Skip to main content

Ymson Gwil - Hana Mair Jones 11.11.20

 Ymson Gwil - Hana Mair Jones

A hithau'n ddiwrnod i ni gofio - Hana sy'n ymateb i'r ddrama 'I'r gad fechgyn Gwalia'.


Bore Dydd Mawrth, 22ain o Fedi, 1915


Mwd slwtsh sydd i'w weld yma, nid mynyddoedd moel ond anialwch o fudredd. Dwin gweld ambell fynydd ond nid y rhai fel sydd adra, pentyrrau o gyrff marw dwi'n ei weld. Mae'r hiraeth yn rhy hir, y boen yn rhy boenus a'r ofn yn rhy ofnus. Braf oedd deffro borau, y mynyddoedd yn gwisgo'u hetiau niwl a'r llyn fel gwydr, ond nawr dim ond darnau miniog garw y gwydr wedi'i falu'n fan sydd yma, breuddwydion y milwyr ifanc sydd bellach yn y nen.

Wela i Twm a Hari ochr draw yn smocio'u cetyn, yn chwerthin yn llawen wrth iddynt sibrwd i'w gilydd. Bechgyn ffôl, yn meddwl mai amser anturus yw hyn, 'once in a life time opportunity' fel udodd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn iddynt wrth iddo lenwi meddyliau'r diniwed â gwenwyn y rhyfel. Syllaf ar Gruff sy'n eistedd ochr draw i'r ffos, nid yma yw ei le. Roeddwn yn wirion yn meddwl y fyddai'n gadael i mi fynd i ryfela hebddo, de ni yma wan gyda'n gilydd ond ei warchod o ydi'n swydd i fel addewais mam.

Clywaf floeddgan y Sergeant, ei lais brwnt yn adleisio dros y ffosydd

"Gas! Gas!"

Gwelaf wyneb ansicr Gruff yn edrych arnai, llawn pryder. Neidiaf am y masgiau nwy gan daflu un tuag at Gruff. Rhoddaf y mwgwd am fy ngwyneb gan syllu o nghwmpas i weld y masgiau'n cael eu gwisgo, eu llygaid mawr estron yn gyfarwydd i ni erbyn hyn. Gwelaf y niwl gwenwynig yn llyncu pob milwr yn ei lwybr, yn lledaenu pob eiliad, ac osgo cyfarwydd Gruff yn arwain y ffordd tuag at faes y gad. Codwyd o’r ffosydd a rhedeg at y gelynion, er nad wyf yn gwbod pam rwyf yn rhedeg ond mae'r angerdd yn fy ngwthio i ddilyn y gweddill fel gwaed yn rhedeg. Gruff, wela i mohono im mwy, dim ond llun aneglur o ddynion yn paffio, rhai yn disgyn i'r llawr yn ddi fywyd tra mae eraill yn mynnu brwydro, mynnu paffio i oroesi. Dwi'n cario mlaen i redeg, rhedeg nerth fy nhraed.

Disgyn, i dwll bom. Gorweddaf yma, gan geisio dal fy ngwynt, ceisio rhoi'r byd yn ei le wrth i mi geisio dyfalu beth i'w wneud nesaf. Beth allai wneud? Bod yn gachgi ac aros fan hyn tan i'r brwydro gilio? Neu bod yn ddewr, yn union fel sa'r merched draw adre'n hoffi? Dwi'n syllu o nghwmpas, cyrff ymhob man, eu gwynebau yn llwyd a di-fywyd yn fy atgoffa o'r llechi draw adre. Eu hwynebau cas mewn heddwch o'r diwedd. Clywaf sgrech bomiau, bloedd y dynion trallodus, a galwadau'r anaf mewn poen. Meddyliaf am wyneb mam, finnau yn gaddo iddi y byswn yn edrych ar ôl Gruff, yn ei warchod ond yma ydwi'n pendroni os mai fi ydi'r dyn i'r job, hen gachgi oedd rhy ofn i ddod i ryfela yn y lle cyntaf.


Prynhawn


Edrychaf draw ar y llanast. Does dim golwg o fywyd ar ôl, dim ond anialwch byddarol o dawelwch. Dwi heb weld Gruff ers yr ymosodiad y bore yma. Dim ond hanner y criw sydd wedi dod yn ôl. O Gruff lle wyt ti ngwas i? Siwr o fod wedi sleifio i ffwrdd i gysgodi am rywfaint cyn dod nol neu wedi sleifio i'r dafarn am beint cyn dod nol. Ie dyne fo. Wedi gwneud hyne mae o mae'n siwr, dwi'n gwybod sut mae ei feddyliau anaeddfed weithiau. Teimlaf law cysurus yn cyffwrdd fy ysgwydd, a gwyneb cyfarwydd John tu ôl i mi.

"Well i ni fynd i jecio maes y gad", mae'n dweud mewn llais ysgafn, pwyllog.

Dwi'n cerdded yn drwm, y sgidiau yn suddo i'r mwd wrth i bob cam fynd yn anoddach ac yn anoddach. Dwi'n edrych o'ng nghwmpas. Bechgyn ifanc dewr ymadawedig, wedi mynnu dod i ryfela i allu ddychwelyd yn ol gartref i ddwylo croesawgar eu teulu.

Dwi'n nesau at gorff, un cyfarwydd sy'n gorwedd a'i law wedi gorwedd ar ei frest, ar ei galon. Sylwaf ar glwyf bwled ar ochr dde y frest, gwaed wedi hen staenio'r wisg filwrol. Sylwaf ar ei wyneb, hynod cyfarwydd ond ddim mwy. Mae'r holl liw iach, holl gasineb yn ei wyneb wedi’i ddraenio.

Yna mae'n fy nharro, yn galetach na bwled yn pwnio drwy fy nghalon.

Dechreuaf wylo dagrau, dagrau gwaed y meirw.


Comments

Popular posts from this blog

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]