Skip to main content

Newid - Pawb



Ar ddiwrnod Cenedlaethol dathlu barddoniaeth, aeth rhai o'r myfyrwyr ati i ysgrifennu cerdd ar y thema: 

Newid
(Cerdd ar y cyd)


Beth ydy newid?
Rhywbeth…
Gwahanol
Yn ffisegol
Yn emosiynol
Yn ddigwyddiad
Wedi’i addasu
Ddim yr un fath ac oedd o
Yn troi
O fod yn gyfforddus
I fod yn newydd
Yn anghyffredin
Yn anghyfforddus.


Ceir newid naturiol yn yr
Amgylchedd
siapiau clogwyni,
y tymhorau, tywydd
Taldra, pwysau
Pobol


Mi fydda’n braf newid
Arweinyddiaeth y wlad
Nifer o siaradwyr Cymraeg
er mwyn cyfoethogi Cymru
Yr arfer o  golli y profiad
o fyw tra'n sbio ar sgrin fach mewn dwylo.
Rhagfarn - pobl yn cymryd yn ganiataol eu bod nhw’n gywir
Henaint. Pwy su isio bod yn hen?


Mae dyn yn newid

Cynhesu Byd Eang
Swydd,
Cartref,
Strwythur a maint dinasoedd
technoleg
Popeth


Mae dyn yn newid

Beth bynnag mae dyn eisiau ei newid

Comments

Popular posts from this blog

Newid - Myfi Fennwick

Newid Wedi'i hysbrydoli gan thema'r Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol  Myfi aeth ati i sgwennu cerdd. Yn berfedd i’r pridd, pwyra pob cawr wddf i’r wybren fru, Er hagr yw pob enaid, maes o law nid newid sydd, Yn sgil cwyn y gapan cornicyll, troedio mewn rhyddid wna enaid glan, Gan fwydo ar feini llwydion, a chodi gwreiddiau o grombil tan. Hollta’r tir yn hanner gan buro baw ym mwrlwm bryn, Gan wegian dan bwysau moesau sydd eisioes yn tynnu’n dynn, A chraith ar gramen gwan yw plyg pob pwyth y bladur lafn, Yn atgof o ennyn ein hanes, a hwnnw’n frwydr am feiddio barn. Ac felly, golcha yn dy ogoniant, dyro drawiad ar ddrygni’r drefn, Paid dioddef llafn y gyllell, yn faich ar wasg dy gefn, Oherwydd o lefain llafn y cliw cwyn mewn pob cri, Yn sgil newid tro at fynydd a gwna yn gnawd amdana ti.

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...

Drych - Bethan Mair

Hen stori ydy hon, wedi'i hysbrydoli gan fy mam Drych Torrodd yn deilchion!  Gallai ddweud ar sŵn yr eco drwy’r tŷ ei fod yn fil o ddarnau mân.  Edrychodd hithau ar yr olygfa gyfarwydd o’i blaen a gwenu.   Gwên hapus a ledai drwy’r wyneb tlws.  Un y gellid gweld ei adlewyrchiad yn y llygaid crisial glas, ac yn y ddau bant yn ei boch.   Gwên wedi’i fframio â minlliw pinc.  Troellodd gyrlen o amgylch ei bys ac edrych ar y gwallt tonnog brown yn llifo ar y ‘sgwyddau main, a’r les   yn orchudd gwarchodol ysgafn dros y cyfan. ‘Glywis di? Yr ail blât bora ma’! Dwn im be su haru’r dyn...’ Ynghanol ei phregethu, rhoddwyd taw arni gan yr hyn a welai o’i blaen.  Gwyrodd ei phen a brathu’i gwefus yn ofer, roedd y dagrau wedi hen ddisgyn lawr ei grudd. ‘Ti’n bictiwr cofia... ‘di bod erioed dwi’m yn deud ond...’ *             *             * ...