Skip to main content

Rhyfel - Cofio - Ymson Gwilym - Tom Davies

Tasg a wnaethpwyd yn ddiweddar oedd gwaith yn seiliedig ar ddrama Theatr Bara Caws 'I'r Gad Fechgyn Gwalia'. A hithau'n wythnos cofio'r Rhyfel Mawr  dyma ymson y cymeriad Gwilym (y brawd mawr) gan Tom.

O fy nuw.. Wnes i wneud y penderfyniad doeth ‘ta be? Fi.. Mewn rhyfel..
‘Swni byth wedi meddwl y bysa’r dwrnod yma wedi dod.
Pam oedd o eisiau mynd i ryfel gymaint dwad? Achos dw i ofn am fy mywyd yn fama, pan dw i’n hollol saff a heb fynd eto!
Eisiau profi’r ferch ‘na yn anghywir oddo ella? Hi a’r hen bluan wen, rhag ei chywilydd hi!
Ma’ ‘na hen ddigon ddynion yn rhoi eu bywydau i’w chadw yn saff a ma’ hi eisiau mwy i fynd!
Pwy ma’ hi’n ddisgwl y bydd yn cadw pethau mewn trefn yn ein gwlad ein hunain? Yr anifeiliaid?
Ma’ Gruff rhy ifanc i sylwi ei bod hi yn chwarae efo’i feddwl. Tydi hi ddim efo unrhyw fath o ddiddordeb yn Gruff, does yna ddim amheuaeth am y peth!
Tydw i heb chwalu ei obeithion wan naddo? Mae’n rhaid mai chwarae efo ei feddyliau yr oedd hi…
Yr unig beth allai wneud wan ydi gobethio am y gorau a chroesi fy mysidd y gwnaiff o fadda’ i mi..
Dw i angen yr Arglwydd ar fy ochr drwy hyn i gyd, ond dydi ei arwyddion ddim yn hollol amlwg.
Mae’r capel yn oer, sydd ddim yn arwydd da ond mae’r haul yn taro drwy’r ffenestri sydd yn goleuo’r ystafell…
Na fi sydd yn mynd o’ng ngho yn fama. Does dim y gall fy Nuw wneud i fy achub wan.
Mae wedi achub fy mrawd a fy mam felly mae’n rhaid i mi gymryd beth bynnag sydd yn dod i fy nghwfwr…
Mi fydd y gwahaniaeth rhwng y rhyfel ac yma yn aruthrol swni’n deu, ar y funud does yna ddim swn yma.
Dim ond pan rydwyf yn symud blewyn mae’r fainc yn gwichian neu ambell glec o lechan.
Pan fyddaf dros y mor mi fydd y swn saethu a dynion dewr mewn poen yn ddi-ddiwedd.
Rwyf yn gobeithio na wnaiff y diwrnod ble mae harddwch ein gwlad ni yn cael ei ddallu gan y ffosydd a’r swn dychrynllyd byth gyrraedd!
Alla i ddim meddwl am ddim byd gwaeth.

I fod yn onast ‘sgen i ddim clem sut dwi am ddelio a’r holl bethau dw i am weld!
Mi o’n i’n teimlo yn wan i gyd wythnos diwethaf pan wnaeth ‘na lechan ddisgyn ar law un o’r gweithwyr a gwneud uffarn o olwg arno!
Be ydw i wedi neud.. Pen ysgafn fyddai! Dim byd ond pen ysgafn fyddai drwy gydol yr amser y byddaf yn fyw yno.
Oooo na paid. Efallai mai hyn yw’r wythnos olaf sydd gennyf efo fy mrawd, fy mam, fy ffrindiau, a fy nghynefin..
Hynny sydd yn fy nychryn fwyaf, y posibilrwydd o beidio dod adra byth eto!
Tydw i heb rhoi digon o feddwl i hyn swni’m yn deu.. Dw i ‘myn meddwl fod Gruff wedi meddwl llawer chwaith achos os fuasai wedi mi fysa fo fel fi wan, crynu yn fy esgidiau..
Yn llythrennol! Ma’r creadur wedi ei ddallu gan brydferthwch y ferch.
Dydw i ddim yn ddyn brwnt nac yn un am ffruo felly mae’r rhyfel yn olygfa hollol ddiethr i mi..
A mi allai ddweud fod y iaith Gymraeg am chael ei chyfangu yn llai ac yn lai fesul yr eiliad yno tra mae mwy a mwy o gymry yn cael eu lladd yn y frwydr.
Roeddwn yn gallu deu pan roedden yn dod i recriwtio mwy eu bod yn palu clwydda’ ac yn gyrru ffug obeithion i’n meddyliau!
Maent yn gwneud i’r lle swnio’n bleserus pan allai ddweud ei fod yn bell o fod yn hynny.
Mae’r ffigyrau o faint a fu farw ar y diwrnod cyntaf o ymladd yn ffiadd!
A mae’r tebygolrwydd o fi yn ychwanegu i’r ffigyrau yma bron iawn yn bendant.. Tydw i ddim yn barod i farw, ifanc ydwi! Dw i’n gweithio’n galed, gwneud fy mhres i allu byw ac i beth?
Mi fyddaf wedi cael fy anghofio blwyddyn i wan!
Mi odd Dad wastad yn deu’ pa mor bwysig yr oedd i wneud y mwyaf o'n bywydau oherwydd rhyw ddiwrnod gallai popeth fod drosodd..
A’r diwrnod yna ydi heddiw i fi. Be sydd genai i gadw gafael arno?
Dim gwraig, dim plentyn, dim ond brawd na wnaiff fadda' i mi a mam na wnaiff ddeall byth pam y gwnes i’r penderfyniad yma!
Efallai ei fod yn well gadael popeth a mynd at Dduw..? Pwy a wyr, yr unig beth allai wneud ydi gadael i’r Arglwydd ddewis fy llwybr a dilyn hwnnw wedyn.
Ond wan, a’i weithio i drio cael fy meddwl oddi ar y peth..

Comments

Popular posts from this blog

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]