Meddwl      Tasg 'Sgwennu'r wythnos diwethaf oedd darn o dan y testun 'Meddwl'     Cain aeth ati i ysgrifennu darn.     Tŷ Rhif 10   Saetha belydrau o oleuni drwy’r ffenest yn y drws wrth i mi estyn am ei law a’i agor led y pen. Mae hi’n fore braf, ond oer. Yr eira ‘di hen ddiflannu a dyn eira Ela drws nesa’ bellach ond sgarff, moronen a chap.   Ma’ raid ‘u bod nhw wedi ei gadw’n gynhesach nag ydw i ar y funud.   Ma’n mysedd main i bron yn ddideimlad wrth i mi eu stwffio i ddyfnder pocedi fy nghot felen a’u gwasgu’n dynn.   ‘Sgenna’i ddim amser i chwilio am dy fenig di oedd ei geiriau hi. Felly fela y bu.   Rwbiaf fy nwylo â’i gilydd yn sydyn i drio cynhesu ‘chydig arnynt, a phlygaf fy ngwddf i chwythu aer poeth iddynt, ond o gornel fy llygaid gwelaf y grafanc esgyrnog yn estyn am fy llaw chwith a’i bachu’n dynn.   Edrychaf i fyny’n sydyn ac mae fy llygaid yn cwrdd â’i phâr oeraidd hi.   Edrychaf i fyw’r pyllau llwyd, ond nid llwyd llygaid Ela drws nesa’, ond llwyd...