Skip to main content

Am dro i Ben y Cil - Emrys Evans

 

Pen Y Cil



Ym mhen draw Llyn, mae pentir carregog yn ymestyn i'r mor, yn trio ei ora i gydio yn yr ynys sydd yn gorwedd o'i flaen. Ar ddiwrnod cymylog o fis Medi, mae'r llystyfiant a oedd yn llawn lliw a bwrlwm ychydig fisoedd yn ol, yn sefyll yn frown ac yn grimp erbyn hyn.

Mae'r aer yn dawel, dim ond swn y frwydr ddiddiwedd rhwng y creigiau a'r cefnfor, yn taro yn erbyn ei gilydd bob eiliad sy'n pasio. Bob hyn a hyn, mae sgrech yr wylan neu swn giat yn hollti trwy sain undonog y mor, cyn dychwelyd i'r gylchred gyfarwydd yna unwaith eto. Weithiau hyd yn oed, mae swn awyren yn ein hatgoffa o’r byd dynol, er ei bod yn ddigon hawdd anghofio amdano mewn lle mor wyllt. Yn aml, mae dwr mor yn ffrwydro i fyny o bob ochr, ac yn darparu haen o halan hallt ar y creigiau sydd ym mhobman yma.

O flaen y pentir, mae llethr serth y parwyd, golygfa fygythiol i unrhyw un sydd yn rhoi ei lygaid ar y darn enfawr o graig yma. Ar olwg agosaf, mae cymlethdod enfawr i glogwyn serth y parwyd, pob math o batrymau chwirliog, ar ganfas y graig enfawr. Mae eich llygad yn siwr o gael ei ddenu at Ynys Enlli, sydd yn edrych fel bod posib ei chyffwrdd bron iawn, mynydd arall, serth, peryg ac anhygoel o wyntog. Ond wrth gwrs, yn gwahanu y pentir a'r ynys mae tonnau dieflig y swnt. Ar adegau, mae'r cyfuniad o'r tonnau ffyrnig ac ewyn gwyn y mor yn gwneud i’r swnt edrych fel rhyw fath o gymysgedd mewn crochan gwrach. Yn y pellter mae cwch melyn, yn edrych fel corach yn y  mor diddiwedd sydd yn ei amgylchynu ar bob ochr. Yn araf, mae’r cwch yn agosau at yr ynys, yn gwneud yn siwr i osgoi y cynnwrf sydd yn syth o flaen Pen Y cil.

Wrth edrych i'r de, mae bae Aberdaron yn gallu cael ei weld yn glir, y pobl ar y traeth yn edrych fel dotiau bach ar bapur o’r fath bellder. Mae ambell gwch hwylio i weld, yn symud yn ddiog yn y bae, yn cymryd lloches o'r gwynt di-baid sydd yn eu disgwyl ychydig o filltiroedd i'r de. Hyd yn oed yn bellach i’r dwyrain mae penrhyn Cilan, mae lliw porffor trawiadol y grug yn cyferbynnu a’r awyr lwyd, di fywyd. Yn bellach fyth, mae amlinelliad trawiadol llethrau mynyddoedd Eryri i weld, sydd yn ildio i dir eithaf gwastad arfordir sir Benfro yn y pellter. Ar noson glir, mae golau ysbeidiol goleudu strumble head yn amlwg, ffynhonell brin o oleuni mewn tirwedd digon tywyll.

Mae’n  werth edrych i’r gogledd hefyd o Ben y Cil, hefo siap trionglog mynydd Anelog yn arglwyddiaethu yr olygfa, man uchel mewn ardal wastad. Yn agosach, mae mynydd Bychestyn i'w weld, hefo llwybrau bach yn plethu drwy’r gwellt a'r eithin.




Comments

Popular posts from this blog

Ymsonau Bachgen mewn dau gyfnod gwahanol - Beca Hughes

Mae Beca wedi mynd ati i sgwennu dwy ymson... mwynhewch Ymson bachgen mewn dau gyfnod gwahanol yn ei fywyd Ymson Ifan: Yn ystod y rhyfel byd cyntaf Rhyddid. Be ‘di hwnnw? Peth diethr iawn i mi. Rwy’n breuddwydio am fynd tu draw i fynyddoedd Eryri a gweld y byd go iawn. Rwy’n breuddwydio am gael gweld y dinasoedd mawr a’r golygfeydd godidog; ymweld a’r llefydd mwyaf ysblennydd yn y byd. Rwy’n dyheu am gyfarfod pobl newydd, pobl wahanol i bobl y chwarel. Ond na, mae’r chwarel yn garchar ac yma fyddai fyth, diolch i Wil, fy ‘mrawd’. Mae o’n teimlo fel breuddwyd, ond yn fwy fel hunllef, ond dwi’n gobeithio deffro. Deffro o’r hunllef afiach dwi’n ei ganol. Wil yn listio, Wil o bawb! Ni fysa Wil yn rhoi niwed i bry heb son am ladd gyd-ddyn. Mi fydd o yn union fel oen i’r lladdfa yn y fyddin, dydi’r fyddim ddim yn le iddo. Rwy’n teimlo’n ddrwg am y peth, ond pam ddylwn i? Ei benderfyniad o ei hun oedd listio, penderfyniad gwirion iawn. Dwi’m yn gallu coelio yr hyn mae Wil wedi’i...

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...