Skip to main content

Traeth Nefyn - Cenin Hughes


Traeth Nefyn
Tu hwnt i dref fechan Nefyn, lawr allt serth a throellog mae mangre fy ngwreiddiau.
Traeth godidog a’i glogwyni amddiffynnol yn ymestyn ei gyfloediad mamol o Ben Peryn i’r doc.
Gronynnau euraidd, mân yn carpedu’r eigion rhynllyd sy’n cnoi’r tir bregus yn barhaus.
Yma treuliais fy ieuenctid, ar goll yn y rhedyn rheibus ac yn chwerthin yn braf ynghyd â dawns yr ewyn gwynion.
Yma daeth fy mam aeafau’n ôl i redeg ar hyd y cerrig llyfnion a gadael i’r awel blethu ei gwallt tonnog;
fel mae’n debyg wnaiff fy mhlant inna rhyw ddydd.
Mae’n anodd cyfrifo sawl prynhawn Sul a dreuliais yn hel crancod a chyfarfod creaduriaid anghyfarwydd.
Taid yn gadfridog yn gorymdeithio lawr traul ein cyndeidiau dyfal o frig y clogwyn i’r creigiau garw.
Chwe milwr byr wrth ei gynffon, bwcedi yn un llaw a rhwyd dros y naill ysgwydd.
Torchi llewys cyn manteisio ar y pocedi o fywyd lliwgar wedi eu cuddio yng nghilfannau y graig dilewyrch.
Hanesion difyr Taid yn cael eu cipio gan y gwynt a’u cario, rhwng y cychod pysgota aflonydd a’r bwiau aml-liw,
ac allan am y gorwel pell i ddiddori ambell i bysgotwr unig.
Dyddiau maith o chwarae ar y brêc â chyfeillion.
Llamu i’r dyfnderoedd hallt naill ar ôl y llall, yn teimlo fel adar rhydd am ychydig eiliadau gwerthfawr a deall sut beth ydi gwir hapusrwydd.
Stwffio ein boliau â brechdanau jam cartref ar y concrid garw a gorfod rhannu creision ready salted gyda’r gwylanod barus.
Treulio oriau yn pysgota ar y doc heb fawr o lwyddiant, ond cael ein socian gan y tonnau ffyrnig sy’n ffraeo gyda sgerbwd pengaled y porthladd a fu yno unwaith, amser maith yn ôl.

Crwydro ar ben Pen Peryn yn unig, seibiant gwerthfawr rhag y byd modern byrlymus.
Dychwelyd tro ar ôl tro i synfyfyrio, tra bod y machlud haul yn cosi amrannau ac yn cusanu fy moch yn ysgafn.
Edrych allan ar wyrddni Nant Gwrtheyrn, y prydferthwch yn amlinell amherffaith Carreg Lefain
a chytuno mai yma yw’r union “[l]e i enaid gael llonydd”

.

Comments

Popular posts from this blog

Newid - Myfi Fennwick

Newid Wedi'i hysbrydoli gan thema'r Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol  Myfi aeth ati i sgwennu cerdd. Yn berfedd i’r pridd, pwyra pob cawr wddf i’r wybren fru, Er hagr yw pob enaid, maes o law nid newid sydd, Yn sgil cwyn y gapan cornicyll, troedio mewn rhyddid wna enaid glan, Gan fwydo ar feini llwydion, a chodi gwreiddiau o grombil tan. Hollta’r tir yn hanner gan buro baw ym mwrlwm bryn, Gan wegian dan bwysau moesau sydd eisioes yn tynnu’n dynn, A chraith ar gramen gwan yw plyg pob pwyth y bladur lafn, Yn atgof o ennyn ein hanes, a hwnnw’n frwydr am feiddio barn. Ac felly, golcha yn dy ogoniant, dyro drawiad ar ddrygni’r drefn, Paid dioddef llafn y gyllell, yn faich ar wasg dy gefn, Oherwydd o lefain llafn y cliw cwyn mewn pob cri, Yn sgil newid tro at fynydd a gwna yn gnawd amdana ti.

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...

Y Tatŵ - Ceri Jones

Ffordd dda o ddod i adnabod y myfyrwyr ydy'r dasg t atŵ. Ai ffuglen ynteu ffaith ydy'r stori hon gan Ceri? Y Tatŵ ‘Ma mam yn mynd i’n lladd i pan gyrrhaedda i adra! Gobeithio fod gan nain le yn yr ystafell sbâr i mi at heno. Er, unwaith fydd o ar ym mraich i, does na’m byd fedr yr un o’r ddwy ei wneud. Dim ond gwylltio’n gandryll a gweiddi nerth eu pennau, ond newidyth hynny ddim byd. Mi fydd o yno a dyna fo. Dwi’n gwbod yn union be ddudith dad ‘i be ti isio shed ar dy fraich’ a dyna fydd pawb arall yn feddwl hefyd ‘ma siwr, ond ‘dio’m bwys, be ‘ma’n olygu i mi sy’n bwysig. Ddim fod mam am i gweld hi felly. Rhaid i mi stopio meddwl am hyn neu mi fyddai ‘di newid yn meddwl a gwneud y peth call a chyfrifol a mynd ‘adra, a dwi’m isio hynny! Ma’r ‘boi bach ifanc ma’n edrych fel fod o’n mynd i basio allan unrhyw funud, a mond cael dylunio’i datŵ mae o! Er, unwaith fydda i’n ‘isda yn y gadair fawr ledr ‘na, ‘dwn i’m sut fydda i’n teimlo chwaith. Pam fod angan cadair mor fra...