Skip to main content

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro...

Mawrth y 23ain, 2020

Mae eich tynged yn glir o’ch blaen.
Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen,
ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun.
Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun,
gan na fydd neb arall wrth law.

Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Comments

Popular posts from this blog

Rhyfel - Cofio - Ymson Gwilym - Tom Davies

Tasg a wnaethpwyd yn ddiweddar oedd gwaith yn seiliedig ar ddrama Theatr Bara Caws 'I'r Gad Fechgyn Gwalia'. A hithau'n wythnos cofio'r Rhyfel Mawr  dyma ymson y cymeriad Gwilym (y brawd mawr) gan Tom. O fy nuw.. Wnes i wneud y penderfyniad doeth ‘ta be? Fi.. Mewn rhyfel.. ‘Swni byth wedi meddwl y bysa’r dwrnod yma wedi dod. Pam oedd o eisiau mynd i ryfel gymaint dwad? Achos dw i ofn am fy mywyd yn fama, pan dw i’n hollol saff a heb fynd eto! Eisiau profi’r ferch ‘na yn anghywir oddo ella? Hi a’r hen bluan wen, rhag ei chywilydd hi! Ma’ ‘na hen ddigon ddynion yn rhoi eu bywydau i’w chadw yn saff a ma’ hi eisiau mwy i fynd! Pwy ma’ hi’n ddisgwl y bydd yn cadw pethau mewn trefn yn ein gwlad ein hunain? Yr anifeiliaid? Ma’ Gruff rhy ifanc i sylwi ei bod hi yn chwarae efo’i feddwl. Tydi hi ddim efo unrhyw fath o ddiddordeb yn Gruff, does yna ddim amheuaeth am y peth! Tydw i heb chwalu ei obeithion wan naddo? Mae’n rhaid mai chwarae efo ei fed...

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]