Skip to main content

Cofio - Ymson - Gwen Owen

Dyma ddarn effeithiol gan Gwen yn seiliedig ar yr ymarferion creadigol ar ol gwylio'r ddrama 'I'r Gad Fechgyn Gwalia'

              Un bluan wen. Dyna’r cwbwl, am wn i . Un bluan wen unig yn pigo cydwybod ac yn herio. Mae hi wedi bod yn gwmni i mi ers meitin rwan. Dim ond fi a’r bluan wen yn sbio’n hurt ar ein gilydd ….peth mor dlws, mor fregus , ond eto mor gryf.  LLe aeth Gwil ? Dwn i ddim…..rhy bell i mi fedru rhedag ar ei ôl o rwan . Mae o’n cymryd y goes bob tro ar ôl ffeit……. fyny i dop y chwaral mae o wedi ei heglu hi ma siwr , ei hoff le o i ddianc rhag mam pa oedd ni’n hogia bach. Fedra i ein gweld ni rwan, y ddau ohonan ni’n sbio lawr am y bonc. Eistedd yno efo Gwil , yn llyfu’n clwyfau ar ryw sgarmas yn y tŷ. Cofio sbio  lawr ar y cwm a cheisio deall mawredd y lle. Mawredd a oedd yn codi pwys arna i , ac ofn . Mawredd a oedd hefyd yn gwneud i mi garu yr hen le yn angerddol .
Ers talwm oedd hynny. Mae petha wedi newid  rwan. Wrth i mi dyfu fyny, mae’r hen gwm ‘ma wedi mynd  yn le dipyn llai.Dydi fa’ma ddim run peth ers tro , efo’r hogia’n mynd, un ar ôl ei gilydd, am y sowth i wneud eu ffortiwn…… a rwan yr hen ryfal felltith ‘ma  wedi dod i ddrysu petha yn waeth. Mam, yr hen glawd iddi yn meddwl y byd o Lloyd Geroge …. ond mae hwnnw wedi bwrw ryw hen gwmwl du dros y lle i gyd, rhyw hen niwl tamp o euogrwydd dros bob un ohona ni’r hogia. Pan oedd Gwil a fi yn sbio lawr ar y cwm ers talwm,  roedd na ryw deimlad o gasineb yn corddi yn fy nghalon daeg hynny , a dicter yn rhedeg yn fy ngwaed.Dim ond deg oeddwn i. Fedrwn i ddim deall y peth yn iawn fy hun. Dim ond ei fod o yno, fel dwy law gref yn fy nhagu fi’n ara deg….yr holl le yn codi pwys arna i, ac yn gwneud i mi iso rhedag a gweddi nerth esgyrn fy mhen. Rhedag i rhywle pell….rhywle gwell….rhywle lle buaswn i’n rhydd o’r ddwy law ‘na.Rhedag a rhedag dros fryniau hud i rywle diddorol a chyffroes….rhywle i fod yn rhydd. Mi fydda i’n teimlo weithia bod  y cwm ‘ma mor fach nes ei fod o yn fy mygu i, mygu fi’n gorn, a llwch y lechan las yn llenwi bob twll a chornel o fy ysgyfaint i, a fy nhynu fi lawr, ac i lawr, i waelod pwll oer y chwaral.
 Dyma pam, mae’n siwr , bod y syniad o gael  recriwtio wedi fy hudo, fel plentyn eto , fel bod yn ddeg oed . Dwi’n gwybod ers blynyddoedd bo fi iso ei heglu hi o’r hen le ‘ma. Ydw, gwybod bod yna ryw hen hen ddyhead wedi llechu ym mêr fy esgyrn i gael codi pac , a throi fy nghefn ar bob dim. Cael agor pennod newydd, a theimlo awel iach y posteri lliwgar yn rhoi chwa o wynt i mi fod yn rhydd. Gweld fy hun yn arwr , mewn iwnifform , fel hogia’r ffilmia nos Sadwrn yn dre, a chlywed fy hun yn canu caneuon y soldiwrs. Cofio canu “Rwyf innau’n filwr bychan….” yn ysgol Sul Caersalem, ond fydda i ddim yn soldiwr rwan….a  Gwil sydd wedi chwalu’r freuddwyd, fel gwiber ar lwybrau gobaith.
Mae’n dechra oeri yma rwan, a’r gwynt wedi codi. Mi a i ar ôl o.Fydd o ddim wedi mynd yn bell. Pluan wen Lisi Tŷ Mawr. Dwi wedi gadal i honno ddod rhyngddom ni. Dau frawd, un alwad, a phluan wen…. Dim ar Gwil mae y bai go iawn….nac ar Lisi chwaith , ond arna i.
Trio fy arbad mae Gwil. Gwneud ei ora glas i ngwarchod i rhag cam…. fel ers talwn. Dwi’n cofio rhwygo fy nhrowsus ar hen goeden  drain duon , a Gwil yn cymryd y bai, rhag ofn i mi gael ffrae gan mam.Mae o wedi bod yno i mi bob amser….yn trio fy arbad cam, yn trio fy ngwarchod ..
Pam nes i wylltio fel’na ? Un gwyllt ydw i wedi fod erioed.Dwi’n difaru rwan, ac yn euog fel ci lladd defaid. Dim cipio’r freuddwyd ma’ Gwil wedi ei wneud, ond sefyll fel bugail rhyngdda i , a fy ffawd. Enlistio. Mae o’n gam reit fawr. Be ddaw o’r creadur gwirion yn y ffosydd ? Duw a wyr.
Mae na ryw liw rhyfadd yma rwan. Lliw eira….. Ydi,  mae hi’n bwrw eira tu allan! Cawod o blu eira tawel tawel yn sleifio i bob cilfach o’r chwaral, fel llwch gwyn glan. Bob pluan wen yn soldiwr ….diniwed …..yn ceisio gwneud rhywbeth tlws dros eu cyd ddyn , dros eu gwlad, ond llanast slwj gwlyb fydd na bora fory.
Fydd hi ddim yn anodd cael hyd i ol traed sgidia hoelion mawr  Gwil yn yr eira… Mae rhaid mi gael siarad efo fo, a gwybod yn fy nghalon bo ni’n dau yn deall ein gilydd cyn bydd o yn ei sgidia soldiwr .

Un bluen wen….

Comments

Popular posts from this blog

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Ymson Gwil - Hana Mair Jones 11.11.20

 Ymson Gwil - Hana Mair Jones A hithau'n ddiwrnod i ni gofio - Hana sy'n ymateb i'r ddrama 'I'r gad fechgyn Gwalia'. Bore Dydd Mawrth, 22ain o Fedi, 1915 Mwd slwtsh sydd i'w weld yma, nid mynyddoedd moel ond anialwch o fudredd. Dwin gweld ambell fynydd ond nid y rhai fel sydd adra, pentyrrau o gyrff marw dwi'n ei weld. Mae'r hiraeth yn rhy hir, y boen yn rhy boenus a'r ofn yn rhy ofnus. Braf oedd deffro borau, y mynyddoedd yn gwisgo'u hetiau niwl a'r llyn fel gwydr, ond nawr dim ond darnau miniog garw y gwydr wedi'i falu'n fan sydd yma, breuddwydion y milwyr ifanc sydd bellach yn y nen. Wela i Twm a Hari ochr draw yn smocio'u cetyn, yn chwerthin yn llawen wrth iddynt sibrwd i'w gilydd. Bechgyn ffôl, yn meddwl mai amser anturus yw hyn, 'once in a life time opportunity' fel udodd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn iddynt wrth iddo lenwi meddyliau'r diniwed â gwenwyn y rhyfel. Syllaf ar Gruff sy'n eistedd

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]