Pen Y Cil Ym mhen draw Llyn, mae pentir carregog yn ymestyn i'r mor, yn trio ei ora i gydio yn yr ynys sydd yn gorwedd o'i flaen. Ar ddiwrnod cymylog o fis Medi, mae'r llystyfiant a oedd yn llawn lliw a bwrlwm ychydig fisoedd yn ol, yn sefyll yn frown ac yn grimp erbyn hyn. Mae'r aer yn dawel, dim ond swn y frwydr ddiddiwedd rhwng y creigiau a'r cefnfor, yn taro yn erbyn ei gilydd bob eiliad sy'n pasio. Bob hyn a hyn, mae sgrech yr wylan neu swn giat yn hollti trwy sain undonog y mor, cyn dychwelyd i'r gylchred gyfarwydd yna unwaith eto. Weithiau hyd yn oed, mae swn awyren yn ein hatgoffa o’r byd dynol, er ei bod yn ddigon hawdd anghofio amdano mewn lle mor wyllt. Yn aml, mae dwr mor yn ffrwydro i fyny o bob ochr, ac yn darparu haen o halan hallt ar y creigiau sydd ym mhobman yma. O flaen y pentir, mae llethr serth y parwyd, golygfa fygythiol i unrhyw un sydd yn rhoi ei lygaid ar y darn enfawr o graig yma. Ar olwg agosaf, mae cymlethdod enfawr i glo...