Skip to main content

Posts

Am dro i Ben y Cil - Emrys Evans

  Pen Y Cil Ym mhen draw Llyn, mae pentir carregog yn ymestyn i'r mor, yn trio ei ora i gydio  yn yr ynys sydd yn gorwedd o'i flaen. Ar ddiwrnod cymylog o fis Medi, mae'r llystyfiant a oedd yn llawn lliw a bwrlwm ychydig fisoedd yn ol, yn sefyll yn frown ac yn grimp erbyn hyn. Mae'r aer yn dawel, dim ond swn y frwydr ddiddiwedd rhwng y creigiau a'r cefnfor, yn taro yn erbyn ei gilydd bob eiliad sy'n pasio. Bob hyn a hyn, mae sgrech yr wylan neu swn giat yn hollti trwy sain undonog y mor, cyn dychwelyd i'r gylchred gyfarwydd yna unwaith eto. Weithiau hyd yn oed, mae swn awyren yn ein hatgoffa o’r byd dynol, er ei bod yn ddigon hawdd anghofio amdano mewn lle mor wyllt. Yn aml, mae dwr mor yn ffrwydro i fyny o bob ochr, ac yn darparu haen o halan hallt ar y creigiau sydd ym mhobman yma. O flaen y pentir, mae llethr serth y parwyd, golygfa fygythiol i unrhyw un sydd yn rhoi ei lygaid ar y darn enfawr o graig yma. Ar olwg agosaf, mae cymlethdod enfawr i glo...
Recent posts

Am dro i - Afonwen - Lydia Matulla

Lawr lôn gul, droellog, di-ben lle mae’r cloddiau yn dalach na chawr yn fy mygu i ac ambell flodyn bach; llygad y dydd, pansi ac eirlys yn addurno ymylon y lôn. Gwehyriad ceffylau yn y pellter a’r coed yn canu cân tebyg i ditw tomos las. Ar pob troiad mae yna frigyn neu bluen unig a byddaf yn codi pob un er mwyn creu atgof melys. Mae’r coed trwchus ar yr ochr chwith yn awyr werdd ac oddi tana yna afon fychan yn llifo o’r môr ymlaen i afon Dwyfor. Sŵn ysgafn y dŵr yn cyffwrdd y cerrig llonnydd ar ei daith. Wrth i'r lôn ddod i ben dechreua'r antur. Yn y pellter mae sŵn y llanw yn dod i mewn ac allan gyda blerwch wrth chwipio y cerrig a’r creigiau. Arogl halen a physgod yn nesau amdana i gyda theimlad fwy poenus y tywod sydd rhwng bodia fy nhraed yn trio dianc. Amlyga liw pendant y glas wrth gerddad ymhellach dros dwmpath tonnog o dywod meddal melyn sydd yn llithro i lawr i lle bu dyddiau braf yr haf yn gorwedd yn cael eu treulio neu ddyddiau rhewllyd y gaeaf wrth edrych ar y ...

Ymson Gwil - Hana Mair Jones 11.11.20

 Ymson Gwil - Hana Mair Jones A hithau'n ddiwrnod i ni gofio - Hana sy'n ymateb i'r ddrama 'I'r gad fechgyn Gwalia'. Bore Dydd Mawrth, 22ain o Fedi, 1915 Mwd slwtsh sydd i'w weld yma, nid mynyddoedd moel ond anialwch o fudredd. Dwin gweld ambell fynydd ond nid y rhai fel sydd adra, pentyrrau o gyrff marw dwi'n ei weld. Mae'r hiraeth yn rhy hir, y boen yn rhy boenus a'r ofn yn rhy ofnus. Braf oedd deffro borau, y mynyddoedd yn gwisgo'u hetiau niwl a'r llyn fel gwydr, ond nawr dim ond darnau miniog garw y gwydr wedi'i falu'n fan sydd yma, breuddwydion y milwyr ifanc sydd bellach yn y nen. Wela i Twm a Hari ochr draw yn smocio'u cetyn, yn chwerthin yn llawen wrth iddynt sibrwd i'w gilydd. Bechgyn ffôl, yn meddwl mai amser anturus yw hyn, 'once in a life time opportunity' fel udodd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn iddynt wrth iddo lenwi meddyliau'r diniwed â gwenwyn y rhyfel. Syllaf ar Gruff sy'n eistedd...

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]

Robin Goch - Sioned Jones

Ymarfer ar ddechrau'r cyfnod yn y Coleg ydy'r dasg Tatw.  Dyma ddarn creadigol gan Sioned. Roedd hi’n unarddeg o’r  gloch y bora. Cododd Beca’n hwyr felly roedd ganddi 30 munud i gael ei hun wedi newid a chyrraedd ei apwyntiad. Aphwyntiad... i gael tatw. Ie tatw!    Merch ifanc 18 oed oedd Beca oedd wedi trefnu ddoe, yn fyr-rybudd, apwyntiad i gael tatw. Doedd Beca erioed wedi meddwl y bydda hi am gael tatw. Ond pan basiodd y siop, ystyriodd efallai byddai cael tatw yn dangos pwy ydi hi go iawn?    Taflodd ddillad cynnes amdani gan ruthro lawr y staer ac syth allan trwy ddrws ei thŷ gan adael andros o glec ar ei hôl. Tri bloc rownd y gornel roedd rhaid i Beca ei gymryd er mwyn cyrraedd Inciau Ianto, y siop datw. Cyrhaeddodd Beca’r sip datw 5 munud yn gynharach nag oedd raid oherwydd roedd hi mor gyffroes. Estynodd ei llaw ar handlen y drws oer, camodd i’r ystafell wag. Caeodd y drws yn glec gyda chryfder y gwynt. Neidiodd allan o’i chroen. Wrth i...

Ail ennyn gwên Olwen - Hedd

Un da am fynd i fyd ffantasi ydy Hedd... Ail ennyn gwên Olwen Pam fod toeau mor anioddefol o ddiflas, meddyliodd Olwen wrth iddi syllu'n flinedig tuag at y nenfwd. Pam nad oedd ganddi hi yr un campwaith o bobl mewn llieiniau gwyn, o angylion hudol nac o dduwiau barfog yn syllu lawr arni fel oedd ar nenfwd rhyw amgueddfa y gwelodd rhyw dro gyda'i hen Ewythr Emrys, pan oedd hi'n iau. Ond wedyn, meddyliodd pwy oedd yn mynd i syllu ar y nenfwd hwnnw i werthfawrogi'r ymdrech heb gael poen yn eu gyddfau. Yr unig amser y byddai'n edrych ar nenfwd fel arfer oedd pan byddai'n gorwedd yn ei gwely eisiau mynd i gysgu neu yn syth ar ôl deffro fel yr oedd yn gwneud nawr. Efallai dyna pam fod toeau mor blaen, er mwyn diflasu bobl gymaint eu bod nhw eisiau mynd i gysgu. Bodlonodd ei meddwl ar y syniad yna. Cododd yn araf ar ei heistedd. Sleifiai pelydrau'r haul drwy'r gofod rhwng cyrtens drudfawr ei llofft, gan oleuo pob cornel o'r ystafell...