Skip to main content

Maen Geni - Ela Pari

Dyma stori arall sydd wedi cael cryn lwyddiant mewn Eisteddfodau lleol, llongyfarchiadau mawr i ti Ela.


Maen Geni

Yn gorchuddio walia’ coridor tŷ ni ma’ ‘na luniau o deulu. Mam, Tad, mab a merch i gyd â gwalltiau coch a brychni unfath. Darluniau perffaith o deulu bodlon. Ond wrth droedio’n bellach ar hyd y coridor a nesau at ddrws y gegin mae’r lluniau yn cael eu difetha’n ara deg. Fel rhyw staen hyll rwyf yn ymddangos yn y fframiau. Llygaid brown ac amrannau trwchus yn felltith. Dwi ‘di arfer pasio y lluniau ‘ma bob dydd, ond ers y llythyr dwi o’r diwedd y eu gweld. Dwi methu coelio pa mor ddwl dwi ‘di bod… yn ddall i fy odrwydd yn y teulu ‘ma. Does dim albwm ledr drwchus o mam yn fy nghydio i yn yr ysbyty. Tydi Dad erioed wedi edrych arnai â’r llygaid perfiog, balch mae fy mrawd a fy chwaer yn eu derbyn.
Pan welais y  llythyr roedd bob dim yn gwneud synnwyr. Fe syrthiodd y geiniog fel tunell o frics ar fy mhen. Chwilio am bâr glan o jîns ‘oni, roedd fy rhai i i gyd yn y golch. Agorais  gwpwrdd dillad mawr mam, wrth dyrchu yn y denim clywais y papurau fel nadroedd. Degau ohonynt yn llechu. Un ar ôl y llall; llythyr ar ôl llythyr yn dymchwel bob dim o ni’n ei wybod amdanaf fy hun ac yn adeiladu hanes hogan estron, Manon Pari nad oeddwn yn ei ‘nabod. Yn fy nryswch i mi oni’n gandryll, yn methu coelio be’ oni’n ei ddarllen.


‘Annwyl Lleucu,
Dwi wedi dod i benderfyniad ddoe. Dwi’n meddwl ei bod hi’n amser i Manon gael gwybod amdanai. Mae hi’n ddwy ar bymtheg a pum mis oed Lleucs! Mae hi angan gwybod y gwir. 
Dwi wedi bod yn hunanol iawn. Dwi wedi cadw y gwir oddi wrthi am gyhyd, nid er mwyn ei gwarchod hi, ond er mwyn gwarchod fi fy hun. Dwi wedi dy adael di i fagu fy mhlentyn i fel un o dy rai di, nes di ddim gofyn am hyn. Ond dwi’n licio meddwl ei bod hi wedi cael plentyndod cyffredin, gwell na’ chyffredin. Mae’n dawelwch meddwl ei bod hi wedi cael, gen ti, be nad oeddwn i’n medru ei gynnig. 
Dwi’n methu cysgu ers y diwrnod ‘na ‘sdi. Dwi ddim yn meddwl fedrai edrych i’w llygaid hi. Sut fedrai ddisgwyl iddi hi faddau i mi os nad ydw i yn gallu maddau i mi fy hun. Ond tydw i ddim yn haeddu maddeuant. Dwi wedi lladd ei thad hi! Dwi wedi lladd ei thad hi a tydw i heb fod yn fam iddi ers dwy flynedd ar bymtheg a deu fis.
Dwi am drio ‘sgwennu llythyr iddi yn ystod yr ‘wsos nesa ‘ma. Diolch o galon i ti Lleucu, dwi’n gwybod ei bod hi’n anodd i ti ddarllen y llythyrau ‘ma. Mae gen ti bob hawl i fod yn flin.
Llawer o gariad,
Rhian.’
                        Llifai inc ysgrifen flêr fy mam enedigol ymysg fy nagrau wrth i mi ddarllen y llythyr am y canfed tro.Mae fy Mam yn ymddiheuro am roi y baich anferth ‘ma ar ei chwaer. Fi…. Fi yw’r baich, y boen, y gell oer mae fy modryb wedi ei charcharu ynddi. Dwi’n teimlo fy ngwaed yn byrlymu yn fy ngwythiennau. Teimlaf y llythyr yn gyllell yn fy nghefn. Cysuraf fy hun wrth rwbio fy mys dros y maen geni crwn, cyfarwydd ar fy mraich. Mae’r llythyr sydd wedi ei gyfeirio at Mam… Modryb Lleucu, yn dod o’r Carchar yng Nghaer. Llofruddwraig yw fy mam, a’i dioddefwfr oedd fy nhad. Mam a Dad…. fy modryb a’i gŵr. Er bod yr holl beth wedi chwalu fy mywyd yn deilchion blêr, dwi’n teimlo nawr bod y teilchion yn ffitio ryw sut, fel rhyw jig-so rwyf wedi bod yn ei wneud am flynyddoedd, ond mae cas gen i'r llun mae’n ei ddangos i mi.Mi oeddwn i’n gwybod bod yna ryw fodryb Rhian yn bod, ond dim ond rhyw chwedl fuodd hi erioed. Chwaer mam a oedd wedi symud i America yn ei hugeiniau. Doedden ni byth yn holi am fodryb Rhian oherwydd mi oedd hi’n achosi i lygaid Mam fynd yn rhyfedd i gyd. Mi fydda nhw’n trawsnewid yn gysgodion oer du...cysgodion oedd yn cuddiad cyfrolau o straeon trist a dychrynllyd. Mi fyddai ambell i yncl neu hen fodryb yn edrych arna i mewn parti, eu hwynebau yn llawn tosturi ac yn dweud “o, mi wyt ti’r un ffunud a Rhian yn hogan fach”, ond doedd hynny’n golygu dim i mi, doedd Rhian ddim mwy i mi ‘na chymeriad Branwen yn y Mabinogi. Yn bendant doedd hi ddim yn fam i mi. Dwi’n cofio unwaith, cyn i Nain farw a’i meddwl hi’n dirywio bob diwrnod, mi oni a mam...modryb Lleucu, yn eistedd wrth ei gwely. Pan ddeffrodd nain, dyma hi’n cydio yn fy nwylo i’n dyn, ei bysedd esgyrnog wedi darganfod rhyw nerth newydd, cydio yn fy nwylo nes eu bod nhw’n wyn. “Rhian” meddai,“ti adra, o fy merch dlos i, ti’n ôl adra, lle ti fod, gad i mi edrych ar dy ôl di…” ond cyn i’w deigryn daro'r glustog mi oedd mam wedi rhoi braich gadarn am fy ysgwyddau a fy  nhywys allan o’r ‘stafell. Mi es i’r gegin i nôl diod o ddŵr, ond, wrth geisio ymestyn am y gwydrau oedd allan o fy nghyrraedd disgynnodd un a thorri. Daeth mam...modryb Lleucu i’r gegin fel mellten a gweiddi arnaf. Bloeddio gweiddi. Y cysgodion llond ei llygaid. Mi o’n innau’n crio wrth glywed ei geiriau brwnt, “Be wyt ti ‘di neud? Be haru chdi? Ti’n llwyddo i ddifetha bob dim sydd o fewn gafael i chdi!”. Dwi’n gwybod nawr ‘na ddim arna i oedd hi’n gweiddi mewn difri ond ar Rhian… fy mam. Mae rhaid i mi gael gwybod mwy. Dwi’n edrych ar y rhif ffôn ar dop y llythyr ac yn teimlo’r penderfyniad yn fy mysedd byrbwyll wrth ddeilio rhif y carchar.
*         *         *
Mae’r ffens yn uchel, yn cadw’r bwystfilod tu mewn. Yn cadw Mam. Ar ôl brâs-gamu tu allan i’r drysau am hir,hir, yn meddwl ac ail-feddwl, mae chwilfrydedd yn cymryd drosodd. Mae rhaid i mi gael gweld y ddynes sydd wedi fy rhwystro rhag teimlo  fy mod yn perthyn. Y ddynes sydd wedi dwyn fy nhad yn ogystal a fy ngadael yn ddi-fam.
             Tydi o ddim yn teimlo’n iawn llenwi fy manylion yn y ffurfleni. ‘Manon Pari’. Pwy ddiawl ydy Manon Pari? Mae popeth dwi’n ei wybod amdanaf fy hun nawr yn benbleth.
             Dim ond fi a gwreigan â gwallt piws a ffon gerdded sydd yn yr ystafell ddisgwyl. Yn fy mhen mae ffilm yn chwarae pob ffordd brawychus a gwaedlyd fuasai’r ddynes, rwyf ar fin cyfarfod, wedi gallu lladd fy nhad. Yn hytrach, ceisiaf feddwl amdano fo, y Tad na chefais i ddim. Dychmygaf fod ganddo wallt du cyrliog ac aeliau isel, trwchus sydd yn rhoi golwg annwyl iddo. Hoffai wylio gemau pêl-droed a fy nghodi yn uchel i’r awyr gan wneud synnau awyren ….
“Manon Pari?” Llais cras yn galw fy enw gan chwalu’r ddelfryd…. i ffwrdd a fi fel oen i’r lladdfa.
             Mae sŵn buzz yn llenwi nghlustiau wrth i ddrysau glas ddatgelu’r ystafell gyfarfod wag. Chwe bwrdd a mainc galed. Mae fy nghorff yn fy nghario i eistedd ar un ohonynt. Yn reddfol cysuraf y maen geni ar fy mraich wrth ddisgwyl i’r drysau gyferbyn â mi agor. Yna’r sŵn buzz mawr eto. Mae dynes drom yn cerdded allan gyntaf gan eistedd gyferbyn a’r wreigan â gwallt piws. Yna, mewn crys-t hufen a throwsus trac du; Mam. Mae’i llygaid gwyrdd-las yn dyfrio, yn adlewyrchiad perffaith o’n rhai i. Dwi’n codi ar fy nhraed. Mae ei dwylo garw hi’n codi a cwpanu fy ngwyneb sydd yn socian o ddagrau.
 Tydw i ddim ofn.
Mae ei dwylo hi yn teimlo fel adra. Mae ei chwerthiniad dagreuol hi yn hwiangerdd hyfryd.
No touching!” Llais brwnt gorychwyliwr.
 Mewn hanner eiliad mae ei dwylo wrth ei hochr a golwg euog yn ei llygaid. Rydym yn eistedd heb ddweud dim. Dwi’n sychu fy nagrau gan gofio fy mod yn ddîg.
“Haia.” Llais llyfn Mam, nid llais llofruddwraig.
Dwi methu yngan gair.
 “Dwi mor, mor sori” Mae hi’n cwmanu mewn euogrwydd.
Dwi’n deud dim. Mae hi’n aros am ymateb. Dwi’n deud dim.
 “Yn ei ddiod mi oedd gan James dymar.. un drwg ti gwbo? Doni’m yn licio pan oedd o’n mynd allan i yfad, yn dod adra’n geiban… dim ond babi ochdi, mi ochdi’n haeddu tad sobor.” Llifai’r stori fel gwaed yn afreolus. “Un noson aeth pethau allan o reolaeth… mi oedd o’n smocio ar y soffa ac wedi dy ddeffro di wrth ddod mewn… mi oddo ‘di bod yn y  pub eto... ‘neshi ddod lawr grisia’n cario chdi’n crio’n fy mreichia…” ei llygaid gwrdd-las yn fwg ac yn dan mewn braw, “neshi ddechra gweiddi a chditha’n sgrechian crio,” anadl ddofn, “dyna pryd y diffoddodd o'r sigarét …...”
Mae hi’n syllu’n ddwfn mewn i’m llygaid. Dagrau  yn disgyn yn oer ar y bwrdd.
“Oni’n gallu’i ddiodda’ fo’n fy nhrin i fel 'na, ond ddim chdi.” Fel slap, dwi’n sylwi ar ei breichiau hi. Degau a’r ddegau o greithiau yn union fel fy maen geni i.
Dwi ‘isio rhwygo a chwalu’r ‘maen geni’ oddi ar fy mraich.

“Daeth na don o rywbeth… rhywbeth afiach drosta’i….” mae hi’n methu cario ‘mlaen, dim ond crio ac ysgwyd nôl ac ymlaen…nôl ac ymlaen  ar y fainc yn cofleidio’i hun. Beichio crio.

Comments

Popular posts from this blog

Am dro i Ben y Cil - Emrys Evans

  Pen Y Cil Ym mhen draw Llyn, mae pentir carregog yn ymestyn i'r mor, yn trio ei ora i gydio  yn yr ynys sydd yn gorwedd o'i flaen. Ar ddiwrnod cymylog o fis Medi, mae'r llystyfiant a oedd yn llawn lliw a bwrlwm ychydig fisoedd yn ol, yn sefyll yn frown ac yn grimp erbyn hyn. Mae'r aer yn dawel, dim ond swn y frwydr ddiddiwedd rhwng y creigiau a'r cefnfor, yn taro yn erbyn ei gilydd bob eiliad sy'n pasio. Bob hyn a hyn, mae sgrech yr wylan neu swn giat yn hollti trwy sain undonog y mor, cyn dychwelyd i'r gylchred gyfarwydd yna unwaith eto. Weithiau hyd yn oed, mae swn awyren yn ein hatgoffa o’r byd dynol, er ei bod yn ddigon hawdd anghofio amdano mewn lle mor wyllt. Yn aml, mae dwr mor yn ffrwydro i fyny o bob ochr, ac yn darparu haen o halan hallt ar y creigiau sydd ym mhobman yma. O flaen y pentir, mae llethr serth y parwyd, golygfa fygythiol i unrhyw un sydd yn rhoi ei lygaid ar y darn enfawr o graig yma. Ar olwg agosaf, mae cymlethdod enfawr i glo...

Ymsonau Bachgen mewn dau gyfnod gwahanol - Beca Hughes

Mae Beca wedi mynd ati i sgwennu dwy ymson... mwynhewch Ymson bachgen mewn dau gyfnod gwahanol yn ei fywyd Ymson Ifan: Yn ystod y rhyfel byd cyntaf Rhyddid. Be ‘di hwnnw? Peth diethr iawn i mi. Rwy’n breuddwydio am fynd tu draw i fynyddoedd Eryri a gweld y byd go iawn. Rwy’n breuddwydio am gael gweld y dinasoedd mawr a’r golygfeydd godidog; ymweld a’r llefydd mwyaf ysblennydd yn y byd. Rwy’n dyheu am gyfarfod pobl newydd, pobl wahanol i bobl y chwarel. Ond na, mae’r chwarel yn garchar ac yma fyddai fyth, diolch i Wil, fy ‘mrawd’. Mae o’n teimlo fel breuddwyd, ond yn fwy fel hunllef, ond dwi’n gobeithio deffro. Deffro o’r hunllef afiach dwi’n ei ganol. Wil yn listio, Wil o bawb! Ni fysa Wil yn rhoi niwed i bry heb son am ladd gyd-ddyn. Mi fydd o yn union fel oen i’r lladdfa yn y fyddin, dydi’r fyddim ddim yn le iddo. Rwy’n teimlo’n ddrwg am y peth, ond pam ddylwn i? Ei benderfyniad o ei hun oedd listio, penderfyniad gwirion iawn. Dwi’m yn gallu coelio yr hyn mae Wil wedi’i...

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...