Skip to main content

Drych - Bethan Mair

Hen stori ydy hon, wedi'i hysbrydoli gan fy mam

Drych
Torrodd yn deilchion!  Gallai ddweud ar sŵn yr eco drwy’r tŷ ei fod yn fil o ddarnau mân.  Edrychodd hithau ar yr olygfa gyfarwydd o’i blaen a gwenu.  Gwên hapus a ledai drwy’r wyneb tlws.  Un y gellid gweld ei adlewyrchiad yn y llygaid crisial glas, ac yn y ddau bant yn ei boch.  Gwên wedi’i fframio â minlliw pinc.  Troellodd gyrlen o amgylch ei bys ac edrych ar y gwallt tonnog brown yn llifo ar y ‘sgwyddau main, a’r les  yn orchudd gwarchodol ysgafn dros y cyfan.
‘Glywis di? Yr ail blât bora ma’! Dwn im be su haru’r dyn...’
Ynghanol ei phregethu, rhoddwyd taw arni gan yr hyn a welai o’i blaen.  Gwyrodd ei phen a brathu’i gwefus yn ofer, roedd y dagrau wedi hen ddisgyn lawr ei grudd.
‘Ti’n bictiwr cofia... ‘di bod erioed dwi’m yn deud ond...’

*             *             *

Eisteddai'r blodyn pinc yng nghanol rhosod Afallon.  Llifai tonnau ei gwallt lawr ei chefn gan guddio’r adenydd brau, llawn gliter.  Wrth ei hochr, eisteddai ei doli fud.  Gerllaw safai’r tŷ dan dywyllwch y goeden fawr.  Yn golur budr ar ei wyneb, tyfai eiddew.  Cododd gan ymlwybro tuag ato’n ddiofal.  Roedd y tŷ yn oer a deuai rhyw ias i godi croen gŵydd drosti hi i gyd, a hithau newydd gamu o wres gwên yr haul.  Yn araf a distaw, dringodd y grisiau derw gan geisio osgoi ambell wich.  Yn wahanol i weddill y tŷ, roedd y llofft yn lamp o olau.  Yma, saethai pelydrau’r haul i’r ystafell gan drywanu lluniau amryliw o ddwy dylwythen deg a grogai ger y gwely.  Gyferbyn â’r gwely, gorweddai trysorau drud ag ôl bysedd bach busneslyd yn orchudd amlwg drostynt.  Yn gwarchod y trysor, safai drych hud yn dalsyth.  Pan fyddai’i mam yn newid a rhoi’i minlliw pinc, byddai hithau a doli yno’n ei gwylio, gan holi’r drych pwy oedd yr hogan dlysaf yn y byd, byddai’r drych yn siŵr o ateb mewn llais annaturiol, dwfn.
‘Gwen ydy’r eneth dlysaf yn y byd i gyd yn grwn’
A hithau’n cywiro’r drych, drwy ychwanegu
‘a mam’ yn bendant.
Ar hynny, byddai’n cael coflaid a chusan fawr gan ei mam.  Yn ddiweddar, doedd y drych heb ei hateb, os byddai’n gwneud, llais digon gwantan a fyddai ganddo, ac ni fyddai’n derbyn coflaid a chusan, dim ond ei mam yn syllu arni drwy lifogydd ei llygaid ag yn ceisio gwenu ag estyn ei llaw.  Ar flaenau ei thraed, camodd at y gwely.  Edrychai ei mam yn union fel Eira Wen.  Roedd ei gwallt tonnog brown yn boddi’r clustog llwyd yn heddychlon.  Estynnodd y minlliw pinc o’i bag bach, a’i roi yn araf ofalus ar wefusau oer ei mam.  Cusanodd hi, yna gollwng gafael ar ei llaw, a ddisgynnodd yn llipa yn ôl ar y gynfas.  Aeth at y drych, rhoi’r minlliw pinc ei hun, yna’i gadw’n saff yn ei bag bach.  Gafaelodd yn sydyn mewn cadwyn berlau, gwisgodd hi, doedd neb yn dylwyth teg heb gadwyn berlau.
                Wedi cau’r drws yn ddistaw bach, dawnsiodd hi a’i doli yn ôl i’r ardd. Dyna lle’r oedd y ddwy’n dawnsio i gân yr adar gyda’r gloÿnnod byw a’r fuwch goch gota, pan ddaeth gwenyn i dorri ar eu hwyl.  Daeth gwich iasoer y giât i’w chlyw, ac ar amrantiad, rhedodd i guddio tu ôl i’r rhosod gan afael yn dynn yn ei doli.  Wrth guddio, rhwygodd ei theits gwyn, a daeth deigryn o waed i’r golwg.  Edrychodd tua’r tŷ... drwy’r ffenestr... gwelodd rhywun yn dringo’r grisiau...gollyngodd ei doli, ac am y tro cyntaf, rhedodd i’r tŷ ar ei phen ei hun.  Dringodd y grisiau’n araf... pan gyrhaeddodd llofft ei mam, sylwodd arno’n eistedd ar erchwyn y gwely a’i wyneb yn welw.  Cododd,  a’i hwynebu gyda’i lygaid clwyfus, plygodd i lawr ati a’i chofleidio’n dynn, cododd hi i fyny a’i chario i lawr y grisiau.  Fe’i cariwyd i’w gar mawr du.  Gyrrodd i ffwrdd.
                I goflaid anarferol cyrhaeddodd dŷ ei hewythr.  Yno roedd ei modryb yn ffysian ag yn trio gwenu drwy’r amser.  Ar y bwrdd, roedd platiad o fisgedi pinc a glasiad o lefrith, wrth iddi eu bwyta, sylwodd ar y glaw a oedd yn pigo ar y ffenestr yn cael ei adlewyrchu’n sbectol Anti Elin.  Roedd cael te yn nhŷ Yncl Dafydd wedi bod yn sypreis bach neis, byddai mam a doli wrth eu bodd yn clywed yr hanes.
                Ar ôl y te bach, cafodd fynd i’r parlwr, yno roedd yr hogia’ yn gweiddi a gwylltio ar ei gilydd wrth chwarae gêm gwffio ar y teledu. 
‘Cym honna’ meddai Tomos yn fygythiol
‘Chei di’m gwared ohonai mor handi a hynna, ngwas i’ heriai ei frawd, cyn trywanu botwm y teclyn yn ei law yn ddi-stop a orchmynnai i’r dyn bach ar y teledu guro ei wrthwynebydd yn slwj.
‘Be w’t ti? Fferi?’ holodd Tomos
‘Ha ha ha! Ti ‘di marw!  Pwy ‘di’r fferi rŵan?’  Trodd Danial i dynnu ar ei frawd, ond tynnwyd ei sylw gan y dylwythen deg a guddiai tu ôl i’w dwylo bach, yn amddifad ar y soffa fawr.
                Chwaraeodd y ddau mo’r gêm wedyn.  Daeth anti Elin i’r parlwr i ddweud bod hi ‘di gneud bath yn barod iddi.  Roedd wrth ei bodd yn cael bath!  Cyrhaeddodd yr ystafell glaerwyn, edrychodd i mewn a sylwi ar y drych oedd wedi stemio i gyd ac a guddiai ei siom.  Dim bath fel y cawsai gan mam oedd o.  Doedd na’m cwmwl mawr pinc o fybls i chwarae pi-po ynddo, na pherlau bach sbesial a ddiflannai wrth eu taflyd i mewn i’r dŵr... dim ond ychydig o fybls gwyrdd.  Tynnwyd ei hadenydd, ei bag, ei dillad a’i chadwyn berlau.  Yng nghanol yr holl sgrwbio ni welodd ei adenydd yn cael ei dal dan ben glin Anti Elin.  Cafodd ei chodi o’r dŵr oedd bellach yn llawn glitter, yn prysur ddiflannu lawr y plwg, a’i newid i hen byjamas coch oedd yn wahanol iawn i’w choban binc.  Fuodd anti Elin ddim dau funud yn sychu a brwsio’i gwallt, mor wahanol i mam a fyddai am hydoedd yn ei anwesu â’i chrib a mwytho pob cyrlen cyn ei gosod yn ofalus yn ei lle.  Rhoddwyd i orffwys yn y llofft sbâr, a dyna lle oedd hi yn syllu ar y drych, pan ddisgynnodd i gysgu.
                 
Llusgai’r diwrnodau yn eu blaen, a deuai tŷ Yncl Dafydd yn fwy o garchar bob dydd.  Daeth mis Medi, ac o’r diwedd, byddai’n cael ei rhyddhau am ychydig oriau bob dydd.  Yn nosbarth Miss Jones yr oedd hi.  Roedd yr athrawes yn garedig iawn, ac yn mynnu rhoi sylw ychwanegol iddi, gan ei bod wrth ei bodd gyda’r gadwyn berlau a wisgai.  Doedd Anti Elin ddim am iddi wisgo’r gadwyn, ond dywedodd Yncl Dafydd y byddai’n cael. 
Wrthi’n chwarae tŷ bach oedden nhw yn y tŷ bach twt, ryw amser chwarae gwlyb. 
‘Fi ydy’r fam’ meddai Sian wrth blethu ei dwylo’n awdurdodol
‘Ond... chdi ydy’r fam bob tro’ ceisiodd hithau ddal ati
‘Ia, achos dw i yn bedair’ eglurodd gan chwyddo yn fawr o’i blaen
‘Dw i hefyd!’ synnodd hithau ei gwrthwynebydd
‘Wel... Dwyt ti ddim yn gwbod sut i fod yn fam...’
‘yndw tad...’
‘Nagwyt!  Achos ma’ dy fam di wedi marw!’

                Torrodd drych y bag mêcyp a arferai fod yn ei dwylo, wrth iddo ddisgyn yn swp i’r llawr, fel y gwnaeth hithau.  Aeth pobman yn ddistaw...daeth sŵn y glaw yn trywanu’r ffenestr yn uwch ag yn uwch, wrth i’r distawrwydd yn y dosbarth dyfu...cyn...i’r waedd fwyaf aflafar foddi’r dosbarth.  Rhedodd Miss Jones i’r fan.  Dechreuodd y dagrau araf lifo i lawr ei gruddiau llwyd, cyn disgyn yn ddafnau trwm ar ei glin, eisteddodd yr athrawes ar lawr, a’i chysuro.  Gorffwysodd hithau ei phen ar ei mynwes a chrio gan ei gadael yn ddim ond corff, bychan, sychedig, ar goll yn ei bywyd ei hun.
                O hynny ymlaen, byddai’r gadwyn berlau yn dynn am ei gwddf, a’r minlliw pinc yn ei phoced, ond byth yn cael ei ddefnyddio.  Ar erchwyn ei gwely roedd ffâm a llun o’i mam yn gwenu’n gysur rhyngthi a’r drych mud.

*             *             *

Camodd ei modryb tuag ati gan edrych dros ei hysgwydd ac amneidio.
‘Ti union run fath a hi sdi.’
‘Biti na ches i’m ei nabod hi’ atebodd mewn llais gwan, crynedig.
‘Mi wyt ti’n ei nabod hi sdi, mai yma ynot ti.’ Gafaelodd yn dynn, dynn yn ei llaw.  Bu llonyddwch rhwng y ddwy am rhai eiliadau.  Ymsythodd y fodryb, clirio’i gwddf a chamu’n ôl.
‘Tyd i ni ga’l dy weld di’n iawn ta...’
Cododd Gwen ar ei sefyll yn araf gan adael i ewyn gwyn ei ffrog orlifo i’r llawr.
‘Ma ‘na un peth ar goll.’ Estynnodd y gadwyn berlau.
                Rhoddwyd y ffrâm wrth erchwyn y gwely cyn i Gwen droi at y drych i weld ei modryb yn gwisgo’r perlau am ei gwddf. 
Edrychodd ar ei hun yn y drych, gwelodd ei mam dan y les, gwenodd yn ddagreuol yn ôl.

Comments

Popular posts from this blog

Rhyfel - Cofio - Ymson Gwilym - Tom Davies

Tasg a wnaethpwyd yn ddiweddar oedd gwaith yn seiliedig ar ddrama Theatr Bara Caws 'I'r Gad Fechgyn Gwalia'. A hithau'n wythnos cofio'r Rhyfel Mawr  dyma ymson y cymeriad Gwilym (y brawd mawr) gan Tom. O fy nuw.. Wnes i wneud y penderfyniad doeth ‘ta be? Fi.. Mewn rhyfel.. ‘Swni byth wedi meddwl y bysa’r dwrnod yma wedi dod. Pam oedd o eisiau mynd i ryfel gymaint dwad? Achos dw i ofn am fy mywyd yn fama, pan dw i’n hollol saff a heb fynd eto! Eisiau profi’r ferch ‘na yn anghywir oddo ella? Hi a’r hen bluan wen, rhag ei chywilydd hi! Ma’ ‘na hen ddigon ddynion yn rhoi eu bywydau i’w chadw yn saff a ma’ hi eisiau mwy i fynd! Pwy ma’ hi’n ddisgwl y bydd yn cadw pethau mewn trefn yn ein gwlad ein hunain? Yr anifeiliaid? Ma’ Gruff rhy ifanc i sylwi ei bod hi yn chwarae efo’i feddwl. Tydi hi ddim efo unrhyw fath o ddiddordeb yn Gruff, does yna ddim amheuaeth am y peth! Tydw i heb chwalu ei obeithion wan naddo? Mae’n rhaid mai chwarae efo ei fed...

Robin Goch - Sioned Jones

Ymarfer ar ddechrau'r cyfnod yn y Coleg ydy'r dasg Tatw.  Dyma ddarn creadigol gan Sioned. Roedd hi’n unarddeg o’r  gloch y bora. Cododd Beca’n hwyr felly roedd ganddi 30 munud i gael ei hun wedi newid a chyrraedd ei apwyntiad. Aphwyntiad... i gael tatw. Ie tatw!    Merch ifanc 18 oed oedd Beca oedd wedi trefnu ddoe, yn fyr-rybudd, apwyntiad i gael tatw. Doedd Beca erioed wedi meddwl y bydda hi am gael tatw. Ond pan basiodd y siop, ystyriodd efallai byddai cael tatw yn dangos pwy ydi hi go iawn?    Taflodd ddillad cynnes amdani gan ruthro lawr y staer ac syth allan trwy ddrws ei thŷ gan adael andros o glec ar ei hôl. Tri bloc rownd y gornel roedd rhaid i Beca ei gymryd er mwyn cyrraedd Inciau Ianto, y siop datw. Cyrhaeddodd Beca’r sip datw 5 munud yn gynharach nag oedd raid oherwydd roedd hi mor gyffroes. Estynodd ei llaw ar handlen y drws oer, camodd i’r ystafell wag. Caeodd y drws yn glec gyda chryfder y gwynt. Neidiodd allan o’i chroen. Wrth i...

Cofio - Ymson - Gwen Owen

Dyma ddarn effeithiol gan Gwen yn seiliedig ar yr ymarferion creadigol ar ol gwylio'r ddrama 'I'r Gad Fechgyn Gwalia'               Un bluan wen. Dyna’r cwbwl, am wn i . Un bluan wen unig yn pigo cydwybod ac yn herio. Mae hi wedi bod yn gwmni i mi ers meitin rwan. Dim ond fi a’r bluan wen yn sbio’n hurt ar ein gilydd ….peth mor dlws, mor fregus , ond eto mor gryf.  LLe aeth Gwil ? Dwn i ddim…..rhy bell i mi fedru rhedag ar ei ôl o rwan . Mae o’n cymryd y goes bob tro ar ôl ffeit……. fyny i dop y chwaral mae o wedi ei heglu hi ma siwr , ei hoff le o i ddianc rhag mam pa oedd ni’n hogia bach. Fedra i ein gweld ni rwan, y ddau ohonan ni’n sbio lawr am y bonc. Eistedd yno efo Gwil , yn llyfu’n clwyfau ar ryw sgarmas yn y tŷ. Cofio sbio  lawr ar y cwm a cheisio deall mawredd y lle. Mawredd a oedd yn codi pwys arna i , ac ofn . Mawredd a oedd hefyd yn gwneud i mi garu yr hen le yn angerddol . Ers talwm oedd ...