Ffordd dda o ddod i adnabod y myfyrwyr ydy'r dasg tatŵ. Ai ffuglen ynteu ffaith ydy'r stori hon gan Ceri?
Y Tatŵ
‘Ma mam yn mynd i’n lladd i pan gyrrhaedda i adra! Gobeithio fod gan nain le yn yr ystafell sbâr i mi at heno. Er, unwaith fydd o ar ym mraich i, does na’m byd fedr yr un o’r ddwy ei wneud. Dim ond gwylltio’n gandryll a gweiddi nerth eu pennau, ond newidyth hynny ddim byd. Mi fydd o yno a dyna fo. Dwi’n gwbod yn union be ddudith dad ‘i be ti isio shed ar dy fraich’ a dyna fydd pawb arall yn feddwl hefyd ‘ma siwr, ond ‘dio’m bwys, be ‘ma’n olygu i mi sy’n bwysig. Ddim fod mam am i gweld hi felly. Rhaid i mi stopio meddwl am hyn neu mi fyddai ‘di newid yn meddwl a gwneud y peth call a chyfrifol a mynd ‘adra, a dwi’m isio hynny!
Ma’r ‘boi bach ifanc ma’n edrych fel fod o’n mynd i basio allan unrhyw funud, a mond cael dylunio’i datŵ mae o! Er, unwaith fydda i’n ‘isda yn y gadair fawr ledr ‘na, ‘dwn i’m sut fydda i’n teimlo chwaith. Pam fod angan cadair mor frawchus? Ma’r boen o gal miloedd o nodwyddau wedi eu trywannu i mewn i’ch cnawd bob eiliad yn ddi-ddiwedd yn ddigon ydi ddim? Ond di’r cawr yma’n poeni dim yn amlwg. Isda’n hapus braf yn yfad coffi o’r ‘Costa’ drws ‘nesa. Er, o ‘be dwi’n weld, ‘ma ‘isda mewn siop datŵ yn ail-natur iddo fo. Ma’n rhaid fod y casgliad enfawr yna wedi cymryd dipyn o amsar a dioddefaint i’w gasglu. Pa un oedd ei un cyntaf o sgwn i? Oedd o mor ‘cringe’ a be ‘dwi’n mynd i gal? ‘Sw ni’m yn meddwl. Ond dyna ydi’r rheolau anysgrifenedig o datŵ’s yndê. Os da chi am gal tatŵ ond ddim yn gwybod be i’w gal, dyfyniad hynod o ‘cringe’ ydi’r ffordd i fynd. Ond o leia ma gen yn nhatŵ fi elfen bersonol does; i gofio am ym mhlentyndod ac am fferm yng nghyndeidiau. Dyna sut dwi’n mynd i gyfiawnhau’r peth i hen bobol ragfarnllyd a hŷ beth bynnag. Os ydi’r peth yn gymaint o broblem â hynny ganddyn nhw, mi gawn nhw ffeindio rywun arall i dollti te iddyn nhw yn saib hanner amser yr yrfa chwist fisol.
Pam fod hi mor dawel yma? Dio’m yn gneud synnwyr. Ma cerdded mewn i’r siop yma o’r stryd fyddarol fel cerdded i mewn i fydysawd arall. Bydysawd lle mae pawb yn fud, heblaw am y siop-feistr, wrthi’n braf yn dylunio ei gampwaith ddiweddaraf gan chwibanu’n aflafar i ‘highway to hell’ ar y radio. Eironig. Uffern fydd yng ‘nghartra newydd i os ga i datŵ byth medda nain Bala. Wela i chi yno nain! Plîs stopia chwibannu rŵan, ma’n ddigon i ngyrru fi o ‘ma bron iawn. Gobeithio bo chdi’n well tatŵydd nag wyt ti’n gerddor. Ma’r ‘hogla ma’n fyglyd hefyd. Dwi’n deall na mewn siop datŵ ydw i a na’u prif fusnes nhw ydi saethu inc i mewn i groen pobl i greu lluniau, ond ‘do ni’m yn meddwl fysa’r ‘hogla mor drawiadol. Ella na ‘air freshner’ penodol i siop datŵ’s ydi o, a fod o’n creu hogla inc yn lle ‘bloda i amddiffyn delwedd y siop. Ma tatŵ i fod yn beth drygionus ac eofn i neud, ma siwr fysa hogla lafant mewn siop datŵ yn difetha balchder a gwrywdod y dynion cadarn, garw yr olwg ma sy’n dod i mewn i gael eu cnawd wedi ei ddryllio, ond fysa dipyn bach o sglein ar y cownter a mop ar y llawr ma’n gwneud dim drwg yn bendant.
Ma’r gadair ‘ma’n dechra bod yn anghyfforddus hefyd, ella fod o’n arwydd gan y duwiau? Ella fod cal tatŵ ddim yn fy ffawd i? Ella ddylwn i adael rŵan, cyn fod hi’n rhy hwyr? Ella eith ‘wbath o’i le os ga i’r tatŵ ‘ma. “tisho dod drwadd?” mai’n rhy hwyr. Dwi’n gorfod mynd rŵan, mai di dod i’n nol i! O wel, os fysa’r bydysawd isio fy stopio fi go iawn, mi fyswn i di methu’r bws neu rwbath.
“Ti’n iawn?” “yndw diolch”, nagwyt ti ddim, pam ddudis ‘di hynna wrthi?
Ella nad ydy hi’n rhy hwyr. Dim ond y stensil ydi hwn. Ma’n edrych yn anhygoel. Ma’n mynd i edrych yn well fyth pan fydd o wedi’i wneud. Os na fydda i di pasio allan wrth weld gwaed. Stopia feddwl amdano fo, fydd na ddim gwaed, fydd na ddim poen, fydd pob dim yn ocê.
Plis gad ‘mi isda lawr rŵan ma nghoesa fi fel jeli yn barod. Oce, dyma ni ‘moment of truth’. Pam fod y peiriant ma mor swnllyd? Ma’i swydd o ddigon brawychus yn barod, ma’r sŵn ‘ma jyst yn rhy ddramatig dydi. Iawn, dyma hi’n dod, bydda’n barod i ddal dy ddagra yn ôl. Di’m troi’n ôl rŵan... o, oes ma ‘na. Pam sa chdi heb allu gosod y nodwydd iawn i fyny cyn yng nghynhyrfu fi? O ia, gad fi’n fama ben yn hun, dwi’n hollol iawn, dim angan poeni am y posibilrwydd mod i am basio allan. R’arglwydd ma hon yn broses hirach nac o’n i di ddisgwyl. O!, dyma ni. Y nodwydd iawn o’r diwedd. Lle ti’n mynd rwan?! Wyt ti go iawn yn mynd i ateb y ffôn yn ganol hyn i gyd? Be ma’r ddynas wrth y ddesg yn wneud yn y lle ma? Ornament?!
Iawn, ‘di dy wraig di’n hapus efo be ti isio i swper rŵan? Unwaith eto, tri chynnig i Gymro meddan nhw ynde. Aw! Mi fysa rhybudd ‘di bod yn neis! Cofia fod rhai pobl heb wneud hyn o’r blaen. O, oce di hyn ddim yn rhy ddrwg. Lot gwell na be o ni’n ddisgwyl. “Tria relaxio” dwi yn trio, ma’n haws dweud na gneud dydi! Oce dwi ‘lot rhy neis hefo pobl. Ddylswn i ddechra dweud wrth bobol be dwi’n feddwl ohonyn nhw. Aw! Eto!, mi fysa rhybudd yn neis cyn dechra y darn fwyaf poenus. Well mi beidio dweud dim byd, fo sy’n gyfrifol am y llun parhaol cyntaf ar fy nghorff. Dwi’n gwbod be fyswn i’n wneud os fysa rhywun yn lladd arna i tra dwi’n creu campwaith iddyn nhw. Pam fod hyn yn cymryd mor hir? Mynd dros stensil wyt ti!
“Ok, ti’n ‘all done’” “Diolch” er bo chdi’n rhoi dim rhybuddion cyn dechrau tyllu yng ngnawd i. Ta waeth, ma di neud rŵan. Gad mi weld o ta. Dwi di isda yma’n ddigon hir. O fy Nuw! Ma’n amêsing. Ma na gymaint o fanylder ynddo fo. “ti’n licio fo?” “yndw diolch” dweud rwbath mwy na hynna! “diolch, ma’n rili anhygoel” oedd hynna ‘chydig gwell.
Ma’n union fel o’n i isio fo droi allan. Ma’n berffaith, a’n siwtio fi i’r dim. Stopia syllu arno fo rŵan ti’n edrych yn drist yn sefyll yn ganol llawr yn syllu ar dy fraich. Fydd gen ti ddigon o amser i wneud hynny tra ti’n trio pwyllo mam a dad ar ôl cyrraedd adra. O wel, fydd yr holl ffraeo ma’n mynd i achosi werth o. Ma’n wirioneddol wych.
Comments
Post a Comment