Skip to main content

Y Drwg yn y caws - Cain Hughes

Darn llwyddiannus iawn arall yn ystod tymor Eisteddfodau 2018-19 oedd hwn gan Cain.  Yn wir, aeth Cain i drafod ei gwaith yn y Babell Len yn Eisteddfod Llanrwst. 

Y Drwg yn y Caws
Dwn i’m lle dw i’n mynd, ond dw i’n dal i redeg, a dwn i’m os dw i am stopio. 
Ni allaf weld dim byd trwy’r haen o ddagrau sy’n bygwth dymchwel yr argae yn fy llygaid, a tydi’r ffaith ei bod hi’n hanner awr wedi chwech ar noson aeafol yn fawr o help chwaith. 
Rhedaf mor gyflym ag y gall fy nghoesau byrion fy nghario, a’r rheiny bellach wedi ymlâdd. Ond dydw i ddim am stopio. Rhedaf fel athletwr Olympaidd chwe eiliad i mewn i’w ras can medr. Rhedaf i gyfeiliant trawiadau gwadnau fy esgidiau yn erbyn y tarmac a churiadau trwm, cyson fy nghalon yn fy nghlustiau. Rhedaf i gyfeiriad y gwynt, sydd yn bygwth fy chwythu’n ôl i bedair wal uffern, ond af i ddim yn ôl. Dim ar ôl heno. Dim tra’i fod o yn dal yno. 
Ond eto, uffern ydy lle hwnnw.  
O’r diwedd, daw fy nhraed i stop wrth drwyn y clogwyn sy’n ymestyn allan dros y traeth. Y lleuad sy’n cynnal fy ngolwg erbyn hyn, a hwnnw’n fawr yn felyn ac yn isel fel bwlb heno, ei olau’n carpedu wyneb y môr. Daw’r throbian yn fy moch i’r amlwg, a’r boen ddwys wrth i mi ei chyffwrdd. Y basdad. Ni af yn ôl.
Gyda gorlif chwyrn o feddyliau yn llifo trwy fy meddwl, edrychaf i fyny i’r awyr. Mae hi’n noson anhygoel o glir a miliynau o sêr yn wincio’n amlwg arnaf. Tybed be maen nhw’n ei feddwl wrth edrych lawr ar y byd toredig hwn?
Ydyn nhw’n edrych mewn anobaith llwyr wrth weld y rhai sydd bellach yn rheoli ein planed? Bod un o wledydd mwyaf arweiniol a blaenllaw'r byd yn cael ei redeg gan benbwl hiliol, narsisaidd, peryglus a hurt? 
Ydyn nhw’n digalonni wrth weld miliynau yn gorfod ffoi o’u cartref o achos rhyfel a gwrthdaro, yn peryglu eu bywydau wrth gyrraedd gwlad yn anghyfreithlon, ac yn aml, oer iawn yw’r croeso? Miliynau o blant amddifad yn cael eu lladd neu’n marw o ddiffyg gofal, yn cael eu rhwygo o afael tyner eu rhieni a’u gadael yn nwylo brwnt y rhai a’u dinistriwyd. 
Ydyn nhw’n cywilyddio yn niffyg parch dyn tuag at ei blaned? Tuag at gyd-ddyn? Eu diystyriaeth o’r fath fyd y bydden nhw yn ei adael i’w plant, ac i blant eu plant? Eu diffyg parch at bobl o wahanol natur a hil na’u hunain? 
Dynion yn lladd. Mamau yn methu â dygymod. Tadau’n curo.
Tydi’r byd yn ddim byd ond un broblem. Mae’r drwg yn gorbwyso’r da, ac mae’r drwg yn gwenwyno’r da, ac mae’r gwenwyn hwnnw’n lledaenu nes yn y diwedd, mae’r drwg wedi difa’r da. Newyddion drwg dyddiol ar y radio, rhywun wastad wedi’i ladd, wedi’i dreisio, wedi’i gam-drin, a does neb yn synnu pan mae’r newyddion hyn yn cael ei ddarlledu ar y teledu, neu ar y radio, neu ar gyfryngau cymdeithasol. Mae rhywbeth yn ddyddiol, yndoes? 
A tydi ‘mhroblem fawr i ond un broblem fach yn llygaid y sêr. Un broblem fach, ddibwys ymhlith nifer dirifedig o broblemau eraill. 
Caeaf fy llygaid wrth i’r awel fyseddu fy mochau a dawnsio’n rhydd yn fy ngwallt. Ma’ llonyddwch a thawelwch yr awyrgylch o ‘nghwmpas yn cyferbynnu â storm fy meddwl, a honno’n bygwth chwalu’r wal sy’n nadu blynyddoedd o emosiynau rhag dod i’r wyneb ar unwaith. Blynyddoedd o unigrwydd. Blynyddoedd o boen. Blynyddoedd o alar.
Blynyddoedd o gelu.
Agoraf fy llygaid ac edrych allan ar y môr llonydd o fy mlaen, gadawaf i’r llanw lanhau fy ngofidiau a’u cludo ymhell i ddyfnderoedd y dyfroedd. 
“O’n i’n ama’ na fa’ma ‘swni’n dy ffeindio di,” medd llais cyfarwydd tu ôl i mi. Os oedd rhywun am ddod o hyd i mi, fo oedd hwnnw.
“Llongyfarchiadau.”
Eistedda i lawr wrth fy ochr gan ddolian ei goesau dros ochr y clogwyn. Trewir ennyd o ddistawrwydd, a fo yw’r cyntaf i’w dorri. 
“Be 'nath o tro’ma ta?” 
Trof fy mhen ar ongl fel y gall weld fy moch. Ni ddyweda ddim byd am sbel, dim ond edrych ar fy moch gan glensian ei ên. Does dim angen iddo ddweud dim byd, mae ei lygaid yn dweud y cwbl. Llifa clwstwr o emosiynau trwy’i lygaid, ond mae un yn sefyll allan: atgasedd. Er ei fod wedi gadael ers dros flwyddyn bellach, yr un mor amrwd yw’r casineb a deimla tuag at ein tad. A ni welaf unrhyw fai arno.
“Ma’r cynnig dal yno i chdi, a ti’n gw’bod hynny,” medd ar ôl cwta ddeng munud o astudio’r sêr.
“Alla’i ddim gada’l Mam, Cal, ma' ’i angan fi.”
“Het wirion ‘di honno ‘fyd, yn aros efo’r basdad! Be fydd ‘i rheswm hi tro’ma? Eh? Boi’n ‘i ‘garu’ fo? Boi ddim isio chwalu teulu?!”
Ni adawodd Caleb ar nodyn cadarnhaol. Un nos Wener oedd hi. ‘O’n i newydd ddod adref o’r ysgol ar ôl codi Mabli o’r ysgol gynradd ar fy ffordd, ac yn fy llofft yn newid ar gyfer fy ymarfer rygbi pan ddaeth cnoc ar y drws. Caleb oedd yna, ac eisiau siarad. ‘Udodd o’i fod o am gael sgwrs hefo Mam. “Allith petha’ ddim cario ‘mlaen fel ‘ma, Gwil,” oedd ei eiriau. ‘Doedd Dad ddim adref ar y pryd wrth gwrs, yn rhy brysur yn gwenwynno’i hun â photel arall o wisgi yn Nuw a ŵyr lle. Dilynais Caleb i lawr y grisiau i’r gegin, lle’r oedd Mam wrthi’n gwneud brechdan i Mabli. Gwrthodais frechdan gan Mam pan gynigodd, gan ddweud fy mod ar frys.
“Lle ‘ti’n mynd?” gofynnodd Mabli.
“Dim ond i ymarfer rygbi, fydda’i ddim yn hir, ocê?”
“Ga’i ddod?” gofynnodd gyda llond ceg o frechdan jam.
“Alli di ddim ‘sdi, Mabs. Dwi’n gaddo fyddai’n ôl cyn swpar.”
Taflais “dwi’n mynd!” dros fy ysgwydd i gyfeiriad Mam a Caleb, a chamu allan trwy ddrws y tŷ distaw ac am y cae ymarfer. 
Gwahanol iawn oedd pethau pan ddois adref. Roedd y twrw i’w glywed o dŷ rhif saith, ac yr oedd fel petai tŷ rhif 13 yn crynnu gan fod y gweiddi mor uchel. Pan fentrais trwy’r drws, Mam a Dad oedd yn gweiddi. Nid oedd Caleb o fewn golwg, ond daliais ddau lygad bach gleision trwy’r bylchau yng nghanllaw y grisiau. Heb ddweud dim, gafaelais yn ei llaw a’i harwain i fyny’r grisiau i’w hystafell wely. Darllenais sawl stori iddi dros gyfeiliant y teledu bach yn ei llofft a oedd yn boddi’r gweiddi, na gelodd am oriau. 
‘Ddaeth Caleb ddim adra’r noson honno, a tydy o heb gamu cam dros rhiniog ein drws ers hynny. 
“Ma’i yn ‘i garu o, Cal,” mentraf.
“Yndi? Ydi hi wir? Wel, love has it’s limits, Gwil.”
Unwaith eto, disgynnwn ni’n dau i ofod o ddistawrwydd. Gorweddaf ar fy nghefn yn y gwellt tamp gan edrych ar y sêr unwaith eto. Ar ôl ychydig eiliadau, dilynodd Caleb fy nghamau a chladdu ei ddwylo tu ôl i’w ben.
Love has it’s limits. Ond be ydi’r limit hwnnw? Love. Be ydi hynny? I mi, dim ond gair. Celwydd.
“Be ti’n feddwl ma' nhw’n feddwl ohona’ ni?” gofynnaf iddo.
“Pwy?” 
“Y sêr?”
“Erioed ‘di meddwl am peth.”
“Meddylia wan ta.”
“Wel...Dwn i’m,” medd ar ôl meddwl am eiliad, cyn dechrau. “Dw i ‘m yn meddwl ‘u bod nhw’n sbïo arna’ ni, ‘sdi. ‘Swn i ddim.”
“Osgoi problemau.”
“Ia, yn anffodus…gwrthod edrych i lygad y broblem, ‘de, ac yn ei hanwybyddu, nes mae’r broblem yn mynd yn fwy ac yn fwy nes bod dim posib ei rheoli bellach.”
Fel gwenwyn. Yn llifo trwy ein gwythiennau.
“Dyna sy’ ‘di digwydd i’n planed ni, Gwil. Pobl yn anwybyddu’r broblem, nes ei fod yn mynd tu hwnt i’n rheolaeth. Ma’ angan dal gafael ar broblem fel y mae’n codi, cyn i’r broblem gael y cyfle i dyfu, ac fel yna, ‘nei di ddim colli rheolaeth arni. Achos...unwaith ‘ti wedi colli rheolaeth dros y broblem, dyna ni wedyn...Ma’n digwydd i bawb. Twyllo ein hunain i feddwl nad oes problem, neu bo’r broblem am wella ei hun dros amser, ond nid fel’a ma’n gweithio.
“Meddylia am peth...os ti di disgyn a di brifo dy goes ne’ dy fraich ne dy ben ne’ be’ bynnag, a ma’ dy groen di ‘di codi a ma’n gwaedu, be' ‘ti am neu’ am peth? Wel, ti un ai’n ‘i olchi fo a rhoi plastar arno fo, neu, os ydi o angan gofal mwy dwys, ti’n mynd at ddoctor. Ti ddim jest yn ei adael o, nag wyt? Achos os wnei di’i adael o, eith o’n infected ac mi fedri di ga’l gwenwyn gwaed a phob mathau o betha’.”
“So, ti’n deu' bo’ ca’l dy guro’n ddu las gen dy dad a gweld a chlwad dy fam yn ca’l yr un torture yn ‘wbath allith ga’l ‘i sortio drw’ roid ffycin plastar arno fo?” poeraf y geiriau i’w wyneb. Gwn yn iawn nad dyna oedd o’n ei feddwl. Ond fesul un, mae’i eiriau yn taro’r wal amddiffynnol yr wyf wedi gweithio mor galed i’w chodi, a darn fesul darn, y mae hi’n disgyn. Trof i’w wynebu. “Nesdi adael dros flwyddyn yn ôl! ‘Sgen ti’m blydi syniad faint ma’ petha ‘di gwaethygu ers hynny. Dw i’n deffro bob bora yn gweddïo’i fod o heb ‘i lladd hi dros nos. Dw i’n ‘i gl’wad o’n dod adra am ddau o’ gloch bora ac yn ‘i cholli hi’n syth. Petha’n malu, gweiddi, sgrechian, dwi’n cl’wad y cwbl! Ma’ Mabli’n cl’wad y cwbl ac yn dod i’n llofft i’n beichio crio bob nos! ‘Genna’ i ofn drwy’n nhin wrth ‘i wynebu fo, ond choelia di fi dydi’r ofn o’i wynebu fo’n ddim byd o’i gymharu ‘fo’r ofn ‘na rhyw dd’wrnod...y hi fydd yn ei cha’l ‘i.” 
Darn fesul darn.
“Felly paid a ffycin meiddio rhoi darlith i fi ar beidio colli gafael ar broblam, pan na chdi o’dd y cachwr ‘nath gerddad i ffwr’.”
Codaf ar fy nhraed a throi oddi wrtho. Mae fy ngwaed yn berwi. Mae fy ngolwg yn aneglur. Mae fy ngwynt yn fyr. Llwyddaf i gymryd ambell i gam oddi wrtho cyn i ‘mhengliniau ollwng, a disgynnaf yn llipa i’r llawr. Mae'r argae'n chwalu a'r wal yn disgyn yn ddarnau, a byrlyma blynyddoedd o emosiynau lawr fy mochau, ac am y tro cyntaf, y tro cyntaf ers blynyddoedd, gadawaf iddyn nhw lifo’n rhydd. Pob emosiwn, pob teimlad a gelwyd tu ôl i’r wal emosiynol bellach yn blanced ar fy ngruddiau. Gafaelaf yn dynn rownd fy nghoesau gan wylo’n swnllyd i’r nos, ac ar ôl munud neu ddau, teimlaf fraich drom yn lapio o amgylch fy ngwddw a chaf fy nhynnu i gofleidiad clòs. Gadawaf fy hun ymlacio yn ei freichiau gan adael i fy nagrau hallt wlychu ei grys. 
“Dw i’n sori, Gwil. Dw i mor, mor sori.”
“Be rŵan, Cal?” gofynnaf wrtho, ar ôl sychu’r dagrau.
“Dw i’n meddwl bo’ chdi’n gw’bod be sy’ angan ‘i ‘neud nesa’.” Tafla winc i ‘nghyfeiriad a gwên gefnogol.
Ac yndw, dw i’n gwybod yn iawn be sydd angen ei wneud nesaf. Ni all problem ddatryd ohoni’u hun. Teimlaf fel mai fi sydd wedi cynnal y teulu ‘ma dros y flwyddyn ddiwethaf. Y fi sydd wedi bod yn cysuro Mabli yn oriau mân y bore a chodi’r darnau o lestri sydd wedi malu ar llawr y gegin. Bu’n rhaid i mi fod yn gryf. Ond nid fel yma mae pethau i fod. Nid fel yma mae stori Mabli i fod. Efallai nad yw Mam wedi gwneud y penderfyniad iawn drosom ni, ond nid yw hynny am fy stopio i rhag gwneud y penderfyniad iawn ar eu cyfer nhw.
***
Saf yn syth o’i flaen. Tarodd arogl cryf yr alcohol fy ffroenau’r eiliad a gerddais i mewn i’r ystafell. Teimlaf Caleb yn anadlu i mewn yn sydyn wrth fy ochr wrth weld Mam, a’i ddal. Mae sioc ar ei hwyneb hithau hefyd.
Efallai bod y broblem hon allan o fy rheolaeth. Efallai ei bod yn rhy hwyr i newid beth sydd bellach yn realiti. Ond, wrth i’m llygaid ddal dau lygad bach arall cysglyd yn syllu arnaf o du ôl y drws, gwn fod rhaid i mi drio cymryd rheolaeth dros yr hyn sydd allan o fy rheolaeth, er ei mwyn hi, o leiaf.
Ac wrth i mi edrych i’r soseri gleision rheiny, mae un peth yn sicr. Y hi sy’n diffinio cariad i mi. Y hi sy’n rhoi ystyr i’r gair. 
Love has it’s limits, ond mi basiaf unrhyw limit er mwyn sicrhau nad oes un deigryn arall yn llifo lawr ei bochau gwritgoch hi.
Y fo yw sylfaen y broblem, y drwg yn y caws a’r gwenwyn yn fy ngwaed. 

Felly gan gymryd anadl ddofn codaf fy mhen, ac edrychaf yn syth mewn i ddau lygad oer, gwag y broblem.

Comments

Popular posts from this blog

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Ymson Gwil - Hana Mair Jones 11.11.20

 Ymson Gwil - Hana Mair Jones A hithau'n ddiwrnod i ni gofio - Hana sy'n ymateb i'r ddrama 'I'r gad fechgyn Gwalia'. Bore Dydd Mawrth, 22ain o Fedi, 1915 Mwd slwtsh sydd i'w weld yma, nid mynyddoedd moel ond anialwch o fudredd. Dwin gweld ambell fynydd ond nid y rhai fel sydd adra, pentyrrau o gyrff marw dwi'n ei weld. Mae'r hiraeth yn rhy hir, y boen yn rhy boenus a'r ofn yn rhy ofnus. Braf oedd deffro borau, y mynyddoedd yn gwisgo'u hetiau niwl a'r llyn fel gwydr, ond nawr dim ond darnau miniog garw y gwydr wedi'i falu'n fan sydd yma, breuddwydion y milwyr ifanc sydd bellach yn y nen. Wela i Twm a Hari ochr draw yn smocio'u cetyn, yn chwerthin yn llawen wrth iddynt sibrwd i'w gilydd. Bechgyn ffôl, yn meddwl mai amser anturus yw hyn, 'once in a life time opportunity' fel udodd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn iddynt wrth iddo lenwi meddyliau'r diniwed â gwenwyn y rhyfel. Syllaf ar Gruff sy'n eistedd

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]