Skip to main content

Croeso!



CROESO! 
O'r diwedd, dyma gyfle a llwyfan i griw yr adran Gymraeg, Coleg Meirion Dwyfor gael arddangos eu gwaith.  
Ymarferion sydd yn rhoi gwên ar wyneb athrawes, darnau sy'n cyffwrdd ac yn rhoi cyfle i mi ddod i adnabod pob myfyriwr fel unigolyn a fydd yn ymddangos, boed hynny yn ddarnau creadigol neu ffeithiol.

Mae gen i swydd arbennig iawn a dw i'n hynod falch a diolchgar ohoni, ond, mae'n hen bryd i mi rannu y darnau yma gyda phawb arall sydd â diddordeb yn hytrach na'u cadw i mi fy hun.

Gobeithio y cewch chithau flas ar y gwaith

Cofiwch, mae croeso i chi gysylltu ar bm.hughes@gllm.ac.uk

Comments

Popular posts from this blog

Newid - Myfi Fennwick

Newid Wedi'i hysbrydoli gan thema'r Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol  Myfi aeth ati i sgwennu cerdd. Yn berfedd i’r pridd, pwyra pob cawr wddf i’r wybren fru, Er hagr yw pob enaid, maes o law nid newid sydd, Yn sgil cwyn y gapan cornicyll, troedio mewn rhyddid wna enaid glan, Gan fwydo ar feini llwydion, a chodi gwreiddiau o grombil tan. Hollta’r tir yn hanner gan buro baw ym mwrlwm bryn, Gan wegian dan bwysau moesau sydd eisioes yn tynnu’n dynn, A chraith ar gramen gwan yw plyg pob pwyth y bladur lafn, Yn atgof o ennyn ein hanes, a hwnnw’n frwydr am feiddio barn. Ac felly, golcha yn dy ogoniant, dyro drawiad ar ddrygni’r drefn, Paid dioddef llafn y gyllell, yn faich ar wasg dy gefn, Oherwydd o lefain llafn y cliw cwyn mewn pob cri, Yn sgil newid tro at fynydd a gwna yn gnawd amdana ti.

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...

Y Daith - Tom Davies

Tom yw awdur y dydd heddiw... Y Daith          Roedd hi’n noson galed yn y gwersyll gan fod twrw gwrthdaro diddiwedd i’w glywed yn glir. Sŵn dynion dewr yn bloeddio mewn poen, a merched a’u plant yn sgrechian dros eu colled ag i dynnu sylw unrhyw un oedd ar gael i’w helpu. Tra’r roedd y ffrwydradau yn dallu’r bobl o ddistawrwydd, roedd y plant yng ngwersyll y ffoaduriaid i gyd yn gorwedd wrth ymyl ei gilydd ar ddarn o flanced lydan i’w cadw oddi ar y llawr, ac un blanced amdanynt i’w rhannu, rhwng pedwar. Roeddent i gyd yn crynu gan ei bod hi’r noson oeraf o Ragfyr a doedd ganddynt brin unrhyw beth i’w cadw yn gynnes. Roedd y mamau yno yn trio eu cysuro a thynnu eu sylw o'r hyn a oedd yn mynd ymlaen yn Aleppo.          Doedd y daith o’r ddinas ddim wedi bod yn rhwydd i’r rhain o gwbl. Fe'u gorfodwyd i adael eu bywoliaeth a'u cartrefi gan fod eu bywydau mewn perygl, gan golli nifer o ddynion ar y f...