Disgrifiad tymhorol - Cain Hughes
Câf fy nharo gan arogl aelwydaidd catrefol wrth gamu dros y ci defaid sy’n hawlio’i lle yn
nrws y tŷ, yn malio dim. Caeaf y drws yn gleb tu ôl i mi i nadu’r gwrês rhag dianc o gysur
pedair wal y tŷ. Gwn yn iawn beth sydd i swpar wrth i arogl lobsgows fy nghroesawu wrth i
mi gerddded trwy ddrws y gegin gan ffyrnigo’r bwystfil swnllyd sy’n godaran yn fy stumog. Â
hithau bellach yn ganol Rhagfyr, hongia addurniadau Nadoligaidd yma ac acw ar hyd y
waliau, a goleuadau bychain o gwmpas y ffenestri, eu melyn llachar yn cyferbynnu â düwch
bygythiol yr awyr. Mae oerfel y gaeaf ar ei orau ac yn byseddu gwadnau fy nhraed wrth i mi
gicio fy esgidiau o dan y fainc a chladdu fy nhraed yn fy slipas. Teimlaf blaenau fy mysedd
diffrwyth yn cynhesu wrth i mi’w hofran uwch ben yr Aga cyn llenwi’r tegell a’i roi ar ei phlât
. Sudda fy nhraed i ddyfnder y carped wrth i mi gamu mewn i’r parlwr a châf chwiff o wrês y
stôf goed ar fy nghroen wrth i’r carped fy arwain yn agosach at y tân. Yr unig olau sy’n
goleuo’r ystafell yw’r goleuadau o amgylch y lle tân a sydd yn gorffwys ar ganghenau’r
goeden ‘Dolig yng nghornel yr ystafell. Dawnsia fflamau’r tân yn fyw yng nghanol
llonyddwch yr ystafell a torra’r clecian cyson ar ddistawrwydd y tywyllwch trwm. Eisteddaf o
flaen y stôf am sbel i gynhesu ymhellach, y gwrês tanbaid yn cosi blaen fy nhrwyn. Wrth
ochr y tân safa tair canwyll, pob un wedi’u goleuo i wneud y lle edrych yn fwy cartefol,
chwedl Mam. Llenwa arogl cryf y ffrwythau sych ar y bwrdd yn gymysg ag arogl melys y
canhwyllau fy ffroenau wrth i mi astudio addurniadau sy’n gorchuddio’r goeden ‘Dolig. Wrth i
sŵn y tegell yn berwi ganu yn yn fy nghlustiau, âf yn ôl i’r gegin i wneud mygiad o de
gwyrdd a llenwi llond powlen o lobsgows i gynhesu fy nhu mewn.
Llusgaf fy nhraed yn ôl i gynhesrwydd y parlwr a gafael yn dynn mewn planced a swatio
rhwng breichiau’r gadair o flaen y tân. Wrth i’r nos nesáu a’r lleuad yn pician trwy’r ffenest,
dechreua’r glaw gilio a tharo’n ysgafn ar wydr y ffenest. Syllaf ar y fflamau melyn-oren yn
diflannu i ddüwch di-ddiwedd y simdda a llwyeidiaf y lobsgows i fy ngheg. Yng nghysur
pedair wal y parlwr, suddaf yn is i’r gadair a chollaf fy hun yn nistawrwydd cartrefol fy
nghartref.
Comments
Post a Comment