Disgrifiad tymhorol - Cain Hughes      Câf fy nharo gan arogl aelwydaidd catrefol wrth gamu dros y ci defaid sy’n hawlio’i lle yn    nrws y tŷ, yn malio dim. Caeaf y drws yn gleb tu ôl i mi i nadu’r gwrês rhag dianc o gysur   pedair wal y tŷ. Gwn yn iawn beth sydd i swpar wrth i arogl lobsgows fy nghroesawu wrth i    mi gerddded trwy ddrws y gegin gan ffyrnigo’r bwystfil swnllyd sy’n godaran yn fy stumog. Â    hithau bellach yn ganol Rhagfyr, hongia addurniadau Nadoligaidd yma ac acw ar hyd y    waliau, a goleuadau bychain o gwmpas y ffenestri, eu melyn llachar yn cyferbynnu â düwch    bygythiol yr awyr. Mae oerfel y gaeaf ar ei orau ac yn byseddu gwadnau fy nhraed wrth i mi   gicio fy esgidiau o dan y fainc a chladdu fy nhraed yn fy slipas. Teimlaf blaenau fy mysedd    diffrwyth yn cynhesu wrth i mi’w hofran uwch ben yr Aga cyn llenwi’r tegell a’i roi ar ei phlât   . Sudda fy nhraed i ddyfnder y carped wrth i mi gamu mewn i’r parlwr a châf chwiff o wrês y    stôf goed ar fy nghroen...