgob mae’n oer” ebychodd yn ei lais dwfn crynedig. “Mae popeth wedi ’w bacio rŵan” Dyn tal iawn oedd ei Hewythr Macsen, roedd ganddo gorff mawr cryf a mop o wallt du yn gorffwys yn llipa ar ei ben coch. Hanner ffordd lawr ei wyneb gorweddai lindys fawr flewog ddu yn cysgodi ei weflau main a’i ddannedd mawr. Llenwodd ei ffroenau mawr gydag arogl cryf tarten afal ei wraig Gwenda.    
“ Ani fach” meddai yn ei lais llonydd. “Wyt ti dal wrth y ffenestr ers bore ma?”
“Ydi druan” pitiodd ei Modryb Gwenda.“Ti am fynd i weld dy nain a gofyn os ydi hi eisiau darn o’n nharten i?”
Nodiodd Ani ’n ddiniwed gan wneud ei ffordd yn araf allan o’r gegin fach a thuag at y grisiau pren. Doedd y grisiau ddim yn mynd yn bell iawn i fyny ond pan oedd hi flwydd neu ddwy yn iau roedd y grisiau hyn wedi bod yn fynyddoedd mawr uchel lle bu hi a'i nain arfer eu concro. Cofiai unwaith fynd i gyngerdd y gwenyn gyda’i Nain, roedd y ddwy mor flinedig y noson honno fe gysgon nhw ar y mynydd pren hwnnw. Agorodd ddrws ystafell wely ei Nain yn araf iawn gan beidio gwneud unrhyw symudiad cyflym y byddai’n dychryn yr hen ddynes fregus. Y tro diwethaf iddi wneud hyn roedd y ddwy yn osgoi deffro’r bwystfil mawr yng nghornel yr ogof fach binc. Gofidiodd Ani fod y dyddiau hynny drosodd am byth. Gwthiodd ei phen yn araf i mewn i’r ystafell gan ddisgwyl gweld corff llonydd yn gorwedd yn ei gwely. Ond fe gafodd sioc! Saethodd cerddoriaeth hudolus  i mewn i’w chlustiau pitw. Edrychodd yn syn i mewn i’r ystafell. Gwenodd. Yn dawnsio’n wyllt o amgylch yr ystafell fach oedd ei Nain.
“Nain?” chwarddodd mewn cymhlethdod.
“Ani fach” gwenodd yr hen ddynes yn fywiog. “Tyrd i mewn” Roedd ei gwisg nos yn chwyrlio fel petai ganddi ffrog foethus a’i bod hi mewn neuadd fawr yng nghanol Llundain yn ystod y ganrif gynt, ac o amgylch ei gwddf, roedd y mwclis mwyaf prydferth erioed, Ei mwclis perlog gwyn. “Dwi wrth fy modd gyda’r gân yma, wyddost i?!”
“Rydych chi’n well?!” meddai Ani yn hapus.
“Tyrd yma ddysgai di sut i ddawnsio” cynigiodd y ddawnswraig chwim.
“Ond nain da chi’n sâl” meddai Ani gyda phoendod yn ei llais. ”Ddylech chi orffwys!”
“Mam bach Ani ble wyt ti wedi mynd?” holodd Nain mewn penbleth “Wyddost i mae i’r meirw mae cwsg! Dw i dal yn fyw siŵr ac fe fyddai dal yn fyw am byth, cofia!”
Doedd Ani ddim yn gwybod beth i'w wneud. Roedd y ddynes yn sâl ac yn wan doedd hi ddim fod i ddawnsio o amgylch yr ystafell fel troellwr oedd wedi cael gormod o siwgr. Neu oedd hi? Wedi’r cyfan roedd Dewin y Dail wedi ’w gwneud hi'n anfarwol. Neidiodd y ferch fach i gyfeiriad ei nain a dawnsio fel fod dim fory. Ond doedd dim fory. Dim fory yng Nghwm Celyn.
Cerddodd Ewythr Macsen i mewn i’r ystafell yn gyflym. Edrychodd yn syn ar Ani’n dawnsio’n wyllt o amgylch yr ystafell. 
“Ani fach beth wyt ti’n wneud?” meddai ychydig yn flin. Edrychodd ar ei fam a orweddai’n llonydd ar ei gwely. “Fe allet ti ddeffro dy nain!”
“Deffro nain? Da chi wedi gweld hi’n dawnsio gymaint â hyn o’r blaen?” holodd yn frwdfrydig. Trodd rownd i gael cip o’r hen ddynes yn mwynhau ei hun. Ond doedd hi ddim yna. 
“Ble aeth hi?” edrychodd o’i hamgylch yn gyflym, diflannodd ei gwên. Syllodd ar y gwely.


Syllodd Nani Ha’ ar y llyn. Yn dawnsio ar  y dŵr oedd Nain. Ei mwclis yn chwyrlio yn y gwynt, ai ffrog laes foethus yn dawnsio ar ei ben ei hun. Doedd dim meillion yn chwerthin ar y bryn, doedd dim adar yn clapio yn y coed. Doedd y coed ddim yn gwenu o hyd a doedd y tywysog na’r tywysog yna yn gwylio’r dawnsio. Ond roedd Nain yna, roedd Nain yno o hyd. Gan mai Nain oedd ei Chwm. 

“Dw i wrth fy modd gyda’r gan yma!” meddai Nani Ha’ wrth ei hun.

Comments

Popular posts from this blog

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Ymson Gwil - Hana Mair Jones 11.11.20

 Ymson Gwil - Hana Mair Jones A hithau'n ddiwrnod i ni gofio - Hana sy'n ymateb i'r ddrama 'I'r gad fechgyn Gwalia'. Bore Dydd Mawrth, 22ain o Fedi, 1915 Mwd slwtsh sydd i'w weld yma, nid mynyddoedd moel ond anialwch o fudredd. Dwin gweld ambell fynydd ond nid y rhai fel sydd adra, pentyrrau o gyrff marw dwi'n ei weld. Mae'r hiraeth yn rhy hir, y boen yn rhy boenus a'r ofn yn rhy ofnus. Braf oedd deffro borau, y mynyddoedd yn gwisgo'u hetiau niwl a'r llyn fel gwydr, ond nawr dim ond darnau miniog garw y gwydr wedi'i falu'n fan sydd yma, breuddwydion y milwyr ifanc sydd bellach yn y nen. Wela i Twm a Hari ochr draw yn smocio'u cetyn, yn chwerthin yn llawen wrth iddynt sibrwd i'w gilydd. Bechgyn ffôl, yn meddwl mai amser anturus yw hyn, 'once in a life time opportunity' fel udodd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn iddynt wrth iddo lenwi meddyliau'r diniwed â gwenwyn y rhyfel. Syllaf ar Gruff sy'n eistedd

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]