Dyma ddarn arbennig gan Gronw yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth nifer sydd yr un oed ag o.  Darn sydd wedi ei gyflwyno ar dudalen Cor -ona ar Facebook yn wreiddiol.  Diolch Gronw am gael eu cofnodi yma hefyd.       Haf 2020     [PENNILL 1]   Daeth terfyn ar blentyndod   A’n gadael ni mewn syndod.   Fe chwalwyd ein gobeithion   A’n rhoi ni o dan gloeon.     [PENNILL 2]   Pob gŵyl wedi ei symud   I ryw ddyddiad pell, newydd.   Y gwaith i gyd yn ofer,   A’i hyn yw ein cyfiawnder?     [CYTGAN]   Haf dwy fil ag ugain,   Rwy ti yn un milain.   Haf dwy fil ag ugain,   A ‘da ni ein hunain, ‘da ni ein hunain.     [PONT]   Fe ddaw eto haul ar fryn,   Fe ddaw eto ddyddiau da.   Fe godwn o fan hyn,   A dathlu cyn terfyn ha’.     [8 CANOL]     [CYTGAN]