Tom yw awdur y dydd heddiw...
Y Daith
Roedd hi’n noson galed yn y gwersyll gan fod twrw gwrthdaro diddiwedd i’w glywed yn glir. Sŵn dynion dewr yn bloeddio mewn poen, a merched a’u plant yn sgrechian dros eu colled ag i dynnu sylw unrhyw un oedd ar gael i’w helpu. Tra’r roedd y ffrwydradau yn dallu’r bobl o ddistawrwydd, roedd y plant yng ngwersyll y ffoaduriaid i gyd yn gorwedd wrth ymyl ei gilydd ar ddarn o flanced lydan i’w cadw oddi ar y llawr, ac un blanced amdanynt i’w rhannu, rhwng pedwar. Roeddent i gyd yn crynu gan ei bod hi’r noson oeraf o Ragfyr a doedd ganddynt brin unrhyw beth i’w cadw yn gynnes. Roedd y mamau yno yn trio eu cysuro a thynnu eu sylw o'r hyn a oedd yn mynd ymlaen yn Aleppo.
Doedd y daith o’r ddinas ddim wedi bod yn rhwydd i’r rhain o gwbl. Fe'u gorfodwyd i adael eu bywoliaeth a'u cartrefi gan fod eu bywydau mewn perygl, gan golli nifer o ddynion ar y ffordd. Bu rhaid i lawer o’r plant ddioddef o weld eu mam, eu tad, ac efallai eu brodyr neu chwiorydd yn marw ac yna yn cael eu pigo fyny gan rywun dieithr a chael eu llusgo i ffwrdd i ddiogelwch. Felly yn y dent roedd rhai plant yno heb unrhyw un yr oeddent yn eu nabod ac yn rhannu gwely a blanced gyda nhw. Pob plentyn heb law am un.. Roedd un yn eistedd wrth ddrws y babell yn edrych i fyny i’r awyr yn ail-adrodd,
“Lle ma’ dad?”
Roedd Junaid wedi cyrraedd y gwersyll fis cyn pawb arall oedd yn y babell gydag ef a phan roedd yn gadael ei gartref, dywedodd ei dad wrtho y byddai yn dod ato efo’r criw nesaf a fuasai yn cyrraedd y gwersyll ond doedd dim golwg ohono yn unlle. Roedd yn ffodus i weld ei fam yn cyrraedd ond dim ond am gyfnod y gwelodd hi gan ei bod wedi gorfod rhuthro i’r babell feddygol i gymhorthi gan ei bod â phrofiad meddygol. Felly yno yr oedd, yn gofyn am ei dad gyda'i lais bregus a distaw yn brwydro yn erbyn ei ddagrau. Doedd ganddo ddim unrhyw fath o flanced i gadw yn gynnes dim ond rhywbeth tebyg i sach datws amdano, a'i ddillad yn dyllau i gyd.
Eisteddodd yn union yr un lle drwy’r nos yn syllu i mewn i’r babell feddygol drwy hollt bychan yn y drws ac i’r pellter lle’r oedd yn gweld y llwch oedd wedi codi o Aleppo yn gwneud i’r lleuad edrych yn oren. Sylweddolodd wrth i’r oriau fynd heibio fod sŵn y gwrthdaro yn diflannu yn araf, ond roedd arogl mwg yn llenwi ei ffroenau cul. Gwenodd yn ddiniwed pan redodd ei fam ato o’r babell a ni olynodd hi drwy’r nos. Disgynnodd y ddau i gysgu ar bwys ei gilydd wrth ddrws y babell gyda thamaid o sach drostynt.
Pan ddechreuodd y plant eraill godi, cododd yr haul hefyd gan ddod a chynhesrwydd gydag ef. Edrychodd ei fam arno ar ôl iddynt fod yn syllu ar oleuni’r haul wedi ei gymysgu a’r llwch am gyfnod a dweud,
“Mae hi’n ddiwrnod newydd”.
Ni ddywedodd y fam unrhyw beth arall. Cusanodd y bachgen ar ei foch, a cherddodd yn ôl i’r dent feddygol. Gan godi yn araf, aeth yr hogyn bach at weddill y plant allan i chwarae gyda phêl-droed tyllog ac wedi ei orchuddio efo mwd. Doedd dim gwên i gael gan yr un ohonynt. Mam, Tad, brawd neu chwaer… ar goll... yn rhywle...
*
Roedd hi’n noson rewllyd yn Callais tra roedd ffraeo yn digwydd rhwng yr heddlu a’r dynion, a’r plant i gyd yn swatio efo’i gilydd o dan bentwr o ddillad a blancedi. Roeddent i gyd wedi teithio milltiroedd i gyrraedd lle’r oeddent ond roedd rhwystr mwy o'u blaen. Erbyn hyn doedd gan fawr o neb egni i ddadlau gan eu bod wedi cael digon o’r holl sefyllfa. Felly, gan gynnal tân bach i gadw’n gynnes, disgynnodd y plant i gyd i gysgu fesul un yn heddychlon gydag un peth ar eu meddyliau, bywyd saff, pawb ond un…
Roedd Junaid yno yn syllu ar y sêr wrth orwedd yng ngafael ei fam. Doedd dim math o lwch yn yr awyr felly nid oedd y sêr yn medru cuddio, dim ond disgleirio gan ddod a chynhesrwydd i galon yr hogyn. Er ei fod yn crynu, roedd yn gynnes y tu mewn. Hwn oedd y noson gyntaf ers oddeutu blwyddyn yr oedd yn teimlo yn saff, a bod gobaith o’i flaen. Roedd yn gwybod fod ei ben-blwydd yfory ond doedd o ddim am atgoffa neb gan fod llawer o bethau yn mynd ymlaen ar y pryd. Felly syllodd, a syllodd yn gobeithio y gwelai seren wib fel ei fod yn cael gwneud dymuniad i bopeth fynd yn ôl i’r ffordd yr oeddent. Yn ôl gartref gyda’i fam a’i dad yn mwynhau cwmpeini ei gilydd ac yn saff. Holodd yn dawel cyn disgyn i gysgu,
“Dad?”
Pan gododd yr haul clywodd y bachgen 7 mlwydd oed ei fam yn dweud,
“Mae hi’n ddiwrnod newydd”.
Trodd rownd a beth yr oedd ganddi yn ei dwylo oedd siwmper wlân gynnes newydd iddo fel anrheg pen-blwydd. Er nad oedd yn rywbeth enfawr, roedd y Junaid yn meddwl y byd ohono gan fod ei grys yn dyllau ag yn lwch drosto. Gafaelodd am ei fam gan ddiolch, ond hefyd gan ail adrodd beth ddywedodd hi,
“Mae hi’n ddiwrnod newydd”.
Dim ond y cychwyn y newyddion da oedd hyn, roedd y dynion wedi perswadio'r heddlu drwy’r nos i'w gadael nhw i mewn i’r wlad a dyna ble'r oeddent yn mynd, i Brydain. Ar ôl clywed y newyddion hyn trodd pawb eu cefnau ar y gorffennol gan wenu gyda rhyddhad a neidiodd y plant i fyny yn flinedig. Er yr holl bethau yr oeddent wedi mynd drwyddo, roedd y newyddion hyn wedi caniatáu iddynt deimlo rhyw fath o hapusrwydd am fater o eiliadau, nes iddynt ddechrau beichio crio gan feddwl yn ôl am eu taith a'u dagrau yn werthfawrogiad o’r ail gyfle ar fywyd.
*
Roedd hi’n noson glir o fis Medi ym Manceinion ble’r roedd Junaid bellach mewn cartref clud ac yn gwbl gynnes. Gorweddai yn ei wely gan edrych ar y to yn meddwl yn ôl am ei daith. Hon oedd y noson gyntaf iddo fod yn y tŷ hwn, ac roedd wrth ei fodd. Cafodd bryd call o fwyd am y tro cyntaf mewn misoedd, roedd dwr ar gael pryd bynnag yr oedd eisiau ond yn bwysicaf roedd gwres yno. Yn ei wely, clywai ei fam yn troi a throsi yn ei gwely gan nad oedd hi’n medru cael llonydd gan y babi yr oedd hi’n cario. Ia, mi oedd y fam wedi cario plentyn bach yr holl ffordd efo hi, drwy’r amodau caled a brwnt, drwy’r holl oerni a pherygl. Gwyrth mae’n rhaid.
Cychwynnai Junaid yr ysgol yfory, a doedd yna ddim byd yr oedd yn edrych ymlaen tuag at fwy. Roedd yn gyfle iddo wneud ffrindiau newydd, cael addysg gall, ond yn fwyaf pwysig iddo ef, roedd yn cael teimlo fel bod popeth yn ôl i’r arfer am gyfnod. A dyna le’r oedd, yn syllu ar y to ble’r roedd sticeri sêr yn goleuo'r tywyllwch, gyda gwen o glust i glust ond ei lygaid yn dyfrio am y tro cyntaf ers gadael ei gartref. Am y tro cyntaf cafodd grio am bopeth a oedd wedi digwydd. Doedd o ddim eisiau crio o flaen ei fam gan ei fod eisiau aros yn gryf a thrio dangos ei fod yn iawn fel nad oedd hi yn gorfod poeni amdano gymaint. Ond nawr, criai nes bod ei obennydd yn wlyb, er, ni wnaeth unrhyw sŵn rhag deffro ei fam. Golygai Junaid ‘ymladdwr ifanc’ , a dyna’n union yr oedd yn ei ffordd ei hun. Ymladdodd yn erbyn ei deimladau eu cadw i mewn pan roedd popeth ar chwâl, ac ymladdodd drwy’r cyfnod o ddisgyn i gysgu yn rhynnu, gyda phobl yn gwingo mewn poen wrth ei ymyl. Arwr.
Pan gyrhaeddodd y bore, roedd wedi cael y cwsg gorau a gafodd erioed. Felly neidiodd allan o’i wely yn ysu eisiau mynd allan i’r byd mawr. Newidiodd i’r dillad ysgol newydd y cafodd am ddim, a rhuthrodd lawr y grisiau i arogl brecwast. Roedd ei fam yn llusgo ei thraed o gwmpas y gegin, yn amlwg roedd rhywbeth yn bod. Eisteddodd Junaid i lawr wrth y bwrdd wrth i’w fam afael yn ei law. Llifodd deigryn lawr ei grudd goch ac eglurodd fod ei dad wedi cael ei ladd yn trio eu cyrraedd o’r ddinas Aleppo. Mi oedd yn yr un criw â’r fam ond cafodd ei saethu wrth drio dianc, cafodd ei gysidro fel cachwr. Doedd y fam ddim wedi dod at ei hun i ddweud hyn yn gynharach gan ei bod yn gwybod y byddai yn torri calon Junaid.
Eisteddai’r hogyn bach yna, ddim yn gwybod beth i wneud efo’i hun, a dywedodd yn gwbl ddiniwed ac anobeithiol,
“Felly lle ma’ dad?”
Comments
Post a Comment