Skip to main content

Robin Goch - Sioned Jones


Ymarfer ar ddechrau'r cyfnod yn y Coleg ydy'r dasg Tatw.  Dyma ddarn creadigol gan Sioned.

Roedd hi’n unarddeg o’r  gloch y bora. Cododd Beca’n hwyr felly roedd ganddi 30 munud i gael ei hun wedi newid a chyrraedd ei apwyntiad. Aphwyntiad... i gael tatw. Ie tatw!
   Merch ifanc 18 oed oedd Beca oedd wedi trefnu ddoe, yn fyr-rybudd, apwyntiad i gael tatw. Doedd Beca erioed wedi meddwl y bydda hi am gael tatw. Ond pan basiodd y siop, ystyriodd efallai byddai cael tatw yn dangos pwy ydi hi go iawn? 
  Taflodd ddillad cynnes amdani gan ruthro lawr y staer ac syth allan trwy ddrws ei thŷ gan adael andros o glec ar ei hôl. Tri bloc rownd y gornel roedd rhaid i Beca ei gymryd er mwyn cyrraedd Inciau Ianto, y siop datw. Cyrhaeddodd Beca’r sip datw 5 munud yn gynharach nag oedd raid oherwydd roedd hi mor gyffroes. Estynodd ei llaw ar handlen y drws oer, camodd i’r ystafell wag. Caeodd y drws yn glec gyda chryfder y gwynt. Neidiodd allan o’i chroen. Wrth i’r drws gau roedd gwich anifyr yn cael ei adael gan gilfachau’r drws. Ar y funud honno roedd y gloynnod byw oedd ym mol Beca’n mynd yn fwy ac yn fwy pob eiliad. Cymerodd gamau gofalus tuag at y ddesg yng nghornel belldraw’r ystafell.Tu ol y ddesg ddu blaen roedd merch ifanc gyda gwallt piws a dwnim faint o datw’s dros pob rhan oedd i’w weld o’i chorff. Cyflwynodd Beca ei hun i’r ddynes unigryw yn dawel ‘Helo Beca Hughes ydw i, mae gen i apwyntiad wedi ei fwcio erbyn hanner awr wedi unarddeg’. Atebodd y ddynes yn syth gyda ‘ cymera sedd, mae Ianto bron a gorffen ar ei gwsmer, fydd o ddim yn hir.’ Gwenodd Beca ond doedd y wên honno bellach ddim yn wên gyffroes. Roedd hi’n wên nerfus.
Cymerodd Beca sedd mewn cadair ddu. Roedd eistedd ar y gadair yma fel petai hi’n eistedd ar garreg!  Ond o leiaf roedd yno clustog meddal fel blanced babi  wedi cael ei osod yn dwt arni. Ar y funud honno yr oll roedd Beca’n gallu arogli oedd hogla lledr budr o’r cadeiriau yn yr adeilad.Ond ar y llaw arall, roedd arogl glan fel petai’n eistedd mewn ysbyty felly roedd hynny’n cysuro ychydig ac yn tynnu ei sylw  o feddwl am arogl y lledr budr. Gwich main a thawel a glywa Beca, fel gwich gwenyn sy’n ysu i bigo person. Gan glywed y swn miniog o’r peiriant inc yn gweithio’n galed ar y celf oedd yn cael ei incio’n ddwfn i groen person. Ond yn y cefndir roedd swn yr gwynt tu allan yn rhuo fel llew a’r glaw yn llifo lawr gwydr y ffenest fel y dagrau mewn poen.
  Yn sydyn, agorodd y drws oedd yn arwain at yr ystafell incio. Gwelodd Beca ddyn mawr cryf yn llawn inc. O weld bod yno gling ffilm wedi cael ei lapio o amgylch ei fraich syllodd Beca ar y tatw anferth roedd wedi’w gael. Wrth i’r dyn oedd yn edrych fel arth basio gwenodd Beca arno gyda gwên dwt, ond chafodd ddim emosiwn yn ol. Galwodd Ianto , yr artist tatw, arni i ddod i fewn i’r ystafell incio. Neidiodd Beca’n sydyn o’i chadair fel cangarŵ gan gerdded i mewn i’r ystafell arall. Meddyliodd pa mor bwysig oedd o iddi hi gael y tatw yma. Gan syllu ar y gadair incio sylwodd ei bod llawer mwy cyfforddus na’r cadeiriau’n y dderbynfa.
Roedd wedi penderfynu ddoe beth roedd hi am gael fel ei thatw cyntaf ac wedi dweud wrth Ianto. Gofynodd yntau ‘ydi hwn y scetch cywir nes di ofyn amdano ddoe Beca?Ydio’r maint cywir hefyd?’ Atebodd Beca ‘ Yndi, briliant, mae’n berffaith.’ Gwenodd Ianto gyda balchder gan ddweud ‘Iawn felly, mi wnai gychwyn arni. Rhyw awr gymerith yr tatw i’w wneud gan nad ydio’n rhy fawr. Wyt ti’n gyfforddus ac hapus imi gychwyn Beca?’ Nodiodd Beca. Syllodd ar y pin miniog oedd yn anelu tuag at ei chroen. Yr eiliad honno teimlodd nodwydd finiog yn suddo mewn i’w chroen gan  rwygo’i chroen ar agor a’i lenwi gydag inc. I gychwyn, roedd Beca’n stryglo braidd gyda’r boen aruthrol ond ar ol ychydig o funudau ac anadlu’n ddwfn roedd y boen yn dod yn fwy naturiol iddi. Gofynodd Ianto iddi, ‘duda imi Beca, pam tatw o robin goch?’ i. Eglurodd,  ‘wel, mae o i gofio am fy nain, oherwydd roedd nain o hyd wedi dweud imi mai robin mawr coch roedd hi am fod ar ol marw er mwyn iddi gallu cadw golwg arnai ar ol iddi fynd. Felly, penderfynais cael yr robin goch yma fel arwydd bod nain o hyd gyda mi lle bynnag dwin mynd. Er bod y tatw ei hun yn fach i mi mae’n symbol mawr gyda phwysigrwydd mawr achos roeddwn i a nain yn ffrindiau gorau ac yn ffrindiau am oes.’ 
  Ar ol ychydig mwy o funudau o boen roedd y tatw wedi ei orffen edrychodd Beca ar ei garddwn a syllodd ar y robin goch dela welodd erioed. Roedd dagrau’n llifo lawr ei bochau coch fel y glaw oedd yn disgyn lawr y ffenest o’r tu allan. Ond dagrau o hapusrwydd a chysur gan feddwl am ei nain oedd y dagrau yma. Diolchodd Beca am y tatw ac ar ol lapio’r tatw  gyda cling ffilm a’i olchi’n iawn gyda sebon, talodd Beca gan gerdded allan o’r stiwdio tatw gyda gwen o glust i glust. Roedd yr un tatw bach yna’n rhoi cymaint o gysur iddi hi roedd o werth yr holl boen roedd rhaid mynd trwydd i’w gael. Y cam nesaf i Beca oedd mentro mynd adref a chlywed beth roedd gan ei mam i ddweud ei bod wedi cael tatw. Meddyliodd Beca wrth gerdded adref byddai’n well ganddi fynd trwy’r poen o gael tatw arall na chlywed ei mam yn rhoi pregeth iddi am gael y tatw! Ond, mae’n siwr erbyn iddi egluro pwrpas y tatw , bydda ei mam yn falch iawn ohoni.

Comments

Popular posts from this blog

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Ymson Gwil - Hana Mair Jones 11.11.20

 Ymson Gwil - Hana Mair Jones A hithau'n ddiwrnod i ni gofio - Hana sy'n ymateb i'r ddrama 'I'r gad fechgyn Gwalia'. Bore Dydd Mawrth, 22ain o Fedi, 1915 Mwd slwtsh sydd i'w weld yma, nid mynyddoedd moel ond anialwch o fudredd. Dwin gweld ambell fynydd ond nid y rhai fel sydd adra, pentyrrau o gyrff marw dwi'n ei weld. Mae'r hiraeth yn rhy hir, y boen yn rhy boenus a'r ofn yn rhy ofnus. Braf oedd deffro borau, y mynyddoedd yn gwisgo'u hetiau niwl a'r llyn fel gwydr, ond nawr dim ond darnau miniog garw y gwydr wedi'i falu'n fan sydd yma, breuddwydion y milwyr ifanc sydd bellach yn y nen. Wela i Twm a Hari ochr draw yn smocio'u cetyn, yn chwerthin yn llawen wrth iddynt sibrwd i'w gilydd. Bechgyn ffôl, yn meddwl mai amser anturus yw hyn, 'once in a life time opportunity' fel udodd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn iddynt wrth iddo lenwi meddyliau'r diniwed â gwenwyn y rhyfel. Syllaf ar Gruff sy'n eistedd

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]