Skip to main content

Hi hen eleni ganed - Gwen Owen


Un sydd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn ystod y flwyddyn diwethaf gyda'i stori fer ydy Gwen Owen gan ennill nifer o dlysau ifanc mewn Eisteddfodau lleol.  Dyma gyfle i chithau gael cip ar y stori arbennig hon...

Hi hen, eleni ganed.
Yn dawel, agorodd Alys ddrws ystafell 27 . Roedd Jane Jones yn gorwedd fel plentyn ar ei gwely, ac yn cysgu’n drwm. Rhag ei deffro yn sydyn a’i dychryn, dywedodd mewn llais cyfarwydd
“Dach chi’n cofio pwy sy’n dwad heddiw Jane ?”
Cerddodd at erchwyn y gwely, a chyffwrdd ei hysgwydd esgyrnog yn dyner.
“Jane.....da chi am ddeffro rwan ? Mae Mair yn dwad yma heddiw, yn dydi, i’ch gweld chi, a fiw i chi gael eich dal yn fan’ma yn hepian...”
Agorodd Jane Jones ei llygaid, a sylwodd Alys mor debyg oedd hi i grwban   yn ymwthio o’i chragen . Dwy lygaid ddwys yn sbio i fyw ei llygaid , a gwddw hir crebachlyd yn ymestyn o blygion  ei blows fach neilon .
“Dach chi’n cael fisitor pnawn ‘ma yn dydach Jane......Mair”
“Mair ?”
“Ia Mair . Mae hi dwad bob cam o Fangor i’ch gweld chi.”
“O Fangor ?”
 “Mae’n siwr ei bod hi wedi cychwyn ers meitin chi. Well ni godi chi rwan...i chi gael bod yn barod de  , pan ddaw hi .”
“Faint o’r gloch ydi hi d’wad ?”
“Bron yn dri.”
“Ddaw hi ddim.”
“Dach chi’n deud hynna bob tro, Jane, a bob tro mae Mair yn dwad yn dydi, a llond ei bag o betha da i chi.”
“Ddaw hi ddim. Gei di weld. Dwi’n disgwl a disgwl fel hyn amdani... a dydi hi byth yn dwad sti”
“Dach chi’n licio’r taffis na mae hi’n ddwad i chi. Sbiwch da chi wedi chwalu rhai ddoth hi wythnos ddiwtha.”
Yn araf, llusgodd Jane Jones ei hun ar ei heistedd yn y gwely,  ail osod ei sgert yn daclus, a hel y gobenydd yn uwch i gynnal ei phen. Edrychodd ar yr hen  cloc enamel ar y bwrdd bach. Yn nistawrwydd llethol y stafell, roedd tician oediog y cloc yn boenus iddi.
“Mae hi wedi troi tri o’r gloch .Ddaw hi ddim sti”
Ers iddi ddechrau gweithio yn y cartref , roedd Alys wedi sylwi bod Jane yn wahanol i’r lleill ac wedi cymryd ati yn syth bin . Er nad oedd ganddi fawr o  glem be oedd yn digwydd o ddydd i ddydd fel y gweddill , roedd yna rywbeth digri a difyr o’i chwmpas. . Roedd hi wedi bod yn nyrsio am flynyddoedd , medda nhw., ac yn un dda am godi sgwrs a malu awyr. Roedd hi a’i thrwyn  mewn ryw lyfr byth a beunydd ,ac mi fydda Alys wrth bodd yn ei holi be oedd yn digwydd yn y nofelau. Er bod gan Jane berlau o straeon am ers talwm , doedd ganddi ddim obadeia be oedd wedi digwydd yn y llyfrau oedd hi newydd eu darllen ....ond hen salwch felly oedd o . Roedd hi’n gwybod hynny yn iawn....ond mi oedd na sbort i’w gael efo Jane.
“Ma mywyd i fel y silff lyfra na sti” medda hi ryw ddiwrnod, gan bwyntio at rês daclus o’r Encyclopedia Britannica wedi eu rhifo o un i ddeuddeg  ar dop y cwpwrdd. Prin oedd hi’n sbio arnyn nhw rwan, meddyliodd Alys, ond mi oedd na ôl darllen arnyn nhw . Tynnodd ei bys crynedig , o’r chwith i’r dde ar hyd y llyfrau, a dweud:
“Y rhai cynta ‘ma ar y chwith ydi ers talwm sti, pan on i’n hogan fach.....a weli di’r rhain yn fan ‘ma ar y dde ?”
“Gwelaf tad.....rheina ydi llyfra rwan de.Da chi ‘di deud hynna wrtha i droeon, Jane”
“Do, dwi’n gwbod….droeon .” 
Edrychodd yr hen wraig yn synn ar y silff lyfrau. Yn deimladwy, symudodd ei bys o gyfrol un , i’r ail , a’r drydydd yn y gyfres. 
Oes o atgofion wedi eu gwasgu i ddeuddeg cyfrol ei bywyd, meddyliodd Alys...o ers talwm llawen  ei phlentyndod... i heddiw llwm ei phedair wal yn stafell 27. 
“Dwi’n cofio’n ers talwm sti ….bob math o fferins oedd i cal  yn Siop Nel...rhesi o jaria gwydyr a’r rheini yn llawn dop ...a chael chwarter o everton mints wedi eu lapio yn daclus mewn bag papur bach , y dela welis ti rioed…...a cherddad wedyn i ben rallt Hendra … a gorwedd ar wastad fy nghefn , yn sipian mintan, a sbio fyny  ar y cymyla gwyn…”
Bob llun llonydd y cyfrolau cyntaf yn rhoi gymaint o gysur iddi, meddyliodd Alys, ond ddim clem am bethau oedd yn digwydd o’i chwmpas hi  o ddydd i ddydd.
“Dowch ‘wan, neu mi fydd Mair wedi cyrraedd, a chitha dal i din droi yn fan’ma.”
O gil ei llygaid, gwelodd bod Jane yn crychu ei thrwyn, ac yn nelu ar y cloc ar y bwrdd. “Cardigan las , ta’r un felan ‘ma ?”
“Fyddi di’n licio Shakespeare ?”
Daliai Alys  gardigan yn y naill law, a’u codi fyny bob yn ail, fel clorian. Doedd ganddi fawr o fynadd mwydro am Shakespeaere rwan.
“Glas ta melyn ?”
“Roedd na ryw hen ddynas sti ….wedi lladd y brenin, cofia”.
“Lladd y brenin ? Hen jadan de.....yr un las ‘ma dwi’n meddwl. Mae hon yn matchio’n ddel efo’r sgert.”
“Mi oedd hi’n difaru, ac yn methu cysgu.....methu cael gafael ar  gwsg o gwbwl, sti”
“Heb flino ma siwr, fela ma ‘royalty’ chi….dydyn nhw ddim yn gweithio run fath a ni...y gardigan las amdani…”
“Cwsg tawal , cwsg….. fel llawes yn cael ei datod , ti’n gweld. Datod gofidia’.”
“Ew dach chi dechra mynd yn ‘deep’ rwan, Jane.” 
Yn ofalus, fel petai yn rhoi siôl am fabi, rhoddodd Alys lawes y gardigan am  fraich dde yr hen wraig, lapio’r cefn a chodi ei braich chwith i fyny . Dechreuodd   ddychmygu cymryd siswrn a thorri pwyth neu ddau yn llawes y gardigan las, a gweld y gwlân yn datod . Mor braf oedd y syniad o ddatod gofidiau. Yn araf ar y dechrau , wedyn ribi di rês o wlân cyrliog yn gwneud i’r gofidiau ddiflanu. 
“Yli, Mae’n ddeg munud wedi tri rwan. Dwi’n disgwl amdani fel hyn, ond dydi mam byth yn dwad”
“Mair , eich merch chi sy’n dwad yma heddiw , yn de ? Mae mam wedi marw yn dydi Jane”
Dychmygai Alys  weld y gwlân yn cael ei gipio gan y gwynt, ac yn cael ei godi i fyny yn uwch ac yn uwch, a’r edau yn chwyrlio rownd a rownd brigau ryw hen goeden noethlwm yng nghanol  cae. Gwibiai’r gwlan fel profiadau , i fyny ac i lawr ar antur , a thrwy ‘r canghenau i gyd, i fewn ac allan yn llawn asbri , yn nyddu o dan a thros bob un o’r brigau,  fel egni bywyd, nes ffurfio ymennydd o atgofion tynn am oes.
“Dim bai mam bo hi ‘di marw. Mrs Evans aeth a fi adra o’r ysgol diwrnod hwnnw….”
“ Mrs Evans ?......o ….y tijyr ffeind na de , oedd yn gwneud gwnio efo chi ? Dwi’n cofio rwan.”
“Mi o’n i wedi disgwyl a disgwyl am mam sti ...ond doedd na ddim golwg ohoni.”
“ Mi ddaw Mair yn munud chi, saff o ddwad os ydi hi wedi gaddo.”
“Mi odd mam wedi gaddo ‘fyd...wedi gaddo bod yno wrth giât yr ysgol...ond ddoth hi ddim
........a ddaw hi ddim heddiw chwaith,  gei di weld.”
Teimlai  Alys iâs oer o gwmpas y goeden, a rhyw niwl yn dod yn slei fel salwch o rhywle, ac yna gwelodd y siswrn yn torri  darnau o’r edau , yma ac acw, ac yn difetha’r egni ar y llwybrau. Llacio’r cysylltiadau. 
“Peidiwch ag ypsetio rwan, Jane. Beth am i ni’n dwy fynd am dro fach i chwilio lle ma hi”
“Pan ddaeth Mrs Evans a fi adra roedd y tŷ wed’i gloi…”
Gwyddai Alys yn iawn sut oedd y stori yn gorffen. Hen hen stori oedd hon,  o gyfrol gyntaf y silff lyfrau…. y gyfrol gyfrwys honno oedd wedi dylanwadu gymaint ar Jane.Mor drist, meddyliodd ,  nad oedd ganddi dim ots , neu ddim yn cofio be ddigwyddodd yng ngweddill y llyfrau. Mi oedd y rheini, yn disgyn am yn  ôl, fel llwybr o ddominos , ac yn golygu dim iddi. Blynyddoedd llawen cael ei chartref ei hun, cael priodi a magu plant, yn ddim byd ond ryw olwg bell yn ei llygaid .
“.......ond mi oeddwn i’n gwybod lle roedd y goriad.Mi redish i am y closet ar waelod yr ardd, ac wrth agor y glicied ...”
“Mi sbiwn ni drw ffenast ta. Pa liw ydi car Mair dudwch?”
“........O’n i’n gwbod bod mam wedi marw…. Wna i byth anghofio’i gweld hi yn hogian yno .”
Dim ond tician oer y cloc enamel glywai Alys cyn i Jane Jones ddechrau beichio crio. Crio a chrio o waelod ei chalon . Crio fel plentyn, a sigo muriau stafell 27 efo hen hen alar.
Ddaru  Mair ddim cyrraedd dan tua saith, ac erbyn hynny  mi oedd bob dim yn dawel dawel, a shift Alys drosodd. 
“Ylwch mam, dwi wedi dwad a’r taffis na da chi’n licio...”
Gosododd y bag fferis yn ofalus ar yr Encyclopedias. Plygodd y gardigan las yn daclus a’i rhoi ar y gadair. Doedd fawr o hwyliau ar  mam heno, meddyliodd. 
Edrychodd arni yn cysgu fel baban mewn cwsg. 
Theimlodd hi ddim o wewyr y llyfrau.
Welodd hi ddim mo’r goeden, na’r edau brau yn dipia drosti. 

Chlywodd hi ddim sŵn llafnau’r  siswrn yn difetha ......dim ond y cloc yn tician.

Comments

Popular posts from this blog

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]

Newid - Myfi Fennwick

Newid Wedi'i hysbrydoli gan thema'r Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol  Myfi aeth ati i sgwennu cerdd. Yn berfedd i’r pridd, pwyra pob cawr wddf i’r wybren fru, Er hagr yw pob enaid, maes o law nid newid sydd, Yn sgil cwyn y gapan cornicyll, troedio mewn rhyddid wna enaid glan, Gan fwydo ar feini llwydion, a chodi gwreiddiau o grombil tan. Hollta’r tir yn hanner gan buro baw ym mwrlwm bryn, Gan wegian dan bwysau moesau sydd eisioes yn tynnu’n dynn, A chraith ar gramen gwan yw plyg pob pwyth y bladur lafn, Yn atgof o ennyn ein hanes, a hwnnw’n frwydr am feiddio barn. Ac felly, golcha yn dy ogoniant, dyro drawiad ar ddrygni’r drefn, Paid dioddef llafn y gyllell, yn faich ar wasg dy gefn, Oherwydd o lefain llafn y cliw cwyn mewn pob cri, Yn sgil newid tro at fynydd a gwna yn gnawd amdana ti.

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...