Skip to main content

Ail ennyn gwên Olwen - Hedd

Un da am fynd i fyd ffantasi ydy Hedd...

Ail ennyn gwên Olwen

Pam fod toeau mor anioddefol o ddiflas, meddyliodd Olwen wrth iddi syllu'n flinedig tuag at y
nenfwd. Pam nad oedd ganddi hi yr un campwaith o bobl mewn llieiniau gwyn, o angylion hudol nac
o dduwiau barfog yn syllu lawr arni fel oedd ar nenfwd rhyw amgueddfa y gwelodd rhyw dro gyda'i
hen Ewythr Emrys, pan oedd hi'n iau. Ond wedyn, meddyliodd pwy oedd yn mynd i syllu ar y nenfwd
hwnnw i werthfawrogi'r ymdrech heb gael poen yn eu gyddfau. Yr unig amser y byddai'n edrych ar
nenfwd fel arfer oedd pan byddai'n gorwedd yn ei gwely eisiau mynd i gysgu neu yn syth ar ôl deffro
fel yr oedd yn gwneud nawr. Efallai dyna pam fod toeau mor blaen, er mwyn diflasu bobl gymaint eu
bod nhw eisiau mynd i gysgu. Bodlonodd ei meddwl ar y syniad yna. Cododd yn araf ar ei heistedd.
Sleifiai pelydrau'r haul drwy'r gofod rhwng cyrtens drudfawr ei llofft, gan oleuo pob cornel o'r
ystafell fawr. Wedi deffro'n naturiol oedd hi y bore 'ma. Roedd hyn yn arferiad newydd wythnos yma
gan fod yr ofalyddes Mrs Hafod ar ei gwyliau yn y gogledd. Fel arfer byddai'r fran o ddynes yn
crawcian yn aflafar ac yn dychryn Olwen fach o'i breuddwydion melys. Bore 'ma, teimlodd yn rhydd.
Dylai fod wedi gwneud yn fawr o'r llonyddwch i gysgu meddyliodd. Ond wedyn roedd Olwen yn un
oedd yn casau gwastraffu ei diwrnod yn y gwely a phenderfynodd frwydro yn erbyn y diogi ac
eistedd i fyny.
Roedd sŵn cnoc fach swil wrth y drws. Alys oedd yno. Un o'r morynion. "Miss Olwen" sibrydodd Alys
gyda nerfusrwydd yn ei llais. Roedd hi ofn deffro'r ferch er mai dyna oedd y dasg a ofynnwyd iddi
gyflawni. "Ydych chi ar ddeffro?" 
Cododd Olwen ar ei heistedd yn gyflym. Mae'n rhaid ei bod hi wedi mynd yn ôl i gysgu'n slei
meddyliodd. "A, Miss" meddai Alys mewn braw, disgleiriai ei bochau coch yng ngwên yr haul.
Symudodd yn araf o tu ôl y drws a cherddodd at y cyrtens moethus a'i llusgo ar agor. "Rydych chi
wedi methu brecwast y bore ma Miss" eglurodd Alys wrth y corff blinedig yn y gwely. "Ond
dywedodd Mr Derog fod hi'n iawn i ni eich gadael chi i gysgu, gan ei bod hi'n wyliau, ynte Miss"
gwenodd y forwyn.
Gwenodd Olwen am eiliad. Doedd hi dal heb ddod i'r arfer o gael ei galw'n 'chi', fel byddai pobl yn
galw ei thad. Roedd Alys oleia deg mlynedd yn hŷn nag Olwen gan ei bod yn cofio cael parti bach yn
ystod yr haf tua dwy flynedd yn ôl yn dathlu fod Alys yn ugain oed. Meddyliodd am y bwyd.
"Faint o'r gloch ydy hi, Alys?" holodd gan obeithio ei bod hi'n agos iawn i ginio.
"Bron yn ddeuddeg miss"
"O'r gorau" meddai Olwen gan neidio o'i gwely a cherdded tuag at ei chwpwrdd dillad mawreddog
oedd yn sefyll yn gadarn gyferbyn a'i gwely. "Beth ddylwn i wisgo heddiw Alys?" pendronodd y ferch
wrth edrychyh ar yr enfys o ddewis yn ei chwpwrdd.
Wedi dewis ei dillad, dilynodd Olwen, Alys lawr y grisiau mawr ac i'r cyntedd, lle arhosai'r bwtler Mr.
Elisud amdani.
"Bore da Miss Olwen" cyfarchodd yn ei lais cynnes mwyn. "Gysgochi'n dda?"
"Do diolch" atebodd Olwen gan edrych drwy'r drysau cilagored i chwilio am gysgod ei thad.
"Mae Miss Bedwyr wedi parotoi cinio mawr i ti bach, gan dy fod wedi colli brecwast hefyd ynte"
eglurodd y bwtler gyda gwên. Gwenodd Olwen am eiliad. Oedd, roedd bwyd y gogyddes yn hyfryd
ond roedd Olwen yn chwilio am ei thad.
"Ble mae fy nhad" gofynnodd Olwen gan barhau i gip edrych drwy'r drysau ar ben pellaf y coridor.
"Mae Mr Derog yn ei swyddfa, tybiwn i" meddai Mr Elisud, gan ragweld ymateb digalon y ferch.
"Ond cei fynd i'w weld ar ôl gorffen dy fwyd."
"Ydi dad wedi cael cinio?" holodd Olwen yn obeithiol. Nodiodd y bwtler. "Gwneud gwaith mae o?!"
Ond gwyddai'r ateb.

Am dri o'r gloch daeth Mr Derog lawr drwy ddrysau'r lolfa fawr, lle eisteddai ei ferch yn darllen un o'i
llyfrau. Neidiodd ei phen o fyd y llyfr i edrych ar ei thad. Roedd hi'n falch o'i weld ond roedd hi'n flin
gydag ef.
"Bore da, bach" meddai'n chwerthinllyd. Syllodd Olwen arno.
"Lle ydych chi wedi bod?" gofynnodd yn ddiemosiwn wrth y dyn tal oedd yn parhau i gerdded tuag
ati.
"Wel bach, gwaith ynte, sori mod i methu dod yn gynt roedd gen i lawer o alwadau ffôn i'w gwneud
a llawer o wahoddiadau i'w gyrru" eglurodd wrthi.
"Ond ddywedoch chi eich bod yn mynd i dreulio mwy o amser efo fi yn ystod yr haf yma yn hytrach
na gweithio, rwan fod Ewythr Emrys wedi'n gadael ni."
"Dim fy mai i ydio fod gen i lawer o waith i'w wneud nag e!" Diflannodd ei wên yntau. "Pam na
fuaset ti yn chwarae allan, neu gofyn wrth un o'r morwynion neu Mr Elisud hyd yn oed i chwarea
gwyddbwyll neu rhywbeth gyda ti?"
"Ond dad..." meddai'n flin, "dim cwmni nhw dw i eisiau, eich cwmni chi" 
Anwybyddodd ei ferch. "Dw i'n cynnal cyfarfod heno!" pwysleisiodd "Felly fydd pobl yn dod draw i
swper!"
Cododd o'r gadair gyfforddus gyda'i llyfr yn ei llaw a cherdded heibio ei thad i gyfeiriad y drws. Gan
ei bod hi'n ystafell hir, teimlai'n anniddig gan nad oedd yn gallu dianc mor gyflym ag yr hoffai. Roedd
wedi penderfynu dianc gan nad oedd ganddi'r awydd i ffraeo gyda'i thad. Oedd hi'n mynd i gael
unrhyw amser gyda ei thad?
Cerddodd Mr Derog allan o'r lolfa ac i gyfeiriad ei swyddfa, ar y ffordd daeth ar draws y bwlter.
"Sut aeth hi?" holodd yntau'n ofidus.
"Doedd hi ddim yn hapus iawn!" dywedodd y tad yn blaen. 
"Wel, mae'n rhaid i ni ail ennyn gwên Olwen" meddai'r bwtler yn siriol.

Roedd amser wedi hedfan heibio fel rhyw frân, meddyliodd Olwen wrth edrych ar wyneb y cloc mawr oedd yn sefyll wrth ochr yr hen gwpwrdd dillad crand. Gorweddian ar ei gwely yn darllen ei llyfr oedd Olwen pan ganodd y cloc 7 o'r gloch. Roedd yn lyfr eithaf trwchus, llyfr antur ydoedd am fôr leidr oedd hefyd yn glown, oedd yn teithio'r moroedd ac yn fuddigoliaethus drwy dwyllo pobl gyda'i driciau ef a'r criw o glowniau gwirion. Roedd Olwen wrth ei bodd gyda chlowniau ers yn ferch fach iawn pan roedd hi'n arfer mynd gyda'i hewythr Emrys i'r syrcas. Roedd hi'n cofio syllu i fyny ar y babell fawr lle roedd mwnciod o bobl yn hongian o bolion a phileri mawr ac yn troelli fel y peiriant candifflos oedd yng nghanol y môr o stondinau coch a melyn. Cofiai Olwen fod y babell fawr yn ddychrynllyd o enfawr ac roedd y tô yn mynd i fyny am byth, yn uwch na'r cymylau hyd yn oed, os cofiai'n iawn. Dyna oedd poen gwddf i edrych i fyny ar y fath fynydd. Dyddiau da meddyliodd. Darllenodd eiriau olaf y bennod olaf. Fel arfer,byddai'n gwenu ar ôl gorffen llyfr ond heddiw doedd dim gwên, dim ond elfen o siom. 
Yn sydyn clywodd Olwen gloch y drws ffrynt. Roedd ffenestr ei llofft yn edrych lawr ar yr ardd gefn felly ni allai sbecian i weld sut  gar neu gerbyd oedd gan yr ymwelwr, felly daeth yna reddf naturiol o sleifio allan o'i llofft i gael cip. Caeodd y drws yn ofalus iawn fel nad oedd unrhyw un yn ymwybodol ei bod allan o'i llofft. Cerddodd yn araf i gyfeiriad y landin. Roedd hi'n cerdded fel petai'n glown mewn cartŵn yn ceisio sleifio tu ôl i rhywun i rhoi pei yn ei gwyneb, fel oedd yn y sinema rhyw dro, ond ceisio osgoi sefyll ar y pren oedd yn gwichian oedd Olwen. Deifiodd yn araf ac yn ddistaw ar ei bol tu ôl i un o goesau canllaw pen y grisiau, yno cai olwg arbennig o'r cyntedd mawr. Canodd cloch y drws unwaith eto, roedd y caniad yma'n hirach y tro hwn ac felly dychmygodd Olwen fod yr unigolyn tu ôl i'r drws pren yn amyneddgar iawn. Dychmygodd ddyn blin iawn yr olwg gydag aeliau mawr trwchus. Mae'n siŵr fod ganddo fwstash hefyd meddyliodd Olwen. Clywodd sŵn traed y bwtler yn nesau. Canodd y gloch unwaith eto. Dechraeodd Olwen ofni'r ffigwr tu ôl i'r drws.
Agorodd Mr Elisud y drws yn ofalus a chroesawu'r ffigwr i mewn. "Mae'n ddrwg gen i" dywedodd Mr
Elisud, "roeddwn i a'r meistr yn brysur yn yr ystafell fyw" eglurodd. Yn sefyll yn dal yno wrth y drws
roedd dynes fain â sodlau uchel, coch. "Dylech chi ddim cadw dynes yn aros fel hyn ddyn" meddai
mewn llais uchel, blin. "Nawr, ble mae'r ystafell fwyta yma" meddai mewn llais gwatwarus. 
Edrychodd Olwen lawr ar y ddynes. Am ddynes gas meddyliodd. Sylwodd ar y ffrog ddu ddrud a
wisgai at ei phengliniau. Yn gorwedd ar ei hysgwyddau oedd rhywbeth yn debyg i frân wedi marw.
Ond roedd gwell safon yn hongian oddi ar ei chlustiau. Edrychant fel deiamwntiau llawn gwaed.
Roedd ei gwallt cyrliog du wedi'w gosod yn grand a het fach ddu grand yn cuddio haner y cyrls.
Roedd ganddi drwyn gwrach meddyliodd Olwen ond edrychai'n ddynes dlws iawn gyda cholur gwyn
wedi peintio dros ei hwyneb. Tybiai Olwen hefyd y byddai'n chwythu tân petai'n anadlu, gan fod yna
fflam goch i'w gweld yn ei llygaid. Dilynodd y ddynes Mr Elisud o olwg Olwen. 
Canodd y gloch unwaith eto. Edrychodd Olwen yn ôl ar y drws. Roedd Mr Elisud i'w weld eto yn
cerdded yn ei siwt ddu crand. Agorodd y drws yn ofalus eto gan gymryd cip olwg ar y gwestai. 
"A, Mr a Mrs Derog-Goch" ochneidiodd yn falch. Cerddodd cawr o ddynes fawr i mewn gyda corach o ddyn yn camu yn ei chysgod. 
Iesgob, meddyliodd Olwen wrth sylwi ar yr ogofau o dan ei thrwyn.
"Mr Bwtler" meddai mewn llais dyfn, "mae'n ... braf eich gweld ar ôl yr holl flynyddoedd" edrychodd
ar y crychau ar dalcen y dyn oedd o'i blaen. 
Edrychodd Olwen arni'n rhyfedd. Chwarddodd wrthi ei hun. Edrychai'r ddynes fel pe bai wedi stwffio
ambell glustog o dan ei ffrog laes goch. 
"Ble mae'r bwyd ?" holodd y dyn bach â'i ên a'i dalcen fel petaint yn gwasgu ei wyneb at ei gilydd.
Doedd yr un o'r bobl hyn yn edrych yn neis iawn meddyliodd Olwen, roedd hi'n falch nad oedd hi
wedi cael gwahoddiad i'r fath ddigwyddiad o gyfarfod ellyllau. Roedd Olwen dal yn flin gyda'i thad
ond roedd yn dechrau poeni amdano, beth petai'r bobl hyn yn ei fwyta'n fyw?
Ychydig funudau yn ddiweddarach roedd rhywun arall wrth y drws. Ac eto gwyliodd Olwen Mr Elisud
yn cerdded drwy'r cyntedd. Y tro yma, hen ddyn tenau gyda mynydd o grwbgefn oedd yno'n sefyll a'i
frechiau llipa'n gwywo i'r llawr. Roedd ffon gerdded denau dan bwysau un braich gyda phen eryr,
neu frân wedi'w cerfio ar yr handlen. Roedd gan y corff glawdd o fwstash wedi'w blannu o dan ei
drwyn main ac o dan y clawdd, roedd rhesiad o esgyrn bach melyn yn hongian uwchben tafell denau
o dafod pinc. Doedd dim dannedd i'w gweld ar waelod ei geg. Dychmygodd Olwen fod heb
ddannedd gan orchuddio ei dannedd gyda'i gwefus cyn gwneud symudiadau gwirion.
"Helo ddyn" crynnodd llais y dyn ysmala.
Trodd Olwen i edrych arno'n synn. Am lais cyfarwydd meddyliodd. Diflannodd y cynefindra o'i lais
wrth iddo barhau i siarad. 
"Gobeithio nad ydw i'n rhy hwyr"' eglurodd yr hen ddyn.
"Dilynwch fi" gorchmynodd Mr Elisud gyda gwên.
Trodd y gwestai i edrych i fyny ar ben y grisiau, sylwodd ar wyneb bach crwm yn cuddio rhwng dau
bolyn.
"Helo ferch" sibrydodd y dyn. 
Dychrynodd Olwen. Cododd ar ei thraed yn gyflym a rhedeg i'w llofft. Caeodd y drws cyn pwyso yn
ei erbyn. Rhedodd ei chalon ar ras. 
Roedd rhywun arall wrth y drws, ond y tro yma, roedd Olwen yn rhy ofnus i fynd i ysbeio, felly
arhosodd yn llonydd yn ei llofft gan geisio lladd ei chwilfrydedd. 
Llusgodd amser heibio. Syllodd Olwen ar wyneb y cloc, ac fe syllodd yntau yn ôl gan ei gwatwar.
Un.........Dau........Tri. Roedd yr amser wedi dod ble roedd eiliadau wedi penderfynu aros am seibiant
meddyliodd Olwen.
Rhwygwyd ei meddyliau gyda chnoc fach fregus ar y drws.
"Ymm mmisss" sibrydodd llais swil Alys. 
Trodd Olwen i edrych yn ddi-emosiwn. Dychrynodd hyn Alys.
"Dim ond meddwl, os hoffech chi ddod i gael swper miss" eglurodd y forwyn. "Eich tad sy'n gofyn miss"
"Fy nhad!?" gofynodd Olwen mewn sioc "Ond os ydy'r gwesteion yna Alys, dw i ddim yn mynd" 
"Ond miss, ma'ch tad chi'n gofyn" eglurodd Alys mewn tôn oedd yn swnio fel petai'n erfyn ar Olwen
i fynd i lawr gyda hi.
Llusgodd Olwen ei hun gan ddilyn Alys lawr y grisiau. Breuddwydiodd Olwen am gael grisiau y byddai'n parhau am byth. Cerddodd y ddwy i mewn i'r ystafell fwyta.
Safodd Olwen yn stond. Roedd hi'n geg agored. Ei llygaid yn fawr a'i bochau'n goch.
Edrychodd criw o bobl diethr, ond eto mor gyfarwydd, yn ôl ar Olwen. Yn nghanol y dorf, sylwodd
Olwen ar ei thad yn gwenu. Ond edrych yn synn wnaeth Olwen. Camodd ei thad ymlaen ati. 
"Olwen" meddai'n groesawgar,  "dyma deulu dy Ewythr Emrys!." Defnyddiodd ei freichiau i
gyflwyno'r bobl. Sylwodd ar y ddynes fileinig, y ddynes dew a'i gŵr bach a'r hen ddyn. Yna, sylwodd
ar fachgen ifanc tua'r un oed â hi. 
Dim bobl bwysig na ellyllod ydy rhain, sylweddolodd Olwen, "Teulu Ewythr Emrys" meddai.
"Ie, Oli fach" gwenodd ei thad. "Mae nhw'n perthyn i ti hefyd!."
"Ond, doeddwni ddim yn gwybod fod gen i deulu eraill" eglurodd Olwen.
"Na fi tan yn ddiweddar a dyma'r holl waith rydw i wedi bod yn ei wneud, eu ffeindio nhw a'u
gwahodd nhw draw". Cadarnhaodd Mr Derog. "Gad i mi eu cyflwyno..."
Pwyntiodd at y ddynes fileinig, nad oedd yn edrych mor fileinig bellach. "Dyma fy nghefnither."
"Helo Olwen," meddai mewn llais clyd.
Yna, pwyntiodd at y cwpwl digri' oedd yn edrych yn fwy cyffredin bellach. "Dyma fy nghefnither Mrs Derog-Goch a'i gŵr. A dyma frawd Ewythr Emrys," meddai wrth bwyntio at yr hen ddyn. Yna,
cyfeiriodd at y bachgen ifanc, "Dyma dy gefnder mawr."
"Mae nhw am aros gyda ni am ychydig Olwen, mae gennym ni ddigon o le, yn does!" Gwenodd
Olwen. Roedd ganddi rywun i chwarae â nhw, meddyliodd. Ni fydd hi byth yn unig eto! A nawr, fe
fydd gan ei thad amser i'w roi iddi hi meddyliodd.
Trodd i edrych ar y bwtler oedd yn sefyll y tu ôl iddi.
"Ond roeddwn i'n meddwl eu bod nhw'n bobl blin ac afiach."
"Wel Olwen, ti'n gweld, pan wyt ti'n dueddol o feddwl yn negyddol mae popeth i'w weld yn
negyddol."
Dychmygodd yr holl deulu fel duwiau ac angylion ar y nenfwd. Boddwyd y teimlad o unigrwydd a
siomedigaeth a hwyliodd llong newydd at y lan. Llong o hapusrwydd.
"Ond ni wnaeth Ewythr Emrys erioed drafod ei deulu!"ebychodd Olwen.

"O cariad mae yna lawer mwy am Ewythr Emrys nad wyt ti'n ymwybodol o!" gwenodd ei thad.


Comments

Popular posts from this blog

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Ymson Gwil - Hana Mair Jones 11.11.20

 Ymson Gwil - Hana Mair Jones A hithau'n ddiwrnod i ni gofio - Hana sy'n ymateb i'r ddrama 'I'r gad fechgyn Gwalia'. Bore Dydd Mawrth, 22ain o Fedi, 1915 Mwd slwtsh sydd i'w weld yma, nid mynyddoedd moel ond anialwch o fudredd. Dwin gweld ambell fynydd ond nid y rhai fel sydd adra, pentyrrau o gyrff marw dwi'n ei weld. Mae'r hiraeth yn rhy hir, y boen yn rhy boenus a'r ofn yn rhy ofnus. Braf oedd deffro borau, y mynyddoedd yn gwisgo'u hetiau niwl a'r llyn fel gwydr, ond nawr dim ond darnau miniog garw y gwydr wedi'i falu'n fan sydd yma, breuddwydion y milwyr ifanc sydd bellach yn y nen. Wela i Twm a Hari ochr draw yn smocio'u cetyn, yn chwerthin yn llawen wrth iddynt sibrwd i'w gilydd. Bechgyn ffôl, yn meddwl mai amser anturus yw hyn, 'once in a life time opportunity' fel udodd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn iddynt wrth iddo lenwi meddyliau'r diniwed â gwenwyn y rhyfel. Syllaf ar Gruff sy'n eistedd

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]