Skip to main content

Meddwl - Cain Hughes



Meddwl 

Tasg 'Sgwennu'r wythnos diwethaf oedd darn o dan y testun 'Meddwl'

Cain aeth ati i ysgrifennu darn.

Tŷ Rhif 10
Saetha belydrau o oleuni drwy’r ffenest yn y drws wrth i mi estyn am ei law a’i agor led y pen. Mae hi’n fore braf, ond oer. Yr eira ‘di hen ddiflannu a dyn eira Ela drws nesa’ bellach ond sgarff, moronen a chap.
Ma’ raid ‘u bod nhw wedi ei gadw’n gynhesach nag ydw i ar y funud.
Ma’n mysedd main i bron yn ddideimlad wrth i mi eu stwffio i ddyfnder pocedi fy nghot felen a’u gwasgu’n dynn.
‘Sgenna’i ddim amser i chwilio am dy fenig di oedd ei geiriau hi. Felly fela y bu.
Rwbiaf fy nwylo â’i gilydd yn sydyn i drio cynhesu ‘chydig arnynt, a phlygaf fy ngwddf i chwythu aer poeth iddynt, ond o gornel fy llygaid gwelaf y grafanc esgyrnog yn estyn am fy llaw chwith a’i bachu’n dynn.
Edrychaf i fyny’n sydyn ac mae fy llygaid yn cwrdd â’i phâr oeraidd hi.
Edrychaf i fyw’r pyllau llwyd, ond nid llwyd llygaid Ela drws nesa’, ond llwyd hyll. Llwyd sy’n dal yr holl boen, yr holl gasineb a’r holl alar. Dywed ei llygaid bopeth.
Hongia’r bagiau tywyll yn isel oddi tanynt gan ychwanegu mwy o hylltra ar ei hwyneb llusg.
Mae edrych arni’n brifo. Fel pe edrychwn i lygaid diafol. Felly edrychaf i lawr ar fy nhraed, sy’n gwasgu tu mewn i’r ‘sgidiau sydd bellach rhy fach. Rhaid i mi gofio peidio sôn.
Symudaf fy nghoesau bach yn sydyn wrth geisio dal i fyny gyda’i chamau brysiog hi, a thrio anwybyddu’r boen yn fy llaw chwith.
Teimlaf fy nghalon yn suddo i waelod fy stumog wrth i mi basio’r goeden sy’n ymestyn ei breichiau i fyny i’r awyr. Arafa’i chamau hi wrth i’w gafael lacio am eiliad byr, cyn tynhau’n dynnach.
Atseinia sŵn ei chwerthin drwy fy nghlustiau, cyn cael ei foddi gan wichian sŵn gwichian annioddefol.
Ac yno distawrwydd.
Tynnaf ychydig ar fy llaw i geisio dianc o’i gafael brwnt.
“Dydw i ddim am ollwng dy law di, Lili.”
Teimlaf fy llygaid yn llenwi â dagrau wrth i’r boen gynyddu.
Tynhau mae’i gafael, a disgyn mae fy nagrau.
O na! ‘da ‘ni’n agosáu at iât yr ysgol. Well i mi gael gwared o’r dagrau ‘ma cyn i Mrs Parri’ gweld nhw, a holi.
“Dim lol.”
Rhuthra’r geiriau trwy’i dannedd. Ella ddylswn i barhau i grio, ella ga’i gysur gan Mrs Parri...
“Bore da, Lili fach...sut wyt ti bore ‘ma?”
“Dim y fi fydd yn ‘i nhôl hi heno…
Nage? Pa ddiwrnod ‘di?
…‘i thad hi fydd.”
Dydd Gwener. Ma’ hynny’n golygu bo’ gen i ddau ddiwrnod ‘fo Dad wan!
“Dim problem, Miss Huws, mi welwn ni chi dydd Llun felly.”
Taflaf wên fach i’w chyfeiriad hi, gan dderbyn rhythiad oeraidd yn ôl.
“Ta, Mam.”
“Paid ag anghofio be ‘udish i.”
Paid â phoeni, Mam, ni fydd heddiw yn wahanol i unrhyw ddiwrnod arall.
*****
“Dad!”
Symudaf fy nghoesau byr mor gyflym ag y gallaf i gyfeiriad ei freichiau agored.
“Haia, ‘mlodyn i. Ti’n iawn?”
Mae teimlad ei wefusau llyfn ar fy moch yn ddigon i godi holl bwysau’r byd oddi ar fy ysgwyddau.
Gorffwysaf fy mhen ar ei ysgwydd a chau fy llygaid am eiliad. Rhaid i mi wneud y mwyaf o’r amser byr. Teimlaf yn saff ym mreichiau Dad, wrth iddynt afael ynof mor dynn fel pe bai’n ofn fy mod am lithro i ffwrdd.
“Ty'd, awn ni’ nôl siocled poeth gin Anti Anna, ia?”
Mae’r wên yn dal ar ei wyneb, ond gwn ei fod yn sylweddoli ar y bagiau o dan fy llygaid, a’r boen yn ddwfn yng nghanhwyllau’r moroedd glas, o’r crych rhwng ei eiliau a’r olwg gydymdeimladol yn ei lygaid.
Gafaela yn fy llaw, mor dyner, mor wahanol i’r teimlad o’i gafael hi bore ‘ma.
Fyswn i’n neud 'wbath i gael gafael yn llaw Dad bob bore wrth fynd i’r ysgol, a bob pnawn wrth ddod adref.
Edrychaf i lawr ar fy nhraed wrth i mi neidio o un ddeilen i’r llall. Yn felyn ac yn goch o dan fy nhraed. Arafai fy nghamau wrth i gysgod tywyll fy ngorchuddio. Gwasgai Dad fy llaw yn ysgafn wrth i mi edrych i fyny ar y breichiau hir yn cawrio drosaf.
Diffoddai’r fflam yng nghanhwyllau ei lygaid am eiliad neu ddwy, gan lenwi â’r boen ddwys, cyn ail-oleuo wrth i mi roi gwên fach galonogol iddo.
Melyn. Coch. Melyn. Melyn.
*****
Llenwai fy ffroenau ag arogl melys crempogau a siocled poeth wrth i mi gamu i mewn i Gaffi Anna ar ôl Dad drwy’r drysau llydan, y gloch yn nodi ein bod wedi cyrraedd.
O ‘mlaen, safai Anti Anna yn rhwbio’i dwylo’n wyllt yn ei ffedog. Coda ddau blât oddi ar y bwrdd o’i blaen, cyn eu sodro'n ôl yn eu hunion le wedi’w llygaid lanio arna i. Ymlacia'i hysgwyddau a goleui ei hwyneb ac agora ei breichiau i’m croesawu.
“Helo, siwgr lwmp! Ty'd a mwytha' mawr i Anti Anna.”
Gwasgai ddwy fraich o gwmpas fy nghorff bregus, a’m gwasgu…
“Www dwi di dy fethu di cofia! Yli ‘di tyfu ‘ti!”
“Welsoch chi fi wsos dwytha’, Anti Anna!”
“Twt! R’aid i chdi ddod yma’n amlach, Lili fach!...W’ ti’n iawn, ‘mach i?”
“Rêl boi, Anti Anna!”
Cyn i mi droi rownd at ein bwrdd arferol, yn y gongl wrth ymyl y ffenest lle mae golygfa berffaith o brysurwch ddiwedd pnawn y pentref, ni fethaf yr olwg ansicr ar wyneb Anti Anna a’r olwg bryderus a saetha i gyfeiriad Dad, ac yntau’n ysgwyd ei ben.
“Reit ta, siocled poeth, crempoga’ ta milcsh-“
“Siocled poeth, os gwelwch chi’n dda, Anti Anna.”
“Do’dd ddim angen gofyn, nagoedd! Dau siocled poeth a lot o farshmalos ar y ffor’!”
Crwydra fy meddwl yn ôl i brynhawniau dydd Mawrth a Gwener ddwy flynedd yn ôl, yn yr union seddi wrth yr union ffenest. Yr unig wahaniaeth oedd dwy law fach arall yn gafael yn dynn rownd ei wydr milcshêc, yn sipian yn swnllyd ar y diferion olaf yn ei waelod.
“Ylwch hwn yn yfad bob diferyn ta! Fel ‘na hwnna ‘di’r un ola’ mae o am ga’l...”
Chwaraea geiriau Anti Anna drosodd a throsodd yn fy meddwl yn aml.
Pwy fysa ‘di meddwl beth oedd rownd y gornel bryd hynny…
“Sut ddiwrnod ges di’n rysgol ‘na heddiw ta?”
“Oddo’n iawn, ond nes i ddisgyn amsar cinio achos bo’na wenyn ar ‘y’n ôl i, sbïa!”
Codais waelod fy nhrwsus i ddangos y crafiad ar fy mhen-glin.
“Lili fach, be ‘nawn ni ‘fo chdi, dwa?”
“Fy’ lapio ‘i mewn gwlân cotwm!”
Chwardda Dad, gan ddangos ei wên dannheddog i’r byd. `
*****
Diflanna gynffon yr enfys tu ôl i dŷ rhif 10. Ei thŷ hi.
Cyferbynna hyn â chwedl Dad fod pot aur ar droed pob enfys. Pedair wal yn nadu’r byd rhag yr holl atgasedd, yr oglau alcohol a’r smôcs, a dagrau distaw hanner nos- swnllyd os wedi’w gymysgu â’r alcohol, sydd wrth droed yr enfys hon.
Ma’ gas gen i nosweithiau Sul. Teimlaf y cnoi yn fy stumog wrth i ‘nghamau agosáu at dŷ rhif 10. Nid yw teimlad gwresog llaw Dad yn fy un innau, a’i eiriau calonogol yn ddigon i ‘nghysuro.
Tybed beth fydd yn fy nisgwyl tu ôl i ddrws rhif 10 heno.
Arafa gamau Dad cyn stopio’n stond wrth fy ochr. Eistedda ar y fainc o flaen tŷ rhif 8 ac eisteddaf innau wrth ei ochr, dal a’m llaw yn ei law.
“Dwi am ofyn cwestiwn i chdi wan, a dwi ‘sio i chdi ‘i atab o’n onest, iawn?”
Nodiaf fy mhen heb godi i gwrdd â’i lygaid. Ma’ gen i’r teimlad nad wyf am hoffi’r cwestiwn.
“W’ ti ‘isio mynd nôl at mam?”
“Nagoes.”
“Pam? Pam dw’ ti ddim ‘sio mynd adra at mam?”
“’Chos...achos...,” dw’i ‘di bod yn aros i ddweud y geiria’ wrth Dad ers misoedd, ond rŵan eu bod nhw ar flaen fy nhafod, anodd iawn yw eu gadael allan. Mae fel pry yn sownd mewn stic. Ysu i gael bod yn rhydd, ond yn methu, ddim ots pa mor galed mae’n trio. Gwasga Dad fy llaw yn dynnach.
“Gei di ddau’ ‘tha fi sdi, pwt.”
“Achos bo’ Mam bob tro yn deu’ na' mai i 'dio bo’ chdi di’i gadael hi... a bo’ Ianto ‘di marw.”  
*****
Ma’r crio’n uwch heno. O lawer. Ond rhwng bob sgrech mae sŵn rhywbeth yn chwalu.
“Efo fi ma’i fod! Fi di’w mam ‘i!”
“Dw’ ti’m ffit i fod yn agos iddi!”
“O ia dyma ni eto! Dw’ ti’m ffit i neud hyn, dw’ ti’m ffit i ‘neud llall! Ti angan help, dos i weld rhywun! Dydw i ddim angan blydi help! Dwi angan ‘y mab i’n ôl!”
Ma’ sgwrs gafodd Mam a Dad gyna’n chwara’ rownd a rownd fel record yn ‘y mhen i. Mam yn sgrechian crio a Dad yn trio rhesymu efo’i.
Dwnim sut ‘na’i fwyta ‘mrecwast bora fory achos mae’n debyg bo pob powlen a phlât yn racs. Mae cwsg yn bellach na fu fel arfer heno. Mae popeth yn rhedeg ar fy meddwl nes nid oes posib rhoi switsh off. Ond mae’r troi yn fy stumog yn waeth fyth. Y teimlad annifyr yn cnoi fy nhu mewn ac yn gwrthod gadael llonydd i mi- er gwaethaf fy ymdrechion i’w waredu.
Diflannodd lleisiau Mam a Dad ar ôl hynny, a ni chlywais unrywbeth wedyn. Dim ond sŵn y drws ffrynt yn agor a chau.
*****
“Dwi mor sori, Lili fach.”
Teimlaf blaenau ei bysedd yn amlinellu fy wyneb yn ysgafn. Mor ofalus.
“’Swn i’n neud ‘wbath i gymryd y flwyddyn ddiwetha’ ma’n ôl a delio ‘fo petha’n wahanol. Ond alla i ddim. Pan udodd dy Dad ‘i fod o am drio ca’l gofal llawn ohona chdi, nath bob dim ‘n hitio i ar unwaith fel slap. Wedi colli un plentyn ‘sa rywun yn meddwl ‘sw ni’n gwerthfawrogi llall fwy.
Ond dim dyna nes i.
I fod yn onest ‘fo chdi, ofn sy’ gen i. Bob tro dwi’n mynd a chdi i’r ysgol ma’ gen i’r ofn ‘ma yng ngwaelod fy stumog fod ‘na r’wbath am ddigwydd. ‘Ddigwyddodd be ddigwyddodd mewn eiliad, reit o flaen fy llygaid i, a does dim dal gall yr un peth ddigwydd eto. Unrhyw ddiwrnod. Felly dwi ‘di dy afael yn rhy dynn. Yn frwnt o dynn, ond dim ond achos bo’ gen i ofn dy adael di’ fynd ma’ hynny.
‘Nes i erioed dy frifo di’n fwriadol. Ma’ galar yn beth cas.
Er mod i ‘di deud sawl gwaith, dim dy fai di o’dd be ddigwyddodd, Lili fach. Dim o gwbl. O’dd jest y syniad o allu beio rhywun am be ddigwyddodd, wedi’i grafu yn ‘y mhen i rhywsut yn g’neud i mi deimlo fatha ‘swn i’n gallu delio hefo petha’n well, ond nath hynny ddim newid dim byd. Ar ddiwedd y dydd nath hynny ond g’neud i mi deimlo’n waeth.
Dydi petha’ ond yn mynd yn waeth, Lili fach. Ni wneith petha’ wella. Dwi di colli bob dim.
Blwyddyn yn ôl, ro’dd gen i ŵr odd yn ‘y ngharu i, dau o blant bach hapus yn rhedeg o gwmpas y tŷ yn chwerthin ac yn cadw reiat, ac ro’dd gen i gartref hapus, llawn cariad a hapusrwydd.
Rŵan, ‘oll sy’ gen i ‘di pedair wal blaen a photel fodca sy’ byth i weld yn gorffen. Do’s ‘na ddim hyd yn oed llunia ar y walia'. Ma’ dy dad ‘di gadael, a dwi ‘myn cofio’r tro diwethaf i mi weld gwên ar dy wyneb di.
Ma' bob dim di disgyn yn ddarna’ o flaen fy llygaid i, Lili fach, a dwi ddim yn meddwl alla’i godi’r darnau ‘na a’u rhoi nhw’n ôl at ‘i gilydd.
Ond mi alli di.
Efo help dy dad, mi alli di ddod dros hyn a rhoi’r cwbl tu cefn i chdi. Dw i ddim am ofyn i chdi anghofio, achos coelia di fi, dwi’n gwybod fod hynny’n amhosibl. Ond dwi ‘sio chdi symud ‘mlaen hefo dy fywyd. Canolbwyntio yn ‘rysgol a gafael yn dynn ym mhob breuddwyd sydd gen ti a gwneud dy ora’ i’w cyflawni, achos dwi’n gwybod, Lili fach, bo’ gin ti’r gallu i ‘neud hynny.
Ti’n hogan fach sbesial iawn, Lili, a dwi 'di trysori pob eiliad yn dy fagu di.
A dwi’n dy garu di’n fwy na’ mywyd i, a dwi’n gobeithio rhyw ddiwrnod, y gwnei di fadda’ i mi. Dio ddim ots os ydy’r diwrnod hwnnw mewn degau o fynyddoedd, dwi jest yn gobeithio y galli di fadda’ i mi.”
*****
Heblaw am yr adar yn canu wrth hedfan yn rhydd tu allan, does dim ond distawrwydd yn fy nghroesawu wrth i mi ddeffro. Sydd yn od, o’i gysidro fy mod fel arfer yn cael fy neffro gan floedd Mam. Ond bore ‘ma, dim byd.
Tywynna’r haul trwy’r ffenest, yn addo diwrnod arall.
Agoraf ddrws fy llofft yn araf a gwneud fy ffordd ar hyd y landin. Ma’ raid ‘i bod wedi cysgu’n hwyr, ond dalier drws caeedig yr ystafell ‘molchi fy sylw. Wedi mynd am gawod ma’i.
Gwna’r llestri racs a’r fframiau llun malu ar hyd y llawr wrth y gegin hi’n anodd anghofio ffrae Mam a Dad neithiwr. Pob darn gwydr yn taflu atsain o eiriau cas a gafodd eu cyfnewid rhwng y ddau. Dydi ei ffraeo nhw ‘rioed di bod mor ddrwg â neithiwr.
Wrth i mi eistedd ar y gadair uchel wrth y popty yn aros i’ ‘nhost fod yn barod, mae’r distawrwydd yn tyfu ac yn fy ngwneud yn fwy anghyfforddus. Nid oes siw na miw i’w glywed o’r ystafell ‘molchi, tybed os 'di Mam wedi dod o’r gawod bellach?
Torra sŵn fy nhost yn popian ar fy meddyliau gan achosi i mi neidio oddi ar y gadair. Camaf ar y stôl fach er mwyn cyrraedd y tostar ac estyn am fy nhost, cyn neidio oddi ar y stôl a’i symud at yr oergell. Agoraf y drws a chamu’n ôl ar y stôl er mwyn cyrraedd y pot menyn sydd ar yr ail silff o’r top.
Caeaf y drws a nôl dwy gyllell; un ar gyfer y menyn a llall ar gyfer y jam, rhag ofn i mi gael menyn yn y pot jam.
Cyn i mi gael eiliad i dyllu’r menyn, cana’r ffôn tŷ o’i nyth. Neidiaf oddi ar y gadair a rhedeg amdani- dim ond Dad fydd yn ffonio.
“Helo?”
“Lili? Be ti’n da adra?” mae’r dryswch yn amlwg yn ei lais, ond pam?
“Dwi’n ‘neud brecwast, dwi heb weld Mam eto, dwi’n meddwl ‘i bod hi newydd ddod allan o’r gawod achos 'odd drws ‘stafell ‘molchi ‘di cau pan oni’n dod lawr, ond dwi heb glwad ‘im byd.”
Symudaf yn ôl at y gadair er mwyn rhoi menyn ar fy nhost cyn iddo oeri. Arhosa Dad yn ddistaw am ychydig eiliadau.
“Ocê, boi, gorffenna dy frecwast a ddo’i yna i dy nôl di i fynd a chdi i rysgol, fydda’i ddim yn hir, ocê?”
Ynghŷd â chael trafferth efo’r pot jam a gwneud synnwyr o be’ ma’ Dad yn 'ddeud, dwi’n llwyddo i orffen fy nhost a jam efo un llaw, sy’n ennill gwên falch gennaf.
“Iawn, ocê.”
“Wela’i di’n munud, boi. Caru chdi.”
“Caru chdi ‘fyd, ta, Dad.”
Stwffiaf y tost i ‘ngheg cyn i mi hyd yn oed roi’r ffôn ‘lawr. Estynnaf am riwmôt y teledu a rhoi Cyw ymlaen i basio amser wrth aros am Dad.
Wrth roi’r darn olaf o dost yn fy ngheg, neidiaf oddi ar fy nghadair a rhedeg am y grisiau i newid cyn i Dad gyrraedd. Arhosaf yn stond ar dop y grisiau pan sylwaf fod drws y ‘stafell ‘molchi dal ar gau. Ella boi’n ca'l bath?
Ddylwn i fynd i weld os ‘di’n iawn? Ella na isio llonydd ma’i ar ôl nithiwr a ‘sai’n mynd yn flin ‘fo fi am darfu.
Wrth i mi agosáu at y drws, mae teimlad o ofn yn setlo yng ngwaelod fy stumog. Mae’n rhy ddistaw ochr arall i’r drws.
“Mam?”
Dim byd.
Cnociaf ar y drws yn ysgafn.
Dim byd.
Codaf fy llaw i gnocio’n uwch, ond tarfai sŵn y drws ffrynt yn agor ar fy nhraws ac atseinia llais Dad drwy’r tŷ.
“Lili? Lle wti machi?”
Clywaf sŵn ei draed yn dod i fyny’n grisiau tu ôl i mi, ond anwybyddaf hwy a dechrau cnocio ar ddrws y ‘stafell ‘molchi’n uwch.
“Mam? Mam!?”
“Lili, ty’d yma, blodyn.”
Ma’r drws di cloi! Pam dydi hi ‘myn atab? Gafaelaf yn yr handlen drws a’i ysgwyd yn wyllt cyn i ddwylo Dad lapio o gwmpas fy nwylo a fy nhynnu’n ôl oddi wrth y drws. Pan edrychaf tu nôl i mi, sylwaf ar Taid yn sefyll ychydig gamau tu ôl i Dad.
“Dos di efo Taid i newid, ocê, mach?”
“Pam?”
“Tyd yma, Lili fach. Dwi heb dy weld di erstalwm!” Nid yw gwên Taid yn ddigon i setlo’r teimlad yng ngwaelod fy stumog, ond gadawaf iddo afael yn fy llaw a fy arwain i fy ‘stafell wely.
Cyn i Taid gael cyfle i gau’r drws, clywaf Dad yn rhoi cic i ddrws y ‘stafell ‘molchi. Gyda phopeth yn aflonyddwch dwfn, clywaf wichian seirenau yn y pellter, gan agosáu fesul eiliad, cyn dod i stop tu allan i’r tŷ.
Edrychaf ar Taid. Edrycha Taid drwy’r ffenest. Cryna’i law yn fy llaw innau.
Gyda ‘nghalon yn suddo’n ddyfnach gyda phob curiad, eisteddaf ar bwys y gwely a gwylio’r golau glas yn fflachio ar y waliau drwy’r ffenest, gan geisio anwybyddu’r hyn sy’n digwydd ochr arall i ddrws fy llofft.
Gwasga Taid fy llaw, ac wrth i mi edrych lawr ar ei law enfawr yn cau am fy un innau, mae bocs yng nghornel fy ystafell yn denu fy sylw. Tynnaf fy llaw o afael tynn Taid a gwneud fy ffordd at y bocs. Edrychaf arno am ychydig eiliadau fel pe tai’n estron, cyn estyn at y caead a’i agor.
Yn y bocs, gorwedda bâr o esgidiau duon, a nodyn bach taclus. Gafaelaf yn y darn papur a’i agor yn araf.
“Gobeithio fod y rhain yn ffitio,
Mam x”


Comments

Popular posts from this blog

Ser-ddewinio - Ceri

Tasg sydyn y dydd heddiw oedd ysgrifennu'r hyn oedd yn y ser ddoe - tasg amserol.  Ceri sydd wedi mynd ati i fentro... Mawrth y 23ain, 2020 Mae eich tynged yn glir o’ch blaen. Mae rwan yn amser da i chi fyfyrio,darllen, ysgrifennu, a chlirio yn y ty ar eich pen eich hun. Byddwch yn barod i dderbyn eich cyngor eich hun, gan na fydd neb arall wrth law. Byddwch yn annibynnol, yn gryf, ac yn hapus.

Ymson Gwil - Hana Mair Jones 11.11.20

 Ymson Gwil - Hana Mair Jones A hithau'n ddiwrnod i ni gofio - Hana sy'n ymateb i'r ddrama 'I'r gad fechgyn Gwalia'. Bore Dydd Mawrth, 22ain o Fedi, 1915 Mwd slwtsh sydd i'w weld yma, nid mynyddoedd moel ond anialwch o fudredd. Dwin gweld ambell fynydd ond nid y rhai fel sydd adra, pentyrrau o gyrff marw dwi'n ei weld. Mae'r hiraeth yn rhy hir, y boen yn rhy boenus a'r ofn yn rhy ofnus. Braf oedd deffro borau, y mynyddoedd yn gwisgo'u hetiau niwl a'r llyn fel gwydr, ond nawr dim ond darnau miniog garw y gwydr wedi'i falu'n fan sydd yma, breuddwydion y milwyr ifanc sydd bellach yn y nen. Wela i Twm a Hari ochr draw yn smocio'u cetyn, yn chwerthin yn llawen wrth iddynt sibrwd i'w gilydd. Bechgyn ffôl, yn meddwl mai amser anturus yw hyn, 'once in a life time opportunity' fel udodd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn iddynt wrth iddo lenwi meddyliau'r diniwed â gwenwyn y rhyfel. Syllaf ar Gruff sy'n eistedd

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]