Skip to main content

Adre - Myfanwy Fenwick

Myfanwy ydy awdur y dydd, stori drist am gariad a chyfeillgarwch

Adre
Pwyso eu cerydd arnom wnaeth y poteli Merlot gweigion wrth i’r nos bilio’i gnawd i olau dydd.Taflodd Mags wen chwil arnaf ac anelu’n sigledig tuag at y gegin. Ail-ymddangosodd gyda bocs wasgod goch-wyn cyfarwydd yn dynn yn ei llaw a’r gair Marlboro wedi serio ar ei glawr. 
“Ffycs sec Mags, ni fod i roi lan”
“Jest un?”
Tu fas, o’i phlyg dadrwymodd dau goesyn hir-frown uwch y llechi gleision cyn i awel chwerw’r bore grino’i thraed i’w chwrcwd. Crogodd y sigaret o’i cheg yn ganiatad i oerfel y wawr gymell y mwg i’w ddwrn.
“I ble ti’n meddwl ma’n mynd El?
“Be y smoc?”
“Nage”
“Be te Gandhi?”
“Bywyd.” 
Rhewais yn f’ansicrwydd gan wylio’i llygaid yn pellhau. 
“Dwi’m bo”
“Swn ni’n licio bod fel Tada”
“Sut ni?”
“Ma fe’n credu yndife, neis cal rhwbeth i gredu”
Nodiais 
“Fi’m yn gwbod am gredu ond dwi’n gwbod be sen ni’n licio credu”
“Be ni?”
“Bod e fel mynd gytre.”

Tynnodd lais geiriau i’r gwagle, gan fy nygyd i’r arwyneb.“Miss Morris? Chi’n iawn?” gwenodd y nyrs benfelen yn garedig gan ostwng i’w chwrcwd. “Fi’n fine.” Teimlais fy mherfedd yn codi wrth weld Mags yn ei hosgo. “Sori, fi’n fine diolch” a hynny’n ddigon iddi sythodd a cherdded mas. 

A’r hen gadair yn cocsio mud-boen drwyddaf taflais olwg ar y gwely cyn codi. Roedd rhyw flerwch clinigol yn drech arn0, a gwifre’n llifo i mewn gan drosi Mags yn blwg o gig a gwaed. Un bler ydi hi, a nicyrs budron a sane’n bla ar ei gwely’n feunyddiol, ond blerwch byw sydd arni, nid blerwch fel hyn, nid y botes anaturiol yma. Wrth gamu allan a chau’r lleni fe’i deimlais, y dicter, tinc cyntaf f’annatod. Be ddiawl o’n ni’n feddwl?

“Eli?” Dwi ddim am edrych lan, sdim awydd, dim chwant nag angen, mae defnydd brown y siwt yn anwesu llawr y sbyty a’r sgidie’n rhy sgleiniog i’r fath achlysur. Daw’r nyrs yn ei hol gan ofyn am enw, Ellis Dafis yw’r cynnig “y gwr i fod.” Caiff y cynnig ei derbyn a’r lleni yn ei tro ei agor. Rho’r nyrs wen fach drist, mae fel clocwaith.

“Ddim ti odd e, nage?” Ma fe’n syllu’n daer, ei eiriau’n mygu’r aer yn fwll. Dwi ddim am ateb, ddim am edrych i’w lygad. “Eli, fi jyst methu deall...odd hi’n hapus.” Dwi’n brysur ymadael. Yn lid ar f’ansicrwydd teimlaf y gwylltni’n dychwelyd wrth i’r Uned Critical Care bellhau, a’r coridorau doddi’n un.

Llithraf yr allwedd i’r twll a’i droi, clywaf y clo a chofio na fu imi gloi’r drws. Ni fu imi ddiffodd gole chwaith, doedd fiw imi, ro’n ni’n dwy yn dod nol, yn doeddwn? Yn ei le priodol odd popeth, y blanced wysg ei batrwm ar lawr a’r gwydre’n dal i waedu’r un gwin rhad y buon yfed echddoe. Roedd minlliw pinc Mags yn dal i fod ar un ohonynt, codais y gwydr wrth ei fon a’i wthio i’m gwefusau cyn atal fy hun, roedd y gwin yn chwerw.

“Fi methu credu ‘ny”
“Onest tw god Els...ma’n wir” Siglodd ei llaw a rhyw gryndod ar ei phedwaredd bys.
Suddais ym mhellach i mewn i gol yr hen soffa ledr a’ng nghalon yn pwyso’n drwm ar fy stumog.
“Pryd ddigwyddodd e?”
“Heddi”
“A be ddedes di”
“Be ti’n meddwl ddedis i” atebodd gan daflu’r clustog arna’i, gwen ledu ei wep.

Yng nghefn y cwpwrdd oeddyn nhw, tu ol y powdr siocled poeth, dim ond dau oedd ar ol. Rhegais wrth gofio nad odd da fi daniwr. Wedi hidlo drwy fynydd o’i dillad yn y gobaith y byddai siaced neu bar o jins yn datgelu un, ffindes i fe, rhyw hen daniwr pinc, ond ddaeth fflam iddi ddim.Ymbalfalais yn ol i’r gegin gan droi bwlyn yr hob nwy mlan a’r un llaw, a thanio’r sigaret a’r llall, wrth ei godi i fy ngwefus teimlais wlypter ar fy nghledr. Dagre.

Llithrodd y cryno ddisg i’r peiriant a’i dwylo hirion. Roedd y cas ar yr ochr yn hau ol defnydd, ol byw, ol mwynhad, Albym Meinir Gwilym oedd e.

“Tisho gwbod rhwbeth Els”
“Be?”
“No judgement...addo”
“Be?”
“Dwi rioed di licio Bryn Terfel a fydda’i byth yn” a gyda hynny newidiodd Mellt gan wneud lle i’r gan nesa. Yn ysgafn disgynodd wen ar ei gwefus wrth i’r tannau cyntefig doddi i alaw Hen Gitar. Llaciodd a chau ei llygaid gan yngan y geiriau yn ei dedwydd. 
“Mags?”
“Ie”
“Tisho gwbod rhywbeth...”
“Wastad...”
“Dwi’n caru ti”
Disgynodd lonyddwch tambaid a dim i’w lenwi ond curo fy nghalon wrth i’w llygaid brown ail-agor.
“Sori…” cychwynais
Yna fe’i teimlais, estynodd draw a nghusanu 

Miss Morris, dwi’n deall bod eich profedigaeth yn un wael, ond mae’n ddyletswydd arnom i ddeall pam tu hwnt i hyn. Craffa’r heddwas ar fy ngwyneb yn chwilio am yr ateb i’w gwestiwn, ond fe arosaf yn fud. “Be yn union ddigwyddodd y noson hono, ydych chi’n cofio?” “Na” atebaf yn syml.

Hwylio drwyddaf wysg fy mraich dde wna’r ergyd gyntaf. Yn ffrwyn ar f’afreolaeth mae’n pyllio’r gwylltni gan adael dim. Gwna’r gwrthdrawiad eilaidd fawr run peth i’n ochr chwith gan ledaenu’r tywyllwch yn bla nes cael gafael ar fy mron, a thynnu. Hollta gnoc amrwd fy nhrisrwch gan fy ngorfodi tua’r drws.

“Dwi ishe ti siarad El.” Gwena Mrs Davies arna’i wan. “Ti odd yn ‘nabod hi ore” Ma na rhyw dristwch yn ei chroen a hwnnw’n hongian mor flinedig o’i hwyneb. Symuda ei llygaid dolurus tuag at ddrws ystafell Mags, “Dwi jest yn disgwyl iddi gerdded mas ma...unrhyw eiliad nawr” Mae’r ddwy ohonom yn sefyll mewn rhyw dawelwch, yn dymuno iddi wneud hynny’n union, digwydda ddim. Gwyliaf wrth iddi droi ar ei sawdl, ei llygaid yn disgleirio gan dynnu sylw i’r ddau rigol yn tanlinellu ei llygaid blinedig. “Meddylia amdana fe.” A gyda hynny mae hi’n cau’r drws ar ei hol.

Gwyliais wrth i’w chefen brysuro i lawr y staer, y cryndod yn ei hosgo’n torri nghalon yn ddau. 
“Mags, dere nol”
Rhwygodd drysau’r adeilad ar agor a rhedeg tu allan, dilynais.
“Mags, dere nol, ni angen siarad”
Trodd i’m wynebu, “Sai’n gallu Els” sibrydodd, wrth gamu’n ol i mewn i’r rhewl.
“Pam? Pam Mags?”
“Achos fi’n caru ti fyd…” 
A dyna pryd ddath e, y car. Odd y rhewl ar gornel, fedra’i o ddim wedi gwybod. Ond fe deimlais y dicter, efo fi, efo fo efo Mags…

Nes i ddim siarad. Do’n ni methu, rhyw dynnu ar fy ngwddw’n rhwystro’r geiriau. Mae na rhyw lonyddwch mewn cnebrwng rhywun ifanc, rhyw chwithdod yn drwch ar bawb. Roedd yr un llonyddwch yn bod yn y fflat, cynigodd Mam i mi gael mynd adref ond gwrthodais. Roedd na ryw ysfa yn fy mod, rhyw angen i fod gyda Mags. Tynnais fy nillad ohonaf a philio’r cwrteisi o’m hanfod gan daflu un o’i siwmperi amdana’i a cherdded tua’r allanfa.

Taniais sigaret olaf y baced gan wylio wrth i’r mwg fyseddu awel mwyn y nos yn ysgafn. “Ffycs sec Mags...Ni fod i roi lan.” dywedais yn dawel. Uwch fy mhen estynnai’r ser dan lwnc agored lleuad y Cynhaeaf. “Gobeithio nes di gyrraedd gytre Mags...achos o’t ti’n sicr yn teimlo fel gytre i fi.” 

Comments

Popular posts from this blog

Am dro i Ben y Cil - Emrys Evans

  Pen Y Cil Ym mhen draw Llyn, mae pentir carregog yn ymestyn i'r mor, yn trio ei ora i gydio  yn yr ynys sydd yn gorwedd o'i flaen. Ar ddiwrnod cymylog o fis Medi, mae'r llystyfiant a oedd yn llawn lliw a bwrlwm ychydig fisoedd yn ol, yn sefyll yn frown ac yn grimp erbyn hyn. Mae'r aer yn dawel, dim ond swn y frwydr ddiddiwedd rhwng y creigiau a'r cefnfor, yn taro yn erbyn ei gilydd bob eiliad sy'n pasio. Bob hyn a hyn, mae sgrech yr wylan neu swn giat yn hollti trwy sain undonog y mor, cyn dychwelyd i'r gylchred gyfarwydd yna unwaith eto. Weithiau hyd yn oed, mae swn awyren yn ein hatgoffa o’r byd dynol, er ei bod yn ddigon hawdd anghofio amdano mewn lle mor wyllt. Yn aml, mae dwr mor yn ffrwydro i fyny o bob ochr, ac yn darparu haen o halan hallt ar y creigiau sydd ym mhobman yma. O flaen y pentir, mae llethr serth y parwyd, golygfa fygythiol i unrhyw un sydd yn rhoi ei lygaid ar y darn enfawr o graig yma. Ar olwg agosaf, mae cymlethdod enfawr i glo...

Ymsonau Bachgen mewn dau gyfnod gwahanol - Beca Hughes

Mae Beca wedi mynd ati i sgwennu dwy ymson... mwynhewch Ymson bachgen mewn dau gyfnod gwahanol yn ei fywyd Ymson Ifan: Yn ystod y rhyfel byd cyntaf Rhyddid. Be ‘di hwnnw? Peth diethr iawn i mi. Rwy’n breuddwydio am fynd tu draw i fynyddoedd Eryri a gweld y byd go iawn. Rwy’n breuddwydio am gael gweld y dinasoedd mawr a’r golygfeydd godidog; ymweld a’r llefydd mwyaf ysblennydd yn y byd. Rwy’n dyheu am gyfarfod pobl newydd, pobl wahanol i bobl y chwarel. Ond na, mae’r chwarel yn garchar ac yma fyddai fyth, diolch i Wil, fy ‘mrawd’. Mae o’n teimlo fel breuddwyd, ond yn fwy fel hunllef, ond dwi’n gobeithio deffro. Deffro o’r hunllef afiach dwi’n ei ganol. Wil yn listio, Wil o bawb! Ni fysa Wil yn rhoi niwed i bry heb son am ladd gyd-ddyn. Mi fydd o yn union fel oen i’r lladdfa yn y fyddin, dydi’r fyddim ddim yn le iddo. Rwy’n teimlo’n ddrwg am y peth, ond pam ddylwn i? Ei benderfyniad o ei hun oedd listio, penderfyniad gwirion iawn. Dwi’m yn gallu coelio yr hyn mae Wil wedi’i...

Porthoer - Ela Pari

Un o dasgau cynta'r flwyddyn yn aml ydy ysgrifennu am le arbennig.   A hithau'n flwyddyn y m ôr, lle sydd well 'na thraethau Ll ŷn? Mae’r allt serth yn fy ngollwng ar y tywod sidan melyn sy’n chwibanu cân o groeso. Fel ci yn llyfu ei glwyfau mae’r môr yn golchi olion traed y dydd ac yn sibrwd y byd i gysgu. Tu ôl i’r gorwel mae’r haul yn suddo gan adael lliw ei fachau mwyar duon yn y cymylau gwyn glân. Er bod y ias yn crwydro’n oer lawr colar fy nghot mae lliwiau cynnes yr awyr yn fy nghadw ar y traeth. Mae tirlithriadau fel crychau yn heneiddio wyneb y clogwyn tal, ond mae’r gwair gwyrdd yn dawnsio’n rhydd i gerddoriaeth yr awel. Yn focs clo yng nghesail y clogwyni mae’r caffi a’r siop yn cuddio trysorau lliwgar, plastig. Dros y ffordd mae’r creigiau caled du yn llechu crancod â crafangau parod, ambell i fwced coll a hanes trist y rhai fu arno. Wrth lusgo fy nhraed ar hyd y tywod euraidd i ben arall y traeth, mae ambell i bysgotwr yn pacio eu cadeiri...