Tom yw awdur y dydd heddiw... Y Daith Roedd hi’n noson galed yn y gwersyll gan fod twrw gwrthdaro diddiwedd i’w glywed yn glir. Sŵn dynion dewr yn bloeddio mewn poen, a merched a’u plant yn sgrechian dros eu colled ag i dynnu sylw unrhyw un oedd ar gael i’w helpu. Tra’r roedd y ffrwydradau yn dallu’r bobl o ddistawrwydd, roedd y plant yng ngwersyll y ffoaduriaid i gyd yn gorwedd wrth ymyl ei gilydd ar ddarn o flanced lydan i’w cadw oddi ar y llawr, ac un blanced amdanynt i’w rhannu, rhwng pedwar. Roeddent i gyd yn crynu gan ei bod hi’r noson oeraf o Ragfyr a doedd ganddynt brin unrhyw beth i’w cadw yn gynnes. Roedd y mamau yno yn trio eu cysuro a thynnu eu sylw o'r hyn a oedd yn mynd ymlaen yn Aleppo. Doedd y daith o’r ddinas ddim wedi bod yn rhwydd i’r rhain o gwbl. Fe'u gorfodwyd i adael eu bywoliaeth a'u cartrefi gan fod eu bywydau mewn perygl, gan golli nifer o ddynion ar y f...