Skip to main content

Posts

Showing posts from April, 2020

Ail ennyn gwên Olwen - Hedd

Un da am fynd i fyd ffantasi ydy Hedd... Ail ennyn gwên Olwen Pam fod toeau mor anioddefol o ddiflas, meddyliodd Olwen wrth iddi syllu'n flinedig tuag at y nenfwd. Pam nad oedd ganddi hi yr un campwaith o bobl mewn llieiniau gwyn, o angylion hudol nac o dduwiau barfog yn syllu lawr arni fel oedd ar nenfwd rhyw amgueddfa y gwelodd rhyw dro gyda'i hen Ewythr Emrys, pan oedd hi'n iau. Ond wedyn, meddyliodd pwy oedd yn mynd i syllu ar y nenfwd hwnnw i werthfawrogi'r ymdrech heb gael poen yn eu gyddfau. Yr unig amser y byddai'n edrych ar nenfwd fel arfer oedd pan byddai'n gorwedd yn ei gwely eisiau mynd i gysgu neu yn syth ar ôl deffro fel yr oedd yn gwneud nawr. Efallai dyna pam fod toeau mor blaen, er mwyn diflasu bobl gymaint eu bod nhw eisiau mynd i gysgu. Bodlonodd ei meddwl ar y syniad yna. Cododd yn araf ar ei heistedd. Sleifiai pelydrau'r haul drwy'r gofod rhwng cyrtens drudfawr ei llofft, gan oleuo pob cornel o'r ystafell

Adre - Myfanwy Fenwick

Myfanwy ydy awdur y dydd, stori drist am gariad a chyfeillgarwch Adre Pwyso eu cerydd arnom wnaeth y poteli Merlot gweigion wrth i’r nos bilio’i gnawd i olau dydd.Taflodd Mags wen chwil arnaf ac anelu’n sigledig tuag at y gegin. Ail-ymddangosodd gyda bocs wasgod goch-wyn cyfarwydd yn dynn yn ei llaw a’r gair Marlboro wedi serio ar ei glawr.  “Ffycs sec Mags, ni fod i roi lan” “Jest un?” Tu fas, o’i phlyg dadrwymodd dau goesyn hir-frown uwch y llechi gleision cyn i awel chwerw’r bore grino’i thraed i’w chwrcwd. Crogodd y sigaret o’i cheg yn ganiatad i oerfel y wawr gymell y mwg i’w ddwrn. “I ble ti’n meddwl ma’n mynd El? “Be y smoc?” “Nage” “Be te Gandhi?” “Bywyd.”  Rhewais yn f’ansicrwydd gan wylio’i llygaid yn pellhau.  “Dwi’m bo” “Swn ni’n licio bod fel Tada” “Sut ni?” “Ma fe’n credu yndife, neis cal rhwbeth i gredu” Nodiais  “Fi’m yn gwbod am gredu ond dwi’n gwbod be sen ni’n licio credu” “Be ni?” “Bod e fel mynd gytre.” Tynnodd lais geiriau