Adolygiad 'Dwyn i gof' - Meic Povey
gan Llio Davies a Luned Hughes
Diolch Llio a Luned am fynd ati i ysgrifennu adolygiad o'r ddrama a welwyd yn Neuadd Dwyfor yr wythnos diwethaf.
Peth digon hawdd yw osgoi trafod iechyd meddwl, a hynny, yn syml, am ein bod yn byw mewn gobaith na fyddem fyth yn y sefyllfa i orfod poeni amdano. Ac felly, pan gawsom ni fel dosbarth Cymraeg y cynnig i fynd i weld drama sy’n ymwneud â dementia, roeddem yn teimlo braidd yn chwithig ac yn gyndyn o fynd i’w gweld “achos bo stwff fel’na rhy depressing”. Ac ydi, mae’n medru bod yn “depressing” ar brydiau, ond yn sicr mae’n rhywbeth y dylem ni fod llawer mwy ymwybodol ohono, a bu’r ddrama hon yn agoriad llygad i nifer ohonom, nid yn unig ar effaith y cyflwr ar yr unigolyn, ond ar yr holl uned deuluol.
Drama yw sy’n dilyn hanes cwpl priod, Huw a Bet, wrth i Huw ddechrau colli ei gof, a hyn yng nghanol trefniadau priodas eu mab, Gareth, a’i ddyweddi, Cerys. Trwy gydol y ddrama, datgelir cyfrinachau, hen a newydd, a gwelwn y straen y mae’r cyflwr yn ei achosi ar y teulu.
Drama ddewr, sy’n ymwneud â phwnc dwys, pwnc yr ydym yn ei ofni, a dyna’n union pam yr oedd mor bwysig i’r awdur, y diweddar Meic Povey, fod y ddrama’n cael ei hysgrifennu. Dywedodd mai “colli dy gof ydi’r cyflwr sy’n codi mwya’ o ofn arna’i”, a gwaetha’r modd, nid yw hwn yn bwnc y gallwn ei osgoi. Ond, nid drama ddiflas a digalon mohoni. I’r gwrthwyneb mewn gwirionedd, drama oedd hi’n llawn straeon pryfoclyd, hiwmor amhriodol a llawer (iawn!) o regi. Fel y dywedais i (Llio) ar y noson, roeddwn yn falch nad oeddwn yn eistedd gyda fy mam yn ystod rhai golygfeydd!
Yn wir, mae’r ansoddair ‘dewr’ yn gallu cael ei gymhwyso i nifer o agweddau’r ddrama gyfoes yma. O ran yr actorion, rhaid eu moli am fod yn ddigon difrifol ond eto, yn ddigon synhwyrol o ran yr hiwmor angenrheidiol sydd ei angen er mwyn creu drama lwyfan lwyddiannus. Roedd pob cymeriad wedi cael ei gastio yn berffaith, yn plethu parch gyda chydymdeimlad am y sefyllfa real. Drwy gydol y ddrama roedd cymeriad Llion Williams (Huw) yn gynrychiolydd gwych o glaf o’r math yma. Roedd ei iaith lafar, yn ogystal â’i iaith gorfforol ar brydiau, yn cyfleu’r gwendidau o fewn yr ymennydd briwedig - yn gadael i’w ymennydd ei fradychu, nid yn unig o safbwynt yr anghofio cyson, ond hefyd o safbwynt y cyfrinachau tyngedfennol, yn effeithio’r uned deuluol yn ei chyfanrwydd. Drwy feistroli’r grefft o ddramateiddio emosiwn, roedd y cyferbyniad rhwng yr Huw ‘call’ a’r Huw ‘dementia’ yn un ddwys, yn ysgogi nerfusrwydd a phryder drwy’r boen weledol ar ei wyneb, ond hefyd yn ysgogi gwên ar wynebau pan yn ymddangos yn ddiniwed neu’n ddoniol. Roedd perthynas weledol dda rhyngddo ef a’i fab, yn enwedig ar brydiau ple’r awgrymir fod y tad wedi bod yn anffyddlon - y bachgen yn dangos ei deyrngarwch tuag ato’n glir.
Roedd y berthynas wrywaidd a nodwyd uchod yn cael ei chyferbynnu gyda’r berthynas fenywaidd rhwng y ddarpar fam yng nghyfraith gyda dyweddi ei mab. Yn y sefyllfa yma, mae Povey wedi creu tensiwn yn ogystal ag agosatrwydd, yn troedio’r ffin rhwng casineb a chydymdeimlad wrth ddisgrifio anffyddlondeb y dynion i’w cymar bywyd. Mae ymateb y ddwy yn debyg, yn dial yn debyg ac yn dallu eu hunain i unrhyw fai a fuasai arnynt am gywilyddu eu cariadon. Mae’r thema o rywedd yn parhau’n ffactor enfawr a dylanwadol yn y ddrama, wrth i’r profiadau â geir gan y merched (h.y-y poen a’r briwiau emosiynol) gyferbynnu gydag esgusodion brau a goruchafiaeth y dynion o fewn y berthynas. Yn ychwanegol, credwn fod y berthynas gyfoes rhwng Gareth a Cerys yn cyferbynnu gyda’r un draddodiadol rhwng Huw a Bet - canys i Bet gamu’n ôl yn aml, ddim yn dangos dirmyg hyd at ddiwedd y ddrama tra bo Cerys yn ymateb yn chwyrn ers y dechrau. Mae hyn yn awgrymu statws y ferch mewn cymdeithas ar hyd y blynyddoedd, rhywbeth dewr arall ar ran Povey.
Dewis dewr oedd y set hefyd. Roedd yn ymddangos fel petai’r golygfeydd i gyd yn digwydd mewn un foment dyngedfennol, heb unrhyw liw na ‘prop’ ychwanegol ac eithrio’r bwrdd a chadeiriau. Roedd y naws minimalistig yma yn creu ymdeimlad cyfoes, dinesig a dwl, ond hefyd yn ymddwyn fel y delweddau tu mewn i ymennydd claf dementia, yn wacter llwyd a diflas gydag ambell sŵn neu liw yn ymddangos - megis ffrog felen neu ddawns osgeiddig. Roedd hyn yn un o’r cryfderau pennaf, wrth i’r cast ddod yn rhan o’r set mewn ffordd, yn ddelwau yn erbyn y cefndir - yn hawdd i’w hanghofio, megis atgofion claf dementia.
Wrth gysidro’r prin wendidau a gaiff eu hamlygu o fewn y cynhyrchiad yma, credwn fod y ddrama yn dilyn trywydd peryglus ar adegau, yn canolbwyntio ar yr elfen rywiol yn hytrach na’r elfen feddyliol o ran y clefyd. Efallai y gallai arwahanu’r gynulleidfa i beidio cynnwys criw ifanc o ddramodwyr a meddygon meddyliol, y sawl sydd mewn mwyaf o angen cael eu haddysgu am y cyflwr. Nid yw’n ddrama feddyliol na chorfforol, gan fod modd dadlau fod popeth yn cymryd lle ym meddwl y claf dementia, ond hefyd nad oedd dim yn digwydd yn ei feddwl ef. Yr unig ddiffygyn clir felly oedd yr anghydraddoldeb rhwng y drafodaeth feddygol a seicolegol a’r is-thema/drafodaeth rywiol, chwantus.
Yn gasgliad, down i’r farn fod drama olaf Povey yn goron euraidd ar ei yrfa fel dramodydd, yn cario’r gwaddol sydd ganddo ymhellach i’r dyfodol. Mae’r ddrama yma yn cyffwrdd y mannau tywyll o gymdeithas ble nad yw’n ddiogel i bob awdur fentro - ond mae Meic Povey yn ddramodydd medrus sydd wedi mentro’n lwyddiannus i’r dyfnderoedd yma, yn gwbl ddi-flewyn ar dafod ynglŷn ag arddangos y gwendidau o fewn ein cymunedau. Gyda phryderon iechyd meddwl ar gynnydd yn y Gymru gyfoes, mae’r ddrama hon yn un nodedig canys iddi bortreadu’r rhwyg a all oresgyn teuluoedd heb y gofal pwrpasol a’u hamynedd. Yn wir, mae’r gwaith yn llofruddio’r stigma o ran dramau ‘gwallgo’ ac yn mowldio corff newydd iddynt - un heb y baich cymdeithasol o fod yn “mental”. Felly yn hytrach na bod yn besimistaidd a rhagfeirniadol, credwn fod drama Meic Povey yn werth i’w gweld, ac yn chwalu’r syniad “depressing” gydag un “dewr.”
Llun: Theatr Bara Caws
Comments
Post a Comment