Skip to main content

Posts

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Y Golomen - Erin Aled

Ymarfer dosbarth nol ym mis Medi oedd sylfaen y darn hwn gan Erin... Y golomen Dyna fo eto. Sŵn y cloc yn tician yn fyddarol hyd syrffed. Digon i yrru fi’n benwan. Dw i ar bigau’r drain yn barod. Dydy’r gadair oer ’ma ddim yn cynnig unrhyw gysur chwaith na’r wynebau sydd o fy nghwmpas. Rydan ni gyd fel petaen ni mewn syrjyri doctor yn disgwyl. Pawb â’i stori ei hun. Pawb â’i reswm. Ambell wyneb gwelw, llawn pryder; ambell wyneb hyderus, llawn cyffro. Ai difaru fydda i? Mae’n rhy hwyr nawr.  Roedd hi’n haf perffaith. Diwrnodau braf, llawn direidi a nosweithiau hir o swatio’n glyd o flaen y tân agored yn canu hyd at oriau mân y bore. Arogli heli’r môr yn fy ngwallt a physgod ffres i swper. Gweld dolffiniaid direidus yn dawnsio yng nglesni’r môr a morfilod swil yn pipian dros ewyn y tonnau. Clywed y gwynt yn siffrwd ei gyfrinachau. Dyna wyliau delfrydol. Haf llawn profiadau newydd.  M ae fy stumog i’n corddi a churiad fy nghalon yn gyson fel drwm ym mêr fy esgyrn....

Portread o Myrddin Jôs - Cenin Sion

Mae'r Portread hwn eisoes wedi ei gyhoeddi ar wefan Y Stamp - gobeithio y cawn ni faddeuant am ei ail gyhoeddi ar flog y coleg.  Mwynhewch bortread craff Cenin Sion o Myrddin Jos... Wrth i fywyd fynd yn ei flaen yn ei ruthr beunyddiol, eisteddai Myrddin yn ei nefoedd bren o hanner awr wedi wyth y bore hyd nes troi tuag adref wrth i’r gwyll gau amdano. Gellid clywed ei esgidiau llac yn paredio ar hyd Stryd y Plas pan fyddai gweddill y byd yn cysgu, ac hawliai’r Groes yn Nhref y Penwaig fel petai yr un mor hanfodol â’r concrid garw a’r muriau maen. Doedd ’run o’r bobl leol yn gwybod ei hanes, na chwaith yn trafferthu gofyn. Byddai pawb yn disgwyl gweld y gŵr llwyd wrth yrru heibio – ‘yn tydi o wedi bod yno erioed?’ Hen greadur oedd Myrddin, yn benderfynol o gadw ei deyrnas bathetig rhag bwlio cas amser. Cyn meddwl edrych drwy ffenestr ffawydd melyn y fflat tamp, byddai’n taflu ei siwt frown patrymog amdano. Crys crychiog wen yn adrodd cyfrolau. Beth oedd...

Maen Geni - Ela Pari

Dyma stori arall sydd wedi cael cryn lwyddiant mewn Eisteddfodau lleol, llongyfarchiadau mawr i ti Ela. Maen Geni Yn gorchuddio walia’ coridor tŷ ni ma’ ‘na luniau o deulu. Mam, Tad, mab a merch i gyd â gwalltiau coch a brychni unfath. Darluniau perffaith o deulu bodlon. Ond wrth droedio’n bellach ar hyd y coridor a nesau at ddrws y gegin mae’r lluniau yn cael eu difetha’n ara deg. Fel rhyw staen hyll rwyf yn ymddangos yn y fframiau. Llygaid brown ac amrannau trwchus yn felltith. Dwi ‘di arfer pasio y lluniau ‘ma bob dydd, ond ers y llythyr dwi o’r diwedd y eu gweld. Dwi methu coelio pa mor ddwl dwi ‘di bod… yn ddall i fy odrwydd yn y teulu ‘ma. Does dim albwm ledr drwchus o mam yn fy nghydio i yn yr ysbyty. Tydi Dad erioed wedi edrych arnai â’r llygaid perfiog, balch mae fy mrawd a fy chwaer yn eu derbyn. Pan welais y  llythyr roedd bob dim yn gwneud synnwyr. Fe syrthiodd y geiniog fel tunell o frics ar fy mhen. Chwilio am bâr glan o jîns ‘oni, roedd fy rhai i i gyd yn y...

Hi hen eleni ganed - Gwen Owen

Un sydd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn ystod y flwyddyn diwethaf gyda'i stori fer ydy Gwen Owen gan ennill nifer o dlysau ifanc mewn Eisteddfodau lleol.  Dyma gyfle i chithau gael cip ar y stori arbennig hon... Hi hen, eleni ganed. Yn dawel, agorodd Alys ddrws ystafell 27 . Roedd Jane Jones yn gorwedd fel plentyn ar ei gwely, ac yn cysgu’n drwm. Rhag ei deffro yn sydyn a’i dychryn, dywedodd mewn llais cyfarwydd “Dach chi’n cofio pwy sy’n dwad heddiw Jane ?” Cerddodd at erchwyn y gwely, a chyffwrdd ei hysgwydd esgyrnog yn dyner. “Jane.....da chi am ddeffro rwan ? Mae Mair yn dwad yma heddiw, yn dydi, i’ch gweld chi, a fiw i chi gael eich dal yn fan’ma yn hepian...” Agorodd Jane Jones ei llygaid, a sylwodd Alys mor debyg oedd hi i grwban   yn ymwthio o’i chragen . Dwy lygaid ddwys yn sbio i fyw ei llygaid , a gwddw hir crebachlyd yn ymestyn o blygion  ei blows fach neilon . “Dach chi’n cael fisitor pnawn ‘ma yn dydach Jane......Mair” “Mair ?” “Ia ...