Skip to main content

Portread o Myrddin Jôs - Cenin Sion

Mae'r Portread hwn eisoes wedi ei gyhoeddi ar wefan Y Stamp - gobeithio y cawn ni faddeuant am ei ail gyhoeddi ar flog y coleg.  Mwynhewch bortread craff Cenin Sion o Myrddin Jos...





Wrth i fywyd fynd yn ei flaen yn ei ruthr beunyddiol, eisteddai Myrddin yn ei nefoedd bren o hanner
awr wedi wyth y bore hyd nes troi tuag adref wrth i’r gwyll gau amdano. Gellid clywed ei esgidiau llac
yn paredio ar hyd Stryd y Plas pan fyddai gweddill y byd yn cysgu, ac hawliai’r Groes yn Nhref y
Penwaig fel petai yr un mor hanfodol â’r concrid garw a’r muriau maen. Doedd ’run o’r bobl leol yn
gwybod ei hanes, na chwaith yn trafferthu gofyn. Byddai pawb yn disgwyl gweld y gŵr llwyd wrth
yrru heibio – ‘yn tydi o wedi bod yno erioed?’



Hen greadur oedd Myrddin, yn benderfynol o gadw ei deyrnas bathetig rhag bwlio cas amser. Cyn
meddwl edrych drwy ffenestr ffawydd melyn y fflat tamp, byddai’n taflu ei siwt frown patrymog
amdano. Crys crychiog wen yn adrodd cyfrolau. Beth oedd wedi ei yfed y diwrnod hwnnw? Sut fath
o grymiau bras oedd yn pluo o’i farf ar y cotwn tenau? Byddai’r atebion fel tapestri ar y crys
mochaidd. Gellid gweld ei arferiad drwg o bylu sôs coch ar bob pryd yn amlwg wrth edrych arno;
boed hynny’n lobsgows Meri Ann drws nesaf, neu’n sosij rôl o’r becws lleol. Pâr o drowsusau llaes â
phatrymau check coch tenau yn rhedeg drwy’r defnydd rhwth brown, lle’r oedd mwy o dyllau nac
edau a’i bengliniau crynedig i’w gweld yn noethlymyn gorcyn yn rhoi oddi tano. Siaced unfath gyda’r
bachyn ar golar ei siaced wedi ei ymestyn wedi sawl dydd Haf yn cael ei daflu dros yr ysgwydd fain
yn hamddenol braf ac un bys gwyn, gwythienog fel darn o gaws Stilton yn ei ddal yno. Dyna’r unig
siwt iddo wario arni ers ei hanner cant a oedd sawl mlynedd yn ôl bellach; ar yr union ddiwrnod
ddaru fo ddychwelyd i lannau Penrhyn Llŷn. Byddai’n gyndyn o ychwanegu unrhyw fath o newid i’r
edrychiad gwallgof hwn, ond roedd hi’n draddodiad iddo chwilota am bâr o fenyg cardotaidd pan
fyddai ‘yr aer rhy oer iddi eira’. 



Sawl awr o ladd amser … o synfyfyrio ac aflonyddu. Byddai Myrddin yn gwneud yr un hen ystumiau
drosodd a throsodd; cosi ei drwyn hirgul, rhedeg ei figyrnau gwyn gwythiennog drwy ei wallt arian
pigog. ‘Brillo’ y byddai’r bechgyn ifanc yn ei alw er mwyn ei watwar; ac yn wir i chi, roedd yn rhaid
cytuno fod y pen blêr yn edrych yn union fel y brwsh sgwrio metelaidd sy’n eich cegin. Wrth syllu ar y
cymylau yn dawnsio byddai’n eistedd yn ôl a’i freichiau wedi plethu, cyn plygu ymlaen a chraffu ar
frain yn ffraeo ar bwys y ciosg gerllaw. Gwedd welw, rychiog oedd gan Myrddin a’i ên yn hir. Byddai
hynny, ynghyd a’i dagu cras, yn llwyddo i ddychryn pob cot law fechan a fyddai’n mynd heibio’r
Groes. Er iddo geisio eu galw ato a chyn i unrhyw un gael y cyfle i brofi’r tinc cyfeillgar yn
nyfnderoedd hallt ei lygaid trist, brasgamai pobl heibio gan adael i’r enaid unig bylu. 



Byddai’n ei heglu hi ar hyd y ffordd fawr yn y wellingtons melyn enfawr, a’r rheini’n fflachio atgof pell
o’r hen ddyddiau. Cloch drws yr Old Post yn canu am un ar y dot, a chopi o’r Daily Mail yn cael ei
swatio dan gesail esgyrnog. Holi wrth y til mewn tempar fain, ‘Ti’n siŵr wan ‘mechan i? ‘Sa ddim
pacad pump o Woodbine yn cefn ’na rwla?’ Cai’r un ymateb siomedig cyn bodloni ar Rothmans
Superkings Blue tra’n gwgu. Yn dilyn echdoriad anfodlon ynglŷn â’r sigaréts, dychwelai i’w hafan
gysetlyd i’r wellingtons ac yntau gael gorffwys unwaith eto. Wedi ennyd i gael ei wynt prin i grafu’n
gyson unwaith eto, arferai osod y sigarét denau rhwng pegiau plastig gwynion o ddannedd yn lein
ddillad ei geg. Byddai Myrddin ond yn siarad yn ôl yr angen, oni bai eich bod yn ei ddal yn traethu
wrtho’i hun am oriau maith am yr hwn a’r llall a ddeuai heibio. Y ffotograff llonydd o’r llanc â’i het yn
isel, mewn trwmgwsg o weddill ryfeddodau’r byd tu hwnt i gysgod y Groes. A’r ffotograph hwnnw yn
melynu fel ei ewinedd maith.


Ond roedd gan Myrddin gyfrinach, nad oedd wedi ei dweud wrth neb. Er i drigolion y dref ei farnu a
phenderfynu mai ‘wast ar fywyd yn llwyr’ oedd yr hen lanc, ‘wedi taflu ei fywyd ‘ffwrdd yn crwydro
strydoedd llwyd Tref y Penwaig’, bu i Myrddin grwydro pob twll a chornel o’r byd mawr hwn, gan
chwilota am grancod mewn cefnforoedd a chrafu am marakely lu yn Madagasgar. Eisteddai ar y
Groes yn ysu am gael menthyg clust iddo gael adrodd ei restr faith o hanesion bywiog a chyffrous.
Byddai wrth ei fodd yn cofio am y diwrnod y bu iddo nofio yn nhonnau cynnes môr yr Iwerydd, a
thaeru ei fod wedi ei hudo gan for-forwyn pengoch. Hoffai feddwl am ei hun fel perl pyledig mewn
iard sgrap. Er fod ambell un yn mentro cynnau sgwrs â’r hen lanc, doedd ei oddefgarwch tuag at
‘plant dyddia yma’ ddim yn hynod uchel.


Ar ddyddiau gwyntog, byddai Myrddin wrth ei fodd yn clywed yr eigion garw prin filltir i ffwrdd. Hoffai
gau ei lygaid trwm yn dyn a cheisio cofio sut beth oedd cael clusten gan don fferllyd wrth frwydro yn
erbyn clymaucawelli ystyfnig. Byddai’n chwerthin yn galonnog wrth ddychmygu ei goesau robin a’i
ysgwyddau heglog gynt yn cystadlu â thri chant o benwaig mewn rhwyd. Synfyfyriai’n fodlon ei fyd
am ennyd, cyn llyncu mul a phregethu ‘dan ei wynt nad oes gan ‘blant heddiw'r syniad cyntaf sut
beth ydi gwaith go iawn, y ffernols diog!’ Yna eisteddai yn feddylgar ddifrifol gan anwesu ei farf llipa
sydd fel gwymon ar graig. Hiraeth am yr hen ddyddiau oedd yn dwyn amser Myrddin.. Hiraeth am yr
amser pan oedd yn llanc ifanc a’i gynefin yn llawn dyddiau difyr di-ben-draw ar draethau euraidd a
cherrig gwynion hardd. Bryd hynny, roedd y môr yn gyfaill dirgel a phob haf yn heulog. Cyndyn
ydoedd i dderbyn y gaeaf hir.


Oedd, roedd yn ymddangos yn ddyn bregus erbyn hynny, ond cafodd caledwch ei fagu yng
ngwythiennau Myrddin Jôs ac roedd ei dafod yn fwy llethol nac unrhyw grafanc neu lafn. Gyda’i
galon hiraethus yn methu nid oedd Myrddin ond cwch pysgota gwag gyda’r dŵr yn nofio i mewn byth
a hefyd, yn ei foddi’n araf bach. Chaiff yr un gair cyfeillgar ei gydnabod heb felltith na’r un cwmni
cydymdeimlol ei werthfawrogi gyda gwên. Yn ei hanfod, aderyn rhydd oedd Myrddin a oedd yn
ffynnu wrth drafeilio a darganfod; ond anodd oedd gweld hynny drwy niwl henaint a gaeai fel llenni
llychlyd am ei lygaid llaith. Doedd neb yn cofio’r Myrddin a fu erbyn hynny; y dyn bodlon braf yn
chwibianu a chorneli ei wefusau pinc yn bradychu ei wên direidus. Bu unwaith yn fodlon braf – yn
gwenu a sawl llaw yn chwifio’n llawen, yn adnabod pob pryd a gwedd ai heibio. Ond erbyn hyn
doedd dim ond wynebau dieithr di-ben-draw yn cuchio mynd drwy’r gylchfan brysur. 



Dyddiau hir o ddilyn patrwm a’r misoedd yn plethu’i edau ym mlanced blynyddoedd Myrddin Nant
Glas. Ond un Dydd Llun brwnt yn Rhagfyr, chlywodd neb orymdeithio wellingtons melyn yn
diasbedain ar hyd Stryd y Ffynnon. Doedd yr un paced sigarét ar goll o’r silff yn yr Old Post. Sylwodd
neb fod cyrtans blodeuog y ffenestr ffawydd melyn yn dal ar gau. Ac am hanner awr wedi wyth y
bore, tywynnai’r haul ar nefoedd bren wag y Groes yn Nhref y Penwaig.

Comments

Popular posts from this blog

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]

Newid - Myfi Fennwick

Newid Wedi'i hysbrydoli gan thema'r Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol  Myfi aeth ati i sgwennu cerdd. Yn berfedd i’r pridd, pwyra pob cawr wddf i’r wybren fru, Er hagr yw pob enaid, maes o law nid newid sydd, Yn sgil cwyn y gapan cornicyll, troedio mewn rhyddid wna enaid glan, Gan fwydo ar feini llwydion, a chodi gwreiddiau o grombil tan. Hollta’r tir yn hanner gan buro baw ym mwrlwm bryn, Gan wegian dan bwysau moesau sydd eisioes yn tynnu’n dynn, A chraith ar gramen gwan yw plyg pob pwyth y bladur lafn, Yn atgof o ennyn ein hanes, a hwnnw’n frwydr am feiddio barn. Ac felly, golcha yn dy ogoniant, dyro drawiad ar ddrygni’r drefn, Paid dioddef llafn y gyllell, yn faich ar wasg dy gefn, Oherwydd o lefain llafn y cliw cwyn mewn pob cri, Yn sgil newid tro at fynydd a gwna yn gnawd amdana ti.

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...