Ymarfer dosbarth nol ym mis Medi oedd sylfaen y darn hwn gan Erin...
Y golomen
Dyna fo eto. Sŵn y cloc yn tician yn fyddarol hyd syrffed. Digon i yrru fi’n benwan. Dw i ar bigau’r drain yn barod. Dydy’r gadair oer ’ma ddim yn cynnig unrhyw gysur chwaith na’r wynebau sydd o fy nghwmpas. Rydan ni gyd fel petaen ni mewn syrjyri doctor yn disgwyl. Pawb â’i stori ei hun. Pawb â’i reswm. Ambell wyneb gwelw, llawn pryder; ambell wyneb hyderus, llawn cyffro. Ai difaru fydda i? Mae’n rhy hwyr nawr.
Roedd hi’n haf perffaith. Diwrnodau braf, llawn direidi a nosweithiau hir o swatio’n glyd o flaen y tân agored yn canu hyd at oriau mân y bore. Arogli heli’r môr yn fy ngwallt a physgod ffres i swper. Gweld dolffiniaid direidus yn dawnsio yng nglesni’r môr a morfilod swil yn pipian dros ewyn y tonnau. Clywed y gwynt yn siffrwd ei gyfrinachau. Dyna wyliau delfrydol. Haf llawn profiadau newydd.
Mae fy stumog i’n corddi a churiad fy nghalon yn gyson fel drwm ym mêr fy esgyrn. Teimlaf ryw don o anesmwythdod yn dod drosof. Mae’r emosiynau’n llifo. Be dw i’n ei ofni? Y boen neu’r ymateb? Rhyfeddaf ar y wal o’m mlaen. Môr o luniau a llythrennau lliwgar yn gorchuddio pob modfedd ohoni. Wal yn adrodd cyfrolau a phob logo bychan gyda phwrpas ac ystyr. Colomen dw i am ddewis. Alla i gofio’r prynhawn tesog hwnnw yn sgwâr y ddinas, ninnau’n blasu’r danteithion estron a cholomen wen yn chwarae mig uwch ein pennau. Rhyfeddu at sioncrwydd ac esmwythder ei cherddediad cyn hedfan fyny fry yn rhydd. Rhyddid. Fe fydd colomen fechan yn ddewis perffaith. Perffaith.
Mor ffol fues i. Mor ddiniwed fues i. Pa mor llachar bynnag oedd yr haul yn disgleirio arnom dros yr haf hwnnw roedd yna gysgodion yn llechu’n llechwraidd. Dreifio adre berfeddion nos oedden ni. Chwerthinad iach un funud a sgrech enbyd y nesa’. Breuddwydion cynnes wedi eu chwalu’n deilchion mewn eiliadau. Alla i gofio’r gwydrau yn flanced arian ar y llawr, y goleuadau wedi eu crogi, y bonet yn ddi-siâp a’r seddi’n sibrwd atgofion y teithwyr olaf. Cofio’r tawelwch a’r galar wedi’r chwalfa. Cofio’r tristwch yn hongian fel cwmwl a bywyd wedi rhewi yn y fan a’r lle. Dw i’n dal i gofio. Parhau mae’r hunllef. Dydi’r negeseuon testun ddim wedi peidio, dydi’r boen ddim wedi lleddfu a dydi’r ysfa am freichiau cynnes i’m hamddiffyn ddim wedi pylu.
O! Mae amser mor llonydd. Sŵn cadeiriau’n gwichian yn uchel gan grafu’r llawr wrth i bobl anesmwytho, anadl ddofn gan y dyn moel, cyhyrog, drws nesa’ imi a rhyw ochenaid yma ac acw, dyna’r oll sydd yn fy nghadw’n ddiddyg. Trof dudalennau’r cylchgrawn yn frysiog, tudalennau llychlyd, tudalennau wedi eu rhwygo. ‘Darren Harrison’, caiff yr enw ei alw gydag arddeliad fel petai’n cael ei alw dros uchel seinydd. Rhyw giledrych wna pawb, dim ond i weld pwy sy’n codi, pwy sy’n ufuddhau i’r alwad fel oen yn mynd i’r lladdfa. A dweud y gwir mae’n syndod fod ganddo ddarn o groen glan yn weddill. Ond mae gan bawb yma ei stori, pawb â phwrpas. Ambell un yn hen law, ambell un yn ddibrofiad. Pawb â’i gyfrinach, pawb â’i gilfachau cudd.
Tra bod un drws yn cau mae drws arall yn agor a chwa sydyn o gemegion yn tryledu drwy’r ’stafell. Drwyddo daw’r cwsmeriaid; rhai yn griddfan mewn poen yn ddagreuol, eraill â’u llygaid llawen yn gwenu gyda balchder. Yn ddisymwth daw cân ‘Little do you know’ i dorri ar y tawelwch annifyr a’r geiriau ‘Little do you know how I’m breaking while you fall asleep’ yn f’atgoff o fy angel gwarcheidiol. Caf rhyw fodlonrwydd tawel. Perffaith.
Clywaf fy enw. Codaf. Cerddaf yn dalog i’r anwybod. Caf fy nghroesawu gan lanc ifanc a’i lygaid yn fflachio tu ôl i sbectol dywyll, drwchus. Eisteddaf. Mae’r lledr rhad yn crafu fy nghoesau. Daw arogl chwys i lenwi fy ffroenau, yn ddigon i wneud imi gyfogi. Gyda chryndod estynaf fy mraich chwith i’r llanc tra bo’r llaw dde yn gafael fel crafanc am fraich y gadair. Mae’r croen wedi ei ddiheintio a’r nerfau yn cynyddu. Gwelaf y nodwydd finiog yn nesau. Clywaf sŵn cras y gwn.
Caeaf fy llygaid.
Daw atgofion ac ysbrydion y gorffennol i hedfan yn rhydd o’m cwmpas. Pwy oedd hwnnw a’i lygaid yn chwerthin? Wyneb ifanc yn fy anwylo a gwên ddireidus ar ei wefusau cochion. Cofio’r prynhawn tesog hwnnw yn sgwâr y ddinas, ninnau’n blasu’r danteithion estron a cholomen wen yn chwarae mig uwch ein pennau. Y dŵr o’r ffynnon yn tasgu, harddwch yr adeiladau yn ein rhyfeddu, a’r wên ysgafn honno yn chwarae ar ein gwefusau.
Mewn llonyddwch anghyfforddus treiddia’r nodwydd i’m cnawd gan losgi a chrafu’r croen yn batrwm gwyn, perffaith.
Agoraf y drws ac anadlaf chwa o awyr iach wrth gerdded drwy ddrysau dwbl gwydr y stiwdio i realiti bywyd. Edrychaf ar fy ngarddwrn gyda balchder. Gollyngdod. Tatŵ er cof, tatŵ i dalu teyrnged, tatŵ chwerw felys i gofio’r diwrnodau braf llawn direidi a’r nosweithiau hir.
Craith oesol i leddfu creithiau’r gorffennol. Mae’r orchwyl wedi ei chyflawni. Yn frysiog trof fy mhen i syllu’n fodlon ar y stiwdio. Fel colomen, rhodiaf yn rhydd, yn heddychlon fy myd i wynebu heriau’r dyfodol.
Comments
Post a Comment