Dyma ddarn effeithiol gan Gwen yn seiliedig ar yr ymarferion creadigol ar ol gwylio'r ddrama 'I'r Gad Fechgyn Gwalia' Un bluan wen. Dyna’r cwbwl, am wn i . Un bluan wen unig yn pigo cydwybod ac yn herio. Mae hi wedi bod yn gwmni i mi ers meitin rwan. Dim ond fi a’r bluan wen yn sbio’n hurt ar ein gilydd ….peth mor dlws, mor fregus , ond eto mor gryf. LLe aeth Gwil ? Dwn i ddim…..rhy bell i mi fedru rhedag ar ei ôl o rwan . Mae o’n cymryd y goes bob tro ar ôl ffeit……. fyny i dop y chwaral mae o wedi ei heglu hi ma siwr , ei hoff le o i ddianc rhag mam pa oedd ni’n hogia bach. Fedra i ein gweld ni rwan, y ddau ohonan ni’n sbio lawr am y bonc. Eistedd yno efo Gwil , yn llyfu’n clwyfau ar ryw sgarmas yn y tŷ. Cofio sbio lawr ar y cwm a cheisio deall mawredd y lle. Mawredd a oedd yn codi pwys arna i , ac ofn . Mawredd a oedd hefyd yn gwneud i mi garu yr hen le yn angerddol . Ers talwm oedd ...