Lawr lôn gul, droellog, di-ben lle mae’r cloddiau yn dalach na chawr yn fy mygu i ac ambell flodyn bach; llygad y dydd, pansi ac eirlys yn addurno ymylon y lôn. Gwehyriad ceffylau yn y pellter a’r coed yn canu cân tebyg i ditw tomos las. Ar pob troiad mae yna frigyn neu bluen unig a byddaf yn codi pob un er mwyn creu atgof melys. Mae’r coed trwchus ar yr ochr chwith yn awyr werdd ac oddi tana yna afon fychan yn llifo o’r môr ymlaen i afon Dwyfor. Sŵn ysgafn y dŵr yn cyffwrdd y cerrig llonnydd ar ei daith.
Wrth i'r lôn ddod i ben dechreua'r antur. Yn y pellter mae sŵn y llanw yn dod i mewn ac allan gyda blerwch wrth chwipio y cerrig a’r creigiau. Arogl halen a physgod yn nesau amdana i gyda theimlad fwy poenus y tywod sydd rhwng bodia fy nhraed yn trio dianc. Amlyga liw pendant y glas wrth gerddad ymhellach dros dwmpath tonnog o dywod meddal melyn sydd yn llithro i lawr i lle bu dyddiau braf yr haf yn gorwedd yn cael eu treulio neu ddyddiau rhewllyd y gaeaf wrth edrych ar y tonnau gwyllt yn rhuo. Draw ar yr ochr chwith mae dŵr yn diferu yn dawel i lawr i rywbeth tebyg i lyn. Trysorau o gerrig a chregyn â stori wahanol, gwymon yn gorweddian o gwmpas ar y tywod melyn. Ochr bella i’r llyn mae ein tŵr cerrig simsan ni dal i sefyll, ein prosiect cyntaf o ddangos cariad a chyd-weithio.
Ar ochr dde fy llygaid mae hoel ein traed ni yn darganfod crancod o dan gerrig trymion ac o dan ambell un yng nghanol y tywod gwlyb gludiog mae un cranc unig yn dianc oddi wrth oleuni yr haul tanbaid. Wrth gerdded ychydig pellach mae posibl darganfod tyrau bychan o dywod wedi codi ym mhob man gan lygwm. Mae dilyn rheini yn arwain chi at lonyddwch a chysur rwyf innau yn ei ddarganfod yma.
Newid Wedi'i hysbrydoli gan thema'r Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol Myfi aeth ati i sgwennu cerdd. Yn berfedd i’r pridd, pwyra pob cawr wddf i’r wybren fru, Er hagr yw pob enaid, maes o law nid newid sydd, Yn sgil cwyn y gapan cornicyll, troedio mewn rhyddid wna enaid glan, Gan fwydo ar feini llwydion, a chodi gwreiddiau o grombil tan. Hollta’r tir yn hanner gan buro baw ym mwrlwm bryn, Gan wegian dan bwysau moesau sydd eisioes yn tynnu’n dynn, A chraith ar gramen gwan yw plyg pob pwyth y bladur lafn, Yn atgof o ennyn ein hanes, a hwnnw’n frwydr am feiddio barn. Ac felly, golcha yn dy ogoniant, dyro drawiad ar ddrygni’r drefn, Paid dioddef llafn y gyllell, yn faich ar wasg dy gefn, Oherwydd o lefain llafn y cliw cwyn mewn pob cri, Yn sgil newid tro at fynydd a gwna yn gnawd amdana ti.

Comments
Post a Comment