Skip to main content

Posts

Haf 2020 - Gronw Ifan Ellis-Griffith

Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.   Haf 2020 [PENNILL 1] Daeth terfyn ar blentyndod A’n gadael ni mewn syndod. Fe chwalwyd ein gobeithion A’n rhoi ni o dan gloeon. [PENNILL 2] Pob gŵyl wedi ei symud I ryw ddyddiad pell, newydd. Y gwaith i gyd yn ofer, A’i hyn yw ein cyfiawnder? [CYTGAN] Haf dwy fil ag ugain, Rwy ti yn un milain. Haf dwy fil ag ugain, A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain. [PONT] Fe ddaw eto haul ar fryn, Fe ddaw eto ddyddiau da. Fe godwn o fan hyn, A dathlu cyn terfyn ha’. [8 CANOL] [CYTGAN]

Robin Goch - Sioned Jones

Ymarfer ar ddechrau'r cyfnod yn y Coleg ydy'r dasg Tatw.  Dyma ddarn creadigol gan Sioned. Roedd hi’n unarddeg o’r  gloch y bora. Cododd Beca’n hwyr felly roedd ganddi 30 munud i gael ei hun wedi newid a chyrraedd ei apwyntiad. Aphwyntiad... i gael tatw. Ie tatw!    Merch ifanc 18 oed oedd Beca oedd wedi trefnu ddoe, yn fyr-rybudd, apwyntiad i gael tatw. Doedd Beca erioed wedi meddwl y bydda hi am gael tatw. Ond pan basiodd y siop, ystyriodd efallai byddai cael tatw yn dangos pwy ydi hi go iawn?    Taflodd ddillad cynnes amdani gan ruthro lawr y staer ac syth allan trwy ddrws ei thŷ gan adael andros o glec ar ei hôl. Tri bloc rownd y gornel roedd rhaid i Beca ei gymryd er mwyn cyrraedd Inciau Ianto, y siop datw. Cyrhaeddodd Beca’r sip datw 5 munud yn gynharach nag oedd raid oherwydd roedd hi mor gyffroes. Estynodd ei llaw ar handlen y drws oer, camodd i’r ystafell wag. Caeodd y drws yn glec gyda chryfder y gwynt. Neidiodd allan o’i chroen. Wrth i...

Ail ennyn gwên Olwen - Hedd

Un da am fynd i fyd ffantasi ydy Hedd... Ail ennyn gwên Olwen Pam fod toeau mor anioddefol o ddiflas, meddyliodd Olwen wrth iddi syllu'n flinedig tuag at y nenfwd. Pam nad oedd ganddi hi yr un campwaith o bobl mewn llieiniau gwyn, o angylion hudol nac o dduwiau barfog yn syllu lawr arni fel oedd ar nenfwd rhyw amgueddfa y gwelodd rhyw dro gyda'i hen Ewythr Emrys, pan oedd hi'n iau. Ond wedyn, meddyliodd pwy oedd yn mynd i syllu ar y nenfwd hwnnw i werthfawrogi'r ymdrech heb gael poen yn eu gyddfau. Yr unig amser y byddai'n edrych ar nenfwd fel arfer oedd pan byddai'n gorwedd yn ei gwely eisiau mynd i gysgu neu yn syth ar ôl deffro fel yr oedd yn gwneud nawr. Efallai dyna pam fod toeau mor blaen, er mwyn diflasu bobl gymaint eu bod nhw eisiau mynd i gysgu. Bodlonodd ei meddwl ar y syniad yna. Cododd yn araf ar ei heistedd. Sleifiai pelydrau'r haul drwy'r gofod rhwng cyrtens drudfawr ei llofft, gan oleuo pob cornel o'r ystafell...

Adre - Myfanwy Fenwick

Myfanwy ydy awdur y dydd, stori drist am gariad a chyfeillgarwch Adre Pwyso eu cerydd arnom wnaeth y poteli Merlot gweigion wrth i’r nos bilio’i gnawd i olau dydd.Taflodd Mags wen chwil arnaf ac anelu’n sigledig tuag at y gegin. Ail-ymddangosodd gyda bocs wasgod goch-wyn cyfarwydd yn dynn yn ei llaw a’r gair Marlboro wedi serio ar ei glawr.  “Ffycs sec Mags, ni fod i roi lan” “Jest un?” Tu fas, o’i phlyg dadrwymodd dau goesyn hir-frown uwch y llechi gleision cyn i awel chwerw’r bore grino’i thraed i’w chwrcwd. Crogodd y sigaret o’i cheg yn ganiatad i oerfel y wawr gymell y mwg i’w ddwrn. “I ble ti’n meddwl ma’n mynd El? “Be y smoc?” “Nage” “Be te Gandhi?” “Bywyd.”  Rhewais yn f’ansicrwydd gan wylio’i llygaid yn pellhau.  “Dwi’m bo” “Swn ni’n licio bod fel Tada” “Sut ni?” “Ma fe’n credu yndife, neis cal rhwbeth i gredu” Nodiais  “Fi’m yn gwbod am gredu ond dwi’n gwbod be sen ni’n licio credu” “Be ni?” “Bod e fel mynd gytre.” T...